Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.
Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Herio penderfyniad PIP – ailystyriaeth orfodol

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad sydd wedi’i wneud ynglŷn â’ch hawliad PIP, gallwch chi herio’r penderfyniad hwnnw. Dylech chi herio o fewn mis i’r penderfyniad.

Gallwch herio penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â PIP:

  • os na chawsoch chi’r penderfyniad
  • os cawsoch chi lefel is o PIP nag yr oeddech chi’n ei ddisgwyl
  • os ydych chi’n meddwl y dylai eich dyfarniad bara am gyfnod hwy

Os ydych chi eisiau herio’r penderfyniad am fod eich cyflwr wedi gwaethygu, bydd angen i chi ddilyn gweithdrefn wahanol, felly dylech gael cyngor gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol yng Nghymru a Lloegr neu yn yr Alban.

Mae ystadegau diweddaraf y llywodraeth yn dangos bod mwy na hanner y penderfyniadau PIP yn cael eu newid ar ôl ailystyriaeth orfodol neu apêl i dribiwnlys, felly heriwch y penderfyniad os ydych chi’n meddwl ei fod yn anghywir. Nid yw’n costio unrhyw beth i chi apelio.

Gwnewch gais am ailystyriaeth orfodol

Y ffordd orau o wneud cais am ailystyriaeth yw trwy ddefnyddio’r ffurflen gais ailystyriaeth orfodol CRMR1 yn GOV.UK, neu ysgrifennu llythyr i’r Adran Gwaith a Phensiynau yn esbonio pam rydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad.

Gallwch ffonio’r Adran Gwaith a Phensiynau i ofyn am ailystyriaeth, ond byddai’n well i chi roi popeth ar bapur. Os byddwch chi’n penderfynu ffonio, gofalwch eich bod chi’n anfon llythyr hefyd. Bydd y manylion cyswllt ar y llythyr penderfyniad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Edrychwch ar y dyddiad ar eich llythyr penderfyniad. Mae angen i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol o fewn mis i’r dyddiad hwnnw. Os byddwch chi’n defnyddio’r ffurflen neu’n anfon llythyr, bydd angen i’r Adran Gwaith a Phensiynau ei dderbyn o fewn mis.

Os ydych chi wedi colli’r dyddiad terfyn 1 mis

Mae hi’n dal i fod yn werth i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol, cyn belled nad yw hi’n fwy nag 13 mis ers y penderfyniad.

Bydd angen i chi esbonio’ch rhesymau dros fod yn hwyr – er enghraifft, os oedd y ffaith eich bod chi’n sâl neu’n ymdrin ag amgylchiadau personol anodd yn golygu na allech chi wneud cais mewn pryd. Defnyddiwch eich ffurflen neu eich llythyr i esbonio pam mae’ch cais yn hwyr a pham eich bod chi’n anghytuno â’u penderfyniad.

Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau wrthod eich cais os yw’n hwyr ond, cyn belled â’ch bod chi wedi gwneud cais o fewn 13 mis i’r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad, gallwch apelio yn erbyn eu penderfyniad mewn tribiwnlys.

Beth sydd angen i chi ei ddweud

Mae angen i chi roi rhesymau penodol pam rydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad. Defnyddiwch eich llythyr penderfyniad, eich datganiad o resymau a’ch adroddiad asesiad meddygol i nodi pob un o’r datganiadau rydych chi’n anghytuno â nhw a pham. Rhowch ffeithiau, enghreifftiau a thystiolaeth feddygol (os oes gennych chi) i gefnogi’r hyn rydych chi’n ei ddweud.

Enghraifft yn seiliedig ar broblemau yn paratoi bwyd

Mae fy adroddiad asesiad meddygol yn nodi nad ydw i angen unrhyw gymhorthion na help i baratoi fy mhrydau bwyd. Nid yw hyn yn wir. Dydw i ddim yn gallu coginio unrhyw fwyd o’r cychwyn – rydw i ond yn gallu twymo bwyd mewn popty microdon ac mae angen i mi ddefnyddio stôl yn fy nghegin.

Enghraifft yn seiliedig ar broblemau symudedd

Dydw i ddim yn meddwl eich bod chi wedi asesu maint fy mhroblemau symudedd yn ddigonol. Rydych chi’n dweud fy mod i’n gallu cerdded 50 metr heb gymorth. Mewn gwirionedd, mae gwneud hyn yn achosi poen mawr i mi, sy’n golygu na alla i gerdded o gwbl am weddill y dydd. Rydw i wedi amgáu llythyr gan fy ffisiotherapydd sy’n esbonio hyn yn fwy manwl.

Werth gwybod

Gallwch chi edrych ar y system pwyntiau mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn ei defnyddio i asesu hawliadau PIP i weld lle gallech chi gael mwy o bwyntiau.

Mae’n bwysig sicrhau bod gennych chi’r dystiolaeth iawn. Gallwch ddefnyddio ein canllaw ar sut mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud penderfyniad i’ch helpu chi.

Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau ailedrych ar eich dyfarniad cyfan os byddwch chi’n gwneud cais am ailystyriaeth orfodol. Dylech ystyried a yw’n werth i chi gymryd y risg a cholli’ch dyfarniad presennol – er enghraifft, os oes gennych chi dystiolaeth i gefnogi elfen bywyd beunyddiol ond y gallech chi golli’ch dyfarniad symudedd am eich bod chi’n gallu symud yn well erbyn hyn.

Os ydych chi angen help gyda’ch apêl, cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol yng Nghymru a Lloegr neu yn yr Alban. Ceisiwch gysylltu ar unwaith – efallai y bydd rhaid i chi ddisgwyl am apwyntiad a dim ond mis sydd gennych chi i anfon eich llythyr i mewn.

Cael canlyniad eich ailystyriaeth orfodol

Does dim rhaid i’r Adran Gwaith a Phensiynau wneud y penderfyniad o fewn amserlen benodol ac, weithiau, mae’n gallu cymryd misoedd i chi gael eich llythyr penderfyniad – yr enw ar y llythyr hwn yw ‘hysbysiad ailystyriaeth orfodol’. Bydd 2 gopi yn cael eu hanfon atoch chi – bydd angen i chi anfon 1 i ffwrdd os byddwch chi angen mynd ymlaen i gyfnod nesaf yr apêl.

Os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn newid ei phenderfyniad, byddwch chi’n dechrau derbyn eich taliad PIP ar unwaith. Bydd eich taliadau PIP yn cychwyn o ddyddiad y penderfyniad gwreiddiol. Os ydych chi’n herio’r lefel rydych chi wedi cael eich rhoi arni a bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn newid y penderfyniad, byddan nhw’n talu’r gwahaniaeth ar gyfer yr amser a gymerwyd iddyn nhw wneud y penderfyniad.

Peidiwch â phoeni’n ormodol os na fyddan nhw’n newid y penderfyniad; ychydig iawn o benderfyniadau sy’n cael eu newid yn y cyfnod hwn. Mae mwy o benderfyniadau’n cael eu newid ar ôl ail gyfnod yr her – os bydd eich cais am ailystyriaeth orfodol yn cael ei wrthod, gallwch chi apelio i dribiwnlys.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.