Sut mae’r Adran Gwaith a Phensiynau’n penderfynu ar hawliadau PIP
Pan gewch chi’ch asesu am y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), bydd gweithiwr iechyd proffesiynol yn edrych ar eich gallu i gyflawni amrywiaeth o weithgareddau bywyd bob dydd a gweithgareddau symudedd. Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn ystyried a yw’ch cyflwr iechyd neu anabledd yn cyfyngu ar eich gallu i gyflawni’r gweithgareddau a faint o gymorth rydych chi ei angen i’w cyflawni.
Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd penderfynwr o’r adran honno’n penderfynu wedyn a oes gennych chi hawl i’r PIP, ar ba gyfradd ac am ba mor hir.
Mae 2 ran i’r PIP – yr elfen bywyd dyddiol a’r elfen symudedd. Mae’r ddwy elfen yn cael eu talu ar un o 2 gyfradd, naill ai’r gyfradd sylfaenol neu’r gyfradd uwch.
Os yw’r penderfynwr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau’n penderfynu bod eich gallu i gyflawni’r elfen yn gyfyngedig, byddwch yn cael y gyfradd sylfaenol. Os yw’n gyfyngedig iawn, byddwch yn cael y gyfradd uwch.
Y gweithgareddau bywyd dyddiol
I gael elfen bywyd dyddiol y PIP, rhaid bod gennych chi gyflwr corfforol neu feddyliol sy’n cyfyngu ar eich gallu i gyflawni rhai neu bob un o’r gweithgareddau hyn:
- paratoi bwyd
- bwyta ac yfed
- rheoli’ch triniaethau
- golchi ac ymolchi
- rheoli anghenion toiled neu anymataliaeth
- gwisgo a dadwisgo
- cyfathrebu’n llafar
- darllen a deall gwybodaeth ysgrifenedig
- cymysgu gydag eraill
- gwneud penderfyniadau am arian
Mae gan Action on Hearing Loss help penodol os na allwch chi fynegi neu ddeall gwybodaeth lafar.
Y gweithgareddau symudedd
I gael elfen symudedd PIP, rhaid bod gennych chi gyflwr corfforol neu feddyliol sy’n cyfyngu ar eich gallu i gyflawni rhai neu bob un o’r gweithgareddau hyn:
- cynllunio a dilyn teithiau
- symud o gwmpas
Y disgrifyddion
Mae’ch gallu i gyflawni pob gweithgaredd yn cael ei fesur yn erbyn rhestr o ddatganiadau safonol sy’n disgrifio’r hyn rydych chi’n gallu ei wneud neu’n methu â’i wneud. Y disgrifyddion yw’r rhain. Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau pa ddisgrifydd sy’n berthnasol i chi am bob gweithgaredd.
Er enghraifft, mae 6 disgrifydd ar gyfer ‘Gwisgo a dadwisgo’, o ‘Gallu gwisgo a dadwisgo heb gymorth’ i ‘Methu â gwisgo a dadwisgo o gwbl’.
Mae gan bob disgrifydd sgôr rhwng 0 a 12.
Lawrlwytho: Tabl o weithgareddau, disgrifyddion a phwyntiau
Lawrlwytho: Canllaw i’r iaith a ddefnyddir yn y gweithgareddau a disgrifyddion [ 110 kb]
Allwch chi gyflawni’r gweithgareddau’n ddibynadwy
Pan fydd yr aseswr yn penderfynu pa ddisgrifydd sy’n berthnasol i chi, rhaid iddo ystyried ydych chi’n gallu cyflawni’r gweithgaredd yn ddibynadwy. Mae hyn yn golygu:
- yn ddiogel mewn ffordd sy’n annhebygol o achosi niwed naill ai i chi neu unrhyw un arall, naill ai yn ystod y gweithgaredd neu wedyn
- i safon dderbyniol
- mwy nag unwaith mor aml ag sy’n ofynnol o fewn rheswm
- o fewn cyfnod amser rhesymol – ni ddylai gymryd dwywaith mor hir i chi â rhywun heb eich cyflwr
Defnyddio cymhorthion neu ddyfeisiau
Bydd eich gallu i gyflawni’r gweithgareddau bywyd dyddiol a’r gweithgareddau symudedd yn cael ei asesu fel pe baech yn gwisgo neu’n defnyddio unrhyw gymhorthion neu ddyfeisiau y byddai’n rhesymol i chi eu defnyddio. Mae hyn yn wir waeth a ydych chi’n defnyddio’r cymhorthion neu’r dyfeisiau hynny fel arfer ai peidio. Fodd bynnag os ydych chi’n defnyddio neu angen cymhorthion a dyfeisiau, gall hyn eich helpu i sgorio rhagor o bwyntiau.
Cymorth yw unrhyw eitem sy’n gwella, yn darparu neu’n disodli gweithrediad corfforol neu feddyliol. Nid oes rhaid iddo fod wedi’i ddylunio’n arbennig i fod yn gymorth anabledd. Mae enghreifftiau’n cynnwys stôl rydych chi angen eistedd arni wrth goginio, neu ffôn i’ch helpu i sefyll.
Sgorio’ch galluoedd
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau’n adio’ch pwyntiau o’r holl weithgareddau bywyd dyddiol. Os bydd eich cyfanswm rhwng 8 ac 11 pwynt, byddwch yn cael elfen bywyd dyddiol y PIP ar y gyfradd safonol. Os cewch chi gyfanswm o 12 pwynt neu fwy, byddwch yn cael yr elfen bywyd dyddiol ar y gyfradd uwch.
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau’n adio’ch pwyntiau o’r holl weithgareddau symudedd. Os bydd eich cyfanswm rhwng 8 ac 11 pwynt, byddwch yn cael elfen symudedd y PIP ar y gyfradd safonol. Os cewch chi gyfanswm o 12 pwynt neu fwy, byddwch yn cael yr elfen symudedd ar y gyfradd uwch.
Gweld faint allwch chi ei gael am bob elfen o PIP.