Gwerthiant credyd
Ynglŷn â gwerthiant credyd
Mae’r dudalen hon yn esbonio’r hyn yw gwerthiant credyd a’r hyn i fod yn wyliadwrus ohono os cynigir cynllun di-log i chi.
Beth yw gwerthiant credyd
O dan gytundeb gwerthiant credyd, rydych yn prynu’r nwyddau am bris. Fel arfer mae’n rhaid i chi dalu llog ond mae rhai cyflenwyr yn cynnig credyd di-log. Rydych yn ad-dalu mewn rhandaliadau hyd nes eich bod wedi talu’r swm cyfan.
Chi yw perchennog cyfreithiol y nwyddau cyn gynted â’ch bod yn llofnodi’r contract ac ni allwch ddychwelyd y nwyddau os ydych yn newid eich meddwl. Nid yw’r cyflenwr yn gallu adfeddiannu’r nwyddau os nad ydych yn ad-dalu ond fe all gymryd camau yn y llys i adennill yr arian sy’n ddyledus os ydych yn mynd i ddyled.
Cynlluniau di-log
Mae cynlluniau di-log yn gallu eich temtio a gallant fod yn syniad da. Ni fydd yn rhaid i chi dalu llog cyhyd â’ch bod ad-dalu.
Mae’n bosib nad yw nwyddau yn rhatach fel hyn. Gallai pris cyffredinol yr eitem fod yn uwch er mwyn digolledu’r elfen ddi-log.
Os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau, gallai’r benthyciwr ddechrau codi llog arnoch a gallai fod ar gyfradd uwch na’r arfer. Gwiriwch eich cytundeb credyd. Y cytundeb credyd yw’r ddogfen gyfreithiol a lofnodoch pan gawsoch gredyd.
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Yn Adviceguide
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r gwahanol ffyrdd o fenthyg arian a chael credyd, gweler Mathau o fenthyciadau.
Mae’n bosib y byddai’r wybodaeth ganlynol yn Adviceguide yn gynorthwyol:
- Cael y cynllun credyd gorau
- Cardiau credyd
- Credyd
- Banciau a chymdeithasau adeiladu
- Cynyddu eich incwm
- Sut i wario llai
- Cymorth gyda dyled yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon
- Cymorth gyda dyled yn Yr Alban.
Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian
Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.
Rhowch glic ar y wefan am fwy o wybodaeth ynghylch: