Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.
Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Lwfans Gofalwr

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Budd-dal ar gyfer pobl sy'n rhoi gofal rheolaidd a sylweddol i bobl anabl yw'r Lwfans Gofalwr. Mae'n fudd-dal trethadwy ac yn rhan o'ch incwm trethadwy.

Pwy sy'n gallu cael Lwfans Gofalwr

Fel arfer, gallwch gael Lwfans Gofalwr os yw pob un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi'n 16 oed neu’n hŷn
  • dydych chi ddim mewn addysg llawn amser
  • rydych chi’n treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am berson anabl
  • mae'r person rydych chi'n gofalu amdano yn cael un o'r budd-daliadau canlynol: Lwfans Gweini, Lwfans Gweini Cyson, cyfradd ganol neu uchaf elfen ofal Lwfans Byw i'r Anabl, elfen byw bob dydd Taliad Annibyniaeth Personol (y naill gyfradd neu'r llall) neu Daliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • dydych chi ddim yn ennill mwy na £128 yr wythnos – ar ôl didyniadau fel treth incwm, Yswiriant Gwladol a hanner eich cyfraniadau pensiwn
  • dydych chi ddim yn destun rheolaeth fewnfudo a fyddai'n eich atal rhag cael budd-daliadau

Fel arfer, mae'n rhaid i chi fod ym Mhrydain pan fyddwch yn hawlio. Mae rhai eithriadau, er enghraifft, i aelodau o'r lluoedd arfog a'u teuluoedd.

Efallai y cewch chi Lwfans Gofalwr os ydych chi a'r person rydych chi'n gofalu amdano yn symud i'r UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, neu os ydych chi eisoes yn byw yn un o'r gwledydd hyn. Mae rhagor o wybodaeth am hawlio budd-daliadau os ydych chi'n byw, yn symud neu'n teithio dramor ar gael yn GOV.UK.

Os ydych chi wedi byw y tu allan i'r DU

Bydd angen i chi roi tystiolaeth i ddangos mai'r DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yw eich prif gartref a'ch bod yn bwriadu aros yno.  'Preswylio fel arfer' yw'r enw ar hyn.

Sut i brofi eich bod yn 'preswylio fel arfer'.

Rhaid eich bod wedi byw ym Mhrydain am 2 o'r 3 blynedd diwethaf. Cymru, Lloegr a'r Alban yw Prydain. Nid yw'n cynnwys Gogledd Iwerddon.

Does dim rhaid i chi fod wedi treulio’r cyfnod ym Mhrydain mewn un cyfnod.  Er enghraifft, gallech fod wedi byw yn Lloegr am flwyddyn, yr Unol Daleithiau am flwyddyn a Chymru am flwyddyn.

Efallai'ch bod yn dal yn gymwys os nad ydych wedi byw ym Mhrydain am ddigon o amser, ond wedi byw yn yr UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein.

Os nad ydych chi wedi byw ym Mhrydain yn ddigon hir

Gallech fod yn gymwys os ydych wedi gweithio neu wedi hawlio budd-daliadau ar gyfer 2 o'r 3 blynedd diwethaf yn yr UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein.

Mae'r rheolau yn y maes hwn yn gymhleth ac mae'n well cael cyngor cyn gwneud cais. Gallwch gael cymorth gan eich swyddfa Cyngor ar Bopeth agosaf.

Hefyd, efallai'ch bod yn gymwys os oes gennych 'gysylltiad dilys a digonol' â'r DU.

Er enghraifft, efallai fod gennych 'gysylltiad dilys a digonol':

  • os ydych chi wedi byw yn y DU ers bron i 2 flynedd
  • os ydych naill ai'n gweithio neu'n hunangyflogedig yn y DU
  • os oes gennych aelod o'r teulu sy'n gweithio neu'n hunangyflogedig yn y DU
  • os oes gennych deulu agos yn y DU y byddwch yn dibynnu arnyn nhw am ofal a chymorth
  • os ydych chi'n derbyn rhai budd-daliadau yn y DU

Mae'r rheolau yn y maes hwn yn gymhleth ac mae'n well cael cyngor cyn gwneud cais. Gallwch gael cymorth gan eich swyddfa Cyngor ar Bopeth agosaf.

Os ydych chi'n cael pensiwn neu fudd-dal o'r UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein

Gallai hyn effeithio ar eich cymhwystra i gael lwfans gofalwr. Mae'r rheolau yn y maes hwn yn gymhleth ac mae'n well cael cyngor cyn gwneud cais. Gallwch gael cymorth gan eich swyddfa Cyngor ar Bopeth agosaf.

Os ydych chi'n dod o'r UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein

I wneud cais am Lwfans Gofalwr mae angen i chi ddangos:

  • eich bod wedi gwneud hawliad tra'r oeddech yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban
  • mai'r DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yw eich prif gartref a'ch bod yn bwriadu aros yno - gelwir hyn yn 'preswylio fel arfer'
  • rydych chi wedi byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban am 2 o'r 3 blynedd diwethaf

Os ydych chi wedi byw yn y DU am 5 mlynedd neu fwy

Dylech wneud cais am 'statws preswylydd sefydlog'.

Sut i wneud cais am statws preswylydd sefydlog dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Efallai y bydd eich Lwfans Gofalwr yn dod i ben os nad oes gennych statws preswylydd sefydlog erbyn 31 Rhagfyr 2020.

Os ydych chi wedi byw yn y DU am lai na 5 mlynedd

Dylech wneud cais am 'statws preswylydd cyn-sefydlog'. Os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog, bydd angen i chi ddangos eich bod yn preswylio fel arfer er mwyn cael Lwfans Gofalwr.

Sut i wneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Dysgu mwy am aros yn y DU ar ôl Brexit.

Os nad ydych chi'n gymwys am Lwfans Gofalwr

Os ydych chi'n gofalu am unigolyn neu bobl am o leiaf 20 awr yr wythnos, efallai y gallwch gael Credydau Gofalwr. Mae'r credydau hyn yn llenwi'r bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol - sy'n penderfynu a allwch chi gael: 

  • Pensiwn y Wladwriaeth 
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol (ESA)
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau (JSA)

Rhagor o wybodaeth am Gredydau Gofalwr yn GOV.UK

Faint o Lwfans Gofalwr allwch chi ei gael

Telir Lwfans Gofalwr ar gyfradd safonol ar gyfer y person sy'n gwneud yr hawliad.

Gallwch weld faint yw cyfradd gyfredol Lwfans Gofalwr yn GOV.UK.

Os ydych chi'n cael budd-daliadau eraill

Ni chewch unrhyw Lwfans Gofalwr neu lai os ydych chi'n derbyn rhai budd-daliadau eraill gan gynnwys:

  • pensiwn ymddeol y wladwriaeth
  • ESA cyfrannol
  • JSA yn seiliedig ar gyfraniadau
  • Lwfans Mamolaeth

Os yw'ch Lwfans Gofalwr naill ai'r un fath neu'n llai na'r budd-dal arall, yna byddwch yn derbyn y budd-dal arall yn lle'r Lwfans Gofalwr.

Os yw'r budd arall yn llai na'ch Lwfans Gofalwr, byddwch yn cael y budd-dal arall a balans eich Lwfans Gofalwr ar ben hynny.

Mae'r rheolau'n ymwneud â hyn yn gymhleth - mynnwch gymorth gan eich Cyngor ar Bopeth lleol i sicrhau eich bod yn cael yr hyn sy'n ddyledus i chi.

Os ydych chi'n cael budd-daliadau seiliedig ar eich incwm

'Budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd' yw'r rhain. Mae Lwfans Gofalwr yn cyfrif fel incwm pan gaiff y budd-daliadau hyn eu cyfrifo.

Gallwch gael swm ychwanegol o'r enw 'Premiwm Gofalwr' neu 'Atodiad Gofalwr' gydag unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol os ydych chi'n cael Lwfans Gofalwr:

  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm
  • Cymhorthdal incwm
  • Budd-dal Tai
  • Cymorth y Dreth Gyngor

Rydych chi'n cael swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol a elwir yn 'elfen gofalwr' os ydych chi'n gymwys i dderbyn Lwfans Gofalwr – hyd yn oed os nad ydych chi'n gwneud cais am Lwfans Gofalwr.

Hawlio Lwfans Gofalwr

Os yw'r person rydych chi'n gofalu amdano yn cael budd-dal gyda Phremiwm Anabledd Difrifol neu Atodiad.

Ni all y person rydych chi'n gofalu amdano gael y Premiwm neu'r Atodiad tra rydych chi'n cael Lwfans Gofalwr. Dylent gysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau neu'r cyngor lleol i ddweud eich bod chi'n cael Lwfans Gofalwr.

Efallai y bydd y person rydych chi'n gofalu amdano yn cael Premiwm neu Atodiad Anabledd Difrifol gyda:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ar incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai
  • Cymorth y Dreth Gyngor
  • Credyd Pensiwn

Cofiwch holi'r person rydych chi'n gofalu amdano cyn gwneud cais am Lwfans Gofalwr eich hun.

I wneud cais am Lwfans Gofalwr, gallwch wneud y canlynol:

Cewch chi ddim gwneud cais dros y ffôn.

Os ydych angen cymorth i wneud cais, cysylltwch â'r Uned Lwfans Gofalwr.

Uned Lwfans Gofalwr

Ffôn: 0800 731 0297
Ffôn testun: 0800 731 0317
NGT text relay (os na allwch chi glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 731 0297
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am-6pm

Main Handling Site A 
Wolverhampton 
WV98 2AB

Mae galwadau yn rhad ac am ddim o linellau ffôn symudol a llinellau tir.

Rhagor o wybodaeth am y Lwfans Gofalwr ar GOV.UK.

Bydd rhaid i chi roi'ch Rhif Yswiriant Gwladol a thystiolaeth i ddangos mai chi biau'r rhif hwnnw. Os nad ydych chi'n gwybod eich Rhif Yswiriant Gwladol, ond yn meddwl bod gennych un, dylech ddarparu tystiolaeth er mwyn helpu'r swyddfa i ddod o hyd iddo. Os nad oes gennych chi rif yswiriant gwladol, bydd rhaid i chi wneud cais am un.

Efallai y bydd rhaid i'ch partner gael cyfweliad gyda chynghorydd personol fel amod cyn i chi gael Lwfans Gofalwr.

Holwch a oes modd ôl-ddyddio eich Lwfans Gofalwr

Gallech ôl-ddyddio eich cais am hyd at dri mis os oeddech yn gymwys. Does dim angen rhoi rheswm pam rydych chi'n hawlio'n hwyr.

Gofynnwch i'ch Lwfans Gofalwr gael ei ôl-ddyddio pan fyddwch yn gwneud cais – dylech ofyn am hyn ar y ffurflen gais lle mae'n gofyn  ‘Pryd rydych chi am i’ch Lwfans Gofalwr ddechrau?’

Newid amgylchiadau

Unwaith y byddwch yn gwybod am newid a allai effeithio ar faint o Lwfans Gofalwr gewch chi, dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosib.

Gallai'r newid gynyddu eich taliad ac efallai y byddwch yn colli allan ar arian ychwanegol os byddwch yn dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau yn hwyr.

Dylech ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi'n credu y gallai newid leihau eich taliad - ni fyddwch yn arbed arian drwy roi gwybod amdano'n ddiweddarach. Os byddwch yn hwyr yn dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau, gallech gael gormod o daliad a bydd rhaid i chi dalu'ch budd-daliadau yn ôl. Gelwir hyn yn ordaliad -  darllenwch sut mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ymdrin â gordaliadau.

Os yw'r person rydych chi'n gofalu amdano yn mynd i gartref gofal neu ysbyty

Bydd budd-daliadau anabledd fel arfer yn dod i ben ar ôl i rywun fod mewn cartref gofal neu ysbyty am 28 diwrnod. Os byddant yn mynd i gartref gofal neu ysbyty fwy nag unwaith mewn 28 diwrnod, bydd y cyfnodau rhwng pob ymweliad yn cael eu hadio gyda’i gilydd.

Os yw budd-daliadau anabledd y person rydych chi'n gofalu amdano yn dod i ben, cewch chi ddim parhau i gael Lwfans Gofalwr - dylech gysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau i ddweud nad yw'r unigolyn yn derbyn budd-daliadau anabledd mwyach.

Cosbau sifil am achosi gordaliad

Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb sifil os byddwch yn gwneud rhywbeth diofal sy'n achosi gordaliad. Gall hyn ddigwydd, er enghraifft, os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir neu'n cadw'n dawel am rywbeth, ac felly'n cael mwy o Lwfans Gofalwyr na'r hyn sy’n ddyledus i chi. Dim ond os nad ydych wedi cyflawni twyll y gellir gofyn i chi dalu'r gosb hon. Os ydych chi wedi cyflawni twyll, mae rheolau gwahanol yn berthnasol. Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad i bennu cosb sifil.

Twyll

Gallai fod yn dwyll budd-daliadau os effeithir ar eich Lwfans Gofalwr oherwydd:

  • rydych wedi rhoi gwybodaeth gamarweiniol neu anghywir i'r Adran Gwaith a Phensiynau
  • na wnaethoch ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau bod eich amgylchiadau wedi newid – er enghraifft, eich bod wedi rhoi'r gorau i ofalu am unigolyn anabl am 35 awr yr wythnos

Gellir gwirio eich amgylchiadau unrhyw bryd tra byddwch yn hawlio a gall swyddogion twyll hefyd gael gwybodaeth amdanoch chi gan asiantaethau eraill y Llywodraeth a gan eich cyflogwr, eich banc neu'ch cwmnïau cyfleustodau. Mae twyll budd-daliadau yn drosedd, a gallech gael eich erlyn neu orfod talu dirwy. Os ydych chi'n destun ymchwiliad i dwyll budd-daliadau, bydd eich budd-dal yn cael ei atal. Os ydych wedi cyflawni twyll budd-daliadau, gallai'ch budd-daliadau gael eu lleihau neu eu stopio'n llwyr yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i'w wneud os gofynnir i chi ddod i gyfweliad dan rybuddiad,darllenwch Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.

Sut bydd Lwfans Gofalwr yn cael ei dalu

Fel arfer, caiff Lwfans Gofalwr ei dalu'n uniongyrchol i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu swyddfa'r post. Os na allwch agor neu reoli cyfrif, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich talu drwy'r Payment Exception Service – mae rhagor o fanylion am hyn ar GOV.UK.

Byddwch yn parhau i gael Lwfans Gofalwr cyhyd â’ch bod yn dal yn gymwys.

Problemau gyda Lwfans Gofalwr

Os gwrthodir Lwfans Gofalwr i chi neu os credwch eich bod yn cael y swm anghywir o fudd-dal, gallwch herio'r penderfyniad. Dylech wneud hyn o fewn un mis i'r penderfyniad.

Os ydych chi'n anhapus â'r gwasanaeth a gawsoch gan y swyddfa budd-daliadau leol neu'r Adran Gwaith a Phensiynau, gallwch gwyno. Efallai'ch bod yn anfodlon oherwydd camgymeriadau, oedi, staff anghwrtais neu anhawster wrth gysylltu. Gallwch wneud hyn os ydych am herio penderfyniad hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth am herio penderfyniadau ar fudd-daliadau a sut i gwyno, ewch i Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.

Cymorth arall i ofalwyr

Gallwch ffonio llinell gymorth Carers Direct ar 0300 123 1053 i gael gwybodaeth a chyngor cyfrinachol. Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 9am ac 8pm dydd Llun i ddydd Gwener, ac 11am-4pm ar benwythnosau. Mae'r llinell gymorth ar gau ar wyliau banc.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.