Cysylltwch â ni ynglŷn â gwneud cais am Gredyd Cynhwysol
Gall ein hymgynghorwyr Help i Hawlio eich cefnogi chi yng nghyfnodau cynnar eich hawliad Credyd Cynhwysol. Gallwch siarad â nhw ar y ffôn, ar-lein dros gwe-sgwrs neu wyneb yn wyneb.
Gall ein hymgynghorwyr eich helpu chi:
-
gweithio allan os gallwch chi gael Credyd Cynhwysol
-
cwblhau y cais Credyd Cynhwysol
-
baratoi ar gyfer eich apwyntiad Canolfan Waith gyntaf
-
gwirio bod eich taliad cyntaf yn gywir
Gallwch ddarllen ein cyngor ar-lein ar Gredyd Cynhwysol ar unrhyw adeg.
Ffonio ein llinell ffôn cenedlaethol
Gallwch chi gysylltu â ymghynghorydd trwy ein gwasanaeth ffôn Help i Hawlio cenedlaethol am ddim. Mae ymgynghorwyr ar gael rhwng 8am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener:
Cymru: 08000 241 220
Lloegr: 0800 144 8 444
Alban: 0800 023 2581
Ffoniwch rif Cymru os hoffech siarad ag ymgynghorydd Cymraeg.
Gofynnwch am gyfieithydd os oes angen i chi gael cyngor mewn iaith wahanol.
Relay UK - os na allwch glywed na siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud:
Relay UK (Cymru): 18001 ac yna 08000 241 220
Relay UK (Lloegr): 18001 ac yna 0800 144 8 444
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Does dim tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Cewch wybod sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Siarad â ni ar-lein
Gallwch hefyd sgwrsio ag ymgynghorydd ar-lein am eich cais Credyd Cynhwysol. Mae gwe-sgwrs fel arfer ar gael rhwng 8am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Nid yw ar gael ar wyliau cyhoeddus.
Os nad oes ymgynghorydd ar gael byddwn yn tynnu'r botwm sgwrsio o'r dudalen hon.
Siaradwch ag ymgynghorydd yn eich Cyngor ar Bopeth leol
Coronafeirws - newidiadau i’n gwasanaeth
Mae pob Cyngor ar Bopeth lleol bellach ar gau - ni allwch gael cyngor wyneb yn wyneb.
Gallwch barhau i gael cymorth drwy ffonio ein llinell ffôn cenedlaethol neu drwy siarad ag ymgynghorydd ar-lein.
Rhowch eich cod post neu dref i gael manylion cyswllt ac oriau agor ar gyfer eich Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os ydych chi'n anhapus â'r gwasanaeth rydych chi wedi'i dderbyn
Gallwch ddefnyddio ein gweithdrefn gwynion os ydych chi am gwyno am ein gwasanaeth Help i Hawlio.