Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.
Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae’n bosibl y byddwch yn well eich byd yn hawlio Credyd Cynhwysol os yw:

  • eich sefyllfa yn newid; neu
  • mae’r budd-dal rydych yn ei hawlio yn dod i ben

Mae'n dibynnu beth ddigwyddodd a pha fudd-daliadau rydych chi'n dal i'w cael. Mae Credyd Cynhwysol yn disodli 6 budd-dal o’r enw ‘budd-daliadau etifeddol’, sef:

  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (ESA)
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (JSA)
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith (WTC)
  • Cymhorthdal Incwm

Fel arfer ni allwch wneud cais newydd am y budd-daliadau hyn.

Os ydych chi eisoes yn cael un ohonyn nhw, bydd rhaid i chi symud i Gredyd Cynhwysol erbyn 2024. Gallwch chi aros arnyn nhw am y tro – oni bai bod eich sefyllfa’n newid mewn ffyrdd penodol. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol os ydych chi wedi gwahanu oddi wrth bartner neu wedi symud i ardal cyngor wahanol.

Gwiriwch a oes angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol:

  • bydd unrhyw fudd-daliadau etifeddol eraill yr ydych yn eu cael yn dod i ben
  • ni fyddwch yn gallu mynd yn ôl i unrhyw un o’r budd-daliadau etifeddol yn y dyfodol - hyd yn oed os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal

Dylech bob amser wirio a fyddwch yn well eich byd ar Gredyd Cynhwysol cyn gwneud cais.

Os cawsoch bremiwm anabledd difrifol (SDP)

Gallwch hawlio Credyd Cynhwysol hyd yn oed os oeddech yn cael, neu wedi rhoi’r gorau i gael budd-dal gyda premiwn anabledd difrifiol (SDP) yn ddiweddar.

Efallai y byddwch yn cael swm ychwanegol yn eich Credyd Cynhwysol – gelwir hyn yn ‘elfen drosiannol’.

Byddwch yn cael y swm ychwanegol os byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol o fewn mis ar ôl i chi roi’r gorau i gael y budd-dal gyda’r SDP.

Ni allwch gael y swm ychwanegol os:

  • dim ond gyda Budd-dal Tai yr oeddech yn cael yr SDP. 
  • rydych wedi symud i mewn gyda phartner sy’n hawlio Credyd Cynhwysol.

Cyn 27 Ionawr 2021, ni allech wneud cais am Gredyd Cynhwysol os oeddech yn cael, neu wedi rhoi’r gorau i gael, budd-dal gyda SDP.

Os gwnaethoch gais am Gredyd Cynhwysol cyn 27 Ionawr 2021, siaradwch â chynghorydd i wirio’r hyn y mae gennych hawl iddo. 

Gwiriwch a yw newid yn golygu bod angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol

Os bydd eich sefyllfa gwaith, cartref neu deuluol yn newid, efallai y bydd angen i chi symud i Gredyd Cynhwysol. Bydd rhai newidiadau’n dod â’ch cais am fudd-dal i ben – felly efallai mai hawlio Credyd Cynhwysol fydd yr unig opsiwn i gymryd eu lle.

Ni allwch hawlio Credyd Cynhwysol os ydych chi, a’ch partner os oes gennych un, wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Fel arfer mae’n well i chi wneud cais am Gredyd Pensiwn.

Gwiriwch a allwch gael Credyd Pensiwn yn hytrach na Chredyd Cynhwysol. Os oes angen help arnoch gyda chostau tai, gallwch hefyd hawlio Budd-dal Tai. 

Fel arfer ni allwch wneud cais newydd am Gredyd Pensiwn neu Fudd-dal Tai os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ond bod gennych bartner o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch ond wneud cais newydd am Gredyd Pensiwn neu Fudd-dal Tai os yw’r ddau ganlynol yn berthnasol:

  • gwnaethoch chi neu’ch partner gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 15 Mai 2019
  • rydych wedi bod yn hawlio Budd-dal Tai neu Gredyd Pensiwn fel cwpl ers cyn 15 Mai 2019

Os ydych chi wedi gwahanu oddi wrth eich partner

Os ydych chi mewn hawliad ar y cyd am Gredydau Treth Gwaith neu Gredydau Treth Plant, bydd eich hawliad yn dod i ben. 

Os oeddech chi a'ch partner yn hawlio Budd-dal Tai, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm, gwiriwch a yw'r budd-daliadau yn eich enw chi.

Os yw'r llythyrau budd-daliadau wedi'u cyfeirio atoch chi - mae hynny'n golygu bod y budd-dal yn eich enw chi. Os nad ydych yn siŵr, gallwch wirio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd eu manylion cyswllt ar unrhyw lythyrau budd-dal a gawsoch. Os yw’r budd-daliadau yn eich enw chi, byddwch chi’n dal i’w cael. Os nad yw’r budd-daliadau yn eich enw chi, byddant fel arfer yn dod i ben.

Os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith ac nad oes gennych blant, mae'r rheolau ynghylch a allwch barhau i'w gael ai peidio yn fwy cymhleth. Siaradwch â chynghorydd i wirio a fydd eich Lwfans Ceisio Gwaith yn dod i ben. 

Os ydych chi wedi symud cartref neu os yw eich partner wedi symud i mewn

Os ydych chi’n hawlio Budd-dal Tai a’ch bod chi wedi symud i ardal cyngor arall, bydd eich budd-dal tai yn dod i ben. Gallwch chi ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Os ydych chi wedi symud i gartref arall yn yr un ardal cyngor, gallwch chi aros ar eich budd-dal Tai presennol os oedd yr hawliad yn eich enw chi.

Efallai na fydd yn eich enw chi os oeddech chi’n hawlio Budd-dal Tai gyda chynbartner. Gwiriwch a yw’r llythyr budd-daliadau wedi’i gyfeirio atoch chi - mae hynny’n golygu bod yr hawliad yn eich enw chi. Gallwch chi hefyd ffonio eich cyngor lleol i wirio - dewch o hyd ich cyngor lleol ar GOV.UK.

Os ydych yn cael budd-daliadau eraill y mae Credyd Cynhwysol yn eu disodli, gallwch barhau i’w cael - ond rhaid i chi ddweud wrth Adran Gwaith a Phensiynau eich bod wedi symud.

Siaradwch â chynghorydd i wirio a fyddwch chi’n well eich byd yn hawlio Credyd Cynhwysol.

Os byddwch chi a’ch partner yn symud i mewn gyda’ch gilydd

Os ydych chi neu'ch partner yn cael Credyd Treth Plant neu Gredyd Treth Gwaith, byddant yn dod i ben pan fyddwch yn symud i mewn gyda'ch gilydd.

Gallwch barhau i gael Budd-dal Tai, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Gymhorthdal Incwm pan fyddwch yn symud i mewn gyda’ch gilydd os yw’ch partner:

  • ddim yn derbyn Credyd Cynhwysol
  • ddim yn ennill digon i’ch atal rhag cael eich budd-daliadau

Er mwyn parhau i gael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, mae angen i chi neu'ch partner fod gyda plant.

Siaradwch â chynghorydd  i wirio a fyddwch chi’n well eich byd yn hawlio Credyd Cynhwysol.

Newidiadau yn ymwneud â'ch plant

Ni fydd cael babi, neu ddod yn gyfrifol am blentyn yn dod â’ch budd-daliadau i ben.

Dim ond os ydych eisoes yn cael Credydau Treth Gwaith y gallwch ddechrau cael Credydau Treth Plant. Gwiriwch a allwch chi gael Credydau Treth Plant. 

Os na allwch wneud cais newydd am Gredydau Treth Plant, efallai y byddwch yn well eich byd yn hawlio Credyd Cynhwysol. Siaradwch â chynghorydd i wirio’r opsiwn gorau i chi.

Os ydych eisoes yn cael Credyd Treth Plant a bod gennych blentyn arall, efallai y bydd y swm a gewch yn cynyddu.

Os ydych yn derbyn Gymhorthdal Incwm

Bydd eich Cymhorthdal Incwm yn dod i ben os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n rhiant sengl
  • mae eich plentyn ieuengaf wedi cael ei ben-blwydd yn 5 oed 
  • nad ydych yn ofalwr llawn amser i rywun sy’n sâl neu’n anabl

Siaradwch â chynghorydd i wirio a fyddwch chi’n well eich byd yn hawlio Credyd Cynhwysol.

Os yw eich sefyllfa waith wedi newid

Bydd yr hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu ar y budd-daliadau rydych chi’n eu hawlio a sut mae eich sefyllfa waith wedi newid.

Os byddwch chi neu'ch partner yn dechrau gweithio neu os bydd eich oriau'n cynyddu

Os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwiath yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu Gymhorthdal Incwm, byddant yn dod i ben os rydych yn:

  • gwneud o leiaf 16 awr yr wythnos o waith
  • mae eich partner yn dechrau gweithio 24 awr neu fwy yr wythnos

Os byddwch yn dechrau gweithio, dim ond mewn rhai sefyllfaoedd y gallwch barhau i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCC) . Gwiriwch pa waith y gallwch ei wneud wrth gael LCC. 

Os ydych yn cael Credydau Treth Plant efallai y byddwch yn gallu dechrau cael Credyd Treth Gwaith (WTC) hefyd. Mae hyn yn dibynnu ar eich sefyllfa a faint o oriau rydych chi'n eu gweithio. Gallwch wirio faint o oriau sydd angen i chi weithio i gael Credyd Treth Gwaith.

Os bydd eich enillion yn cynyddu, efallai y bydd swm y budd-daliadau rydych yn eu cael yn mynd i lawr. Gallai dechrau gweithio neu gynyddu eich oriau olygu y byddwch yn cael llai o’r budd-daliadau rydych yn eu hawlio. Efallai y byddwch chi’n well eich byd yn cael Credyd Cynhwysol - siaradwch â chynghorydd i wirio’ch opsiynau.

Os byddwch yn rhoi'r gorau i weithio neu os bydd eich oriau'n lleihau

Os ydych yn cael Credydau Treth Gwaith (WTC) ac nid ydych yn gweithio digon o oriau, efallai y bydd eich Credyd Treth Gwaith yn dod i ben. Gwiriwch faint o oriau sydd angen i chi eu gweithio i barhau i gael Credyd Treth Gwaith. 

Mewn rhai achosion gallwch barhau i gael Credydau Treth Gwaith am gyfnod cyfyngedig pan fyddwch yn rhoi'r gorau i weithio, er enghraifft os ydych yn:

  • colli neu gadael eich swydd
  • mynd ar absenoldeb mamolaeth
  • mynd ar absenoldeb salwch a chael Tâl Salwch Statudol

Gwiriwch am ba mor hir y gallwch barhau i gael Credyd Treth Gwaith. 

Ni fydd eich budd-daliadau eraill yn dod i ben oherwydd eich bod yn rhoi'r gorau i weithio neu oherwydd bod eich oriau'n lleihau. Efallai y byddwch chi’n well eich byd yn cael Credyd Cynhwysol - siaradwch â chynghorydd i wirio’ch opsiynau.

Os oes gennych bartner a bod y partner hŷn yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os yw’r person dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cael budd-daliadau penodol, ni fydd yn gallu eu cael ar ôl iddynt gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Y budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Cymhorthdal Incwm

Os yw'r partner iau yn cael un o'r budd-daliadau hyn, gallant barhau i'w gael a Budd-dal Tai. Gall y partner hŷn hefyd barhau i gael Budd-dal Tai os yw'r partner iau yn cael un o'r budd-daliadau hyn.

Os daw eich budd-daliadau i ben, fel arfer bydd yn rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Ni fydd eich cais am Fudd-dal Tai yn dod i ben os ydych yn dechrau cais newydd. Er enghraifft, os ydych yn byw mewn llety dros dro neu lety gwarchod. Gwiriwch pwy all wneud cais newydd am Fudd-dal Tai. 

Os cyrhaeddodd y partner hŷn oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 27 Ionawr 2021

Os oedd y partner hŷn yn hawlio budd-dal gyda'r Premiwm Anabledd Difrifol pan gyrhaeddodd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, dylai fod wedi parhau i gael y budd-dal hwnnw.

Gwiriwch eich llythyr budd-daliadau i weld a oeddech yn cael premiwm anabledd difrifol (SDP) . Efallai y cewch Premiwm Anabledd Difrifol gyda:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Dylech roi gwybod am newid mewn amgylchiadau cyn gynted ag y gallwch - hyd yn oed os gallwch aros ar eich fudd-daliadau presennol. Mae’n bosibl y cewch eich talu gormod neu dim digon os byddwch yn rhoi gwybod amdano yn ddiweddarach.

Os na fyddwch yn rhoi gwybod a’ch bod yn cael eich talu gormod, bydd angen i chi dalu’r arian yn ôl ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o arian ychwanegol fel cosb.

Os ydych yn cael Credydau Treth Gwaith neu Gredydau Treth Plant, mae angen i chi roi gwybod i CThEM am y newid ar GOV.UK. 

Os ydych chi’n cael budd-daliadau eraill, gallwch wirio sut i roi gwybod am y newid mewn amgylchiadau ar GOV.UK. 

Gwiriwch faint y byddwch chi’n ei gael ar Gredyd Cynhwysol

Os gallwch chi ddewis rhwng aros ar eich hen fudd-daliadau a hawlio Credyd Cynhwysol, siarad â chynghorydd i wirio faint fyddech chi’n ei gael ar Gredyd Cynhwysol.

Gallwch hefyd wirio faint o Gredyd Cynhwysol y byddech yn ei gael drwy ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau. I gael ateb cywir, bydd angen i chi wybod manylion am eich:

  • incwm – gan gynnwys unrhyw fudd-daliadau neu enillion
  • rhent a threuliau byw
  • cynilion a buddsoddiadau

Hawlio Credyd Cynhwysol

Os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol, fel arfer byddwch chi’n cael un taliad misol a bydd rhaid i chi reoli eich hawliad ar-lein fel arfer. 

Bydd hi’n cymryd 5 wythnos i chi gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf – ond gallai gymryd mwy hirach.

Os nad yw’ch hen fudd-daliadau wedi dod i ben, gallwch barhau i’w cael am bythefnos ar ôl i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Ni fydd angen i chi dalu’r taliadau ychwanegol yn ôl ac ni fyddant yn effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael. Mae hyn yn berthnasol i:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai

Byddwch ond yn cael y taliadau 2 wythnos ychwanegol os ydych yn dal yn gymwys ar gyfer y budd-dal. Ni fydd angen i chi dalu’r taliadau ychwanegol yn ôl ac ni fyddant yn effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael.

Os na fydd gennych ddigon o arian i fyw arno tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw . Benthyciad yw’r taliad ymlaen llaw – bydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl.

Os ydych angen help i symud ymlaen i Gredyd Cynhwysol, gallwch siarad â chynghorydd

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.