Sgwrsio â chynghorydd ar-lein
Os yw eich problem yn ymwneud â chais am Gredyd Cynhwysol, gallwch siarad â ni ar ein tudalen Help i Hawlio.
Os yw eich problem yn ymwneud â dyled, gallwch siarad â ni ar ein tudalen sgwrsio am ddyled.
Os oes gennych chi broblem defnyddiwr fel nwyddau sydd wedi torri neu nwyddau diffygiol, gallwch siarad â'n gwasanaeth defnyddwyr.
Gallwch siarad am eich problem ar-lein gyda chynghorydd hyfforddedig. Byddwn yn ceisio eich helpu i ddatrys eich problem neu wneud cynnydd da tuag at hynny. Mewn rhai achosion, efallai bydd angen i ni ddweud wrthych chi am fynd i’ch canolfan Cyngor ar Bopeth lleol neu sefydliad arbenigol. .
Fel arfer mae’r gwasanaeth sgwrsio ar gael rhwng 10am a 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener. Nid yw ar gael ar wyliau banc.
I’ch cysylltu â’r cynghorydd cywir, byddwn ni’n gofyn i chi am ychydig o fanylion, yn cynnwys:
- y math o gyngor sydd ei angen arnoch chi, er enghraifft ‘Budd-daliadau’
- eich cod post
Os nad oes neb ar gael, byddwn yn ceisio cymryd neges gennych fel y gallwn ni gysylltu â chi drwy e-bost. Yn anffodus, fydd hyn ddim yn bosibl bob amser os yw hi’n eithriadol o brysur.
Darllenwch ein polisi preifatrwydd i ddysgu mwy am y ffordd rydyn ni’n storio a defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
Problemau gyda’r gwasanaeth sgwrsio
Efallai bydd yn cymryd ychydig funudau i’ch cysylltu â chynghorydd. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os nad yw’r math cywir o gynghorydd ar gael.
Os byddwn ni’n gofyn i chi adael neges, dylai cynghorydd ateb o fewn 4 diwrnod gwaith. Os nad ydych chi’n cael ateb, edrychwch yn eich ffolder sbam neu sothach.
Mae rhai mathau o feddalwedd ‘atalydd hysbysebion’ yn rhwystro’r gwasanaeth sgwrsio rhag gweithio. Os ydych chi’n defnyddio atalydd hysbysebion, gwnewch yn siŵr eich bod yn ychwanegu citizensadvice.org.uk fel safle y gellir ymddiried ynddo.