Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.
Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Eich cyfnod rhybudd yn ystod cyfnod dileu swydd

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os yw eich swydd yn cael ei dileu, ni fydd yn dod i ben ar unwaith - byddwch yn cael cyfnod rhybudd â thâl.

Gallech dderbyn tâl rhybudd yn hytrach na'ch cyfnod rhybudd - yr enw am hyn yw 'tâl yn lle rhybudd’. Bydd eich cyflogwr yn dweud wrthych a fydd yn rhoi tâl i chi yn lle rhybudd.

Cyn belled â'ch bod yn gweithio eich oriau arferol yn eich cyfnod rhybudd statudol, byddwch yn derbyn eich cyflog arferol. Mae hyn yn ychwanegol i unrhyw dâl dileu swydd y mae gennych hawl iddo.

Hyd eich cyfnod rhybudd

Os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf fis mae gennych hawl i rybudd statudol. Dyma'r cyfnod rhybudd lleiaf y gall eich cyflogwr ei roi i chi.

Mae eich rhybudd statudol yn dibynnu ar sawl blwyddyn rydych wedi gweithio i'ch cyflogwr pan fyddwch yn derbyn rhybudd.

Amser gyda'ch cyflogwr

Isafswm rhybudd

1 mis i 2 flynedd

1 wythnos

2 flynedd neu fwy

1 wythnos ar gyfer pob blwyddyn lawn, hyd at uchafswm o 12 wythnos

Er enghraifft, os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am 5 mlynedd a 3 mis, byddwch yn derbyn 5 wythnos o rybudd

Rhybudd contractiol

Mae'n bosibl y bydd eich contract yn nodi'r cyfnod rhybudd y mae gennych hawl iddo. Os yw'n gwneud hynny, yr enw am hyn yw 'rhybudd contractiol’.

Gall cyfnod rhybudd contractiol fod yn hirach neu'r un fath â rhybudd statudol. Nid oes modd iddo fod yn llai - dylai'r cyfnod gyfateb i gyfnod eich rhybudd statudol o leiaf.

Os nad ydych yn gweithio yn ystod y cyfnod rhybudd

Mae'r hyn sy'n cael ei dalu i chi yn ystod y cyfnod rhybudd yn dibynnu ar a yw'r rhybudd yn eich contract o leiaf 1 wythnos yn fwy na'ch rhybudd statudol.

Coronafirws - os ydych chi wedi'ch ffyrlo yn ystod eich cyfnod rhybudd

Gwiriwch eich contract i weld pa mor hir yw'ch cyfnod rhybudd.

Os yw'r rhybudd yn eich contract yr un peth neu'n llai nag y byddai'ch rhybudd statudol, dylai'ch cyflogwr dalu 100% o'ch tâl arferol i chi yn ystod eich cyfnod rhybudd. Os nad yw'ch cyflogwr yn cytuno, gallwch ddangos y datganiad hwn i'r wasg ar GOV.UK.

Os yw'r rhybudd yn eich contract o leiaf 1 wythnos yn fwy nag y byddai'ch rhybudd statudol, gall eich cyflogwr eich cadw ar dâl o 80% yn ystod eich cyfnod rhybudd. Gallwch ofyn a fyddant yn rhoi eich tâl arferol i chi - efallai y byddant yn cytuno.

Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod rhoi 100% o'ch cyflog i chi, gallwch gysylltu â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf.

Os yw'r rhybudd yn eich contract yr un fath â'ch rhybudd statudol

Byddwch yn parhau i dderbyn eich cyflog llawn arferol yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • rydych chi ar eich gwyliau
  • rydych yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch neu anaf - hyd yn oed pe byddech yn derbyn tâl salwch statudol fel arfer yn lle hynny
  • rydych yn absennol o'r gwaith oherwydd beichiogrwydd, absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth, absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb rhiant
  • rydych yn barod i weithio ond nid ydych yn cael unrhyw waith i'w wneud

Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os nad ydych yn siŵr am y cyflog y dylech ei dderbyn - er enghraifft os yw eich oriau'n amrywio bob wythnos.

Os ydych ar absenoldeb mamolaeth

Mae gennych hawl i'ch tâl llawn arferol gydol cyfnod eich rhybudd statudol os yw eich swydd yn cael ei dileu yn ystod absenoldeb mamolaeth. Gallai hyn fod yn fwy na'ch tâl mamolaeth.

Gall eich cyflogwr leihau eich tâl rhybudd yn ôl swm unrhyw dâl mamolaeth statudol rydych chi'n ei dderbyn hefyd. Nid yw'n gallu gwneud hynny os rydych chi'n derbyn tâl yn lle rhybudd - byddwch yn derbyn y swm llawn o dâl mamolaeth statudol a thâl rhybudd.

Mae eich tâl mamolaeth statudol yn parhau os yw eich swydd yn cael ei dileu - darllenwch fwy am dâl dileu swydd a thâl mamolaeth.

Os yw'r rhybudd yn eich contract o leiaf 1 wythnos yn fwy na'ch rhybudd statudol

Byddwch yn derbyn eich cyflog llawn arferol cyn belled â'ch bod yn y gwaith. Os ydych yn absennol o'r gwaith yn ystod eich cyfnod rhybudd, byddwch yn derbyn y swm y byddech wedi'i gael fel arfer am yr absenoldeb hwnnw.

Er enghraifft, gallech dderbyn tâl salwch os ydych yn absennol oherwydd salwch, neu dâl mamolaeth os ydych ar absenoldeb mamolaeth. Gallech dderbyn swm llai na'ch tâl llawn arferol.

Sut dylai eich cyflogwr roi rhybudd i chi

Dylai eich cyflogwr roi gwybod i chi am eich cyfnod rhybudd pan fydd yn dweud wrthych fod eich swydd yn cael ei dileu. Mae'n well os yw’n gwneud hynny ar ffurf ysgrifenedig, ond nid yw’n orfodol iddo wneud hynny. 

Bydd eich cyfnod rhybudd ond yn cychwyn pan fydd eich cyflogwr yn dweud bod eich swydd yn cael ei dileu a'i fod yn nodi'ch dyddiad gorffen. Nid yw eich cyfnod rhybudd yn cychwyn o'r adeg pan fydd eich cyflogwr yn dweud bod eich swydd mewn perygl o gael ei dileu.

Os yw eich cyflogwr yn dweud nad oes rhaid i chi weithio yn ystod eich cyfnod rhybudd

Byddwch yn derbyn yr un tâl rhybudd os yw eich cyflogwr yn dweud nad oes rhaid i chi weithio yn ystod eich cyfnod rhybudd. Hefyd, byddwch yn parhau i dderbyn buddion gwaith, er enghraifft cyfraniadau pensiwn, oni bai bod eich contract yn dweud bod eich cyflogwr yn gallu eu hepgor. Gallai peidio â gorfod gweithio yn ystod eich cyfnod rhybudd olygu:

  • y byddwch yn cael eich talu fel arfer hyd at ddiwedd eich cyfnod rhybudd, ond nid oes rhaid i chi fynychu'r gwaith - yr enw am hyn yw absenoldeb garddio; neu
  • byddwch yn derbyn eich holl dâl rhybudd ar unwaith ac mae eich swydd yn dod i ben yn syth - yr enw am hyn yw tâl yn lle rhybudd, neu PILON

Os ydych yn cael absenoldeb garddio neu dâl yn lle rhybudd, bydd eich cyflogwr naill ai'n dweud wrthych yn bersonol neu'n nodi hynny yn eich llythyr dileu swydd. Siaradwch â'ch cyflogwr neu cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os nad ydych yn siŵr pa drefniant sy'n berthnasol i chi.

Os ydych yn cael absenoldeb garddio

Byddwch yn cael eich talu ar yr adegau arferol ac yn talu eich treth arferol os ydych yn cael absenoldeb garddio. Hefyd, byddwch yn cadw unrhyw fuddion gwaith, fel cyfraniadau pensiwn neu ddefnydd personol o ffôn y cwmni.

Ni fydd eich swydd yn dod i ben tan ddiwedd eich cyfnod rhybudd, er nad oes rhaid i chi fynychu'r gwaith. Bydd hyn yn cynyddu eich tâl dileu swydd os yw'n golygu y byddwch wedi cwblhau blwyddyn lawn arall gyda'ch cyflogwr.

Weithiau gall eich cyflogwr presennol ofyn i chi fynychu'r gwaith yn ystod cyfnod o absenoldeb garddio. Mae hyn yn golygu na ddylech ddechrau swydd arall yn eich cyfnod rhybudd oni bai bod eich cyflogwr presennol yn cytuno.

Os ydych yn derbyn tâl yn lle rhybudd

Os daeth eich swydd i ben a'ch bod wedi cael tâl yn lle rhybudd cyn 6 Ebrill 2018

Byddwch yn derbyn eich holl dâl rhybudd ar yr un pryd os ydych yn derbyn tâl yn lle rhybudd. Byddwch yn talu treth fel arfer a bydd eich swydd yn dod i ben ar unwaith yn unrhyw un o'r sefyllfaoedd canlynol:

  • mae eich contract yn nodi bod eich cyflogwr yn gallu rhoi tâl i chi yn lle rhybudd
  • mae eich cyflogwr yn rhoi tâl i bobl yn lle rhybudd yn aml

Os ydych yn derbyn tâl yn lle rhybudd ond nad yw'n cael ei grybwyll yn eich contract ac nad yw eich cyflogwr yn ei roi fel arfer, bydd dwy fantais i chi:

  • ni fyddwch yn talu treth ar eich tâl rhybudd oni bai bod swm eich tâl rhybudd a'ch tâl dileu swydd yn fwy na £30,000
  • • er nad ydych yn gweithio yn ystod eich cyfnod rhybudd, ychwanegir eich cyfnod rhybudd statudol at yr amser rydych wedi gweithio i'ch cyflogwr - gallai hyn gynyddu eich tâl dileu swydd

Os daeth eich swydd i ben a'ch bod wedi cael tâl yn lle rhybudd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2018

Byddwch yn derbyn eich holl dâl rhybudd ar yr un pryd os ydych yn derbyn tâl yn lle rhybudd. Byddwch yn talu treth fel arfer a bydd eich swydd yn dod i ben ar unwaith.

Os ydych eisiau gadael eich swydd yn ystod eich cyfnod rhybudd

Mae'n bosibl y byddwch eisiau gadael eich swydd cyn diwedd eich cyfnod rhybudd - er enghraifft os ydych yn cael swydd arall. Os ydych eisiau gadael yn gynnar, gofynnwch i'ch cyflogwr newid eich dyddiad gorffen. Byddwch yn parhau i dderbyn eich tâl dileu swydd os yw eich cyflogwr yn cytuno i newid y dyddiad.

Gallai fod yn syniad da atgoffa eich cyflogwr y bydd yn arbed arian trwy eich caniatáu i adael yn gynnar - bydd yn talu'ch cyflog am lai o amser.

Peidiwch â gadael yn gynnar oni bai bod eich cyflogwr yn cytuno - fel arall byddwch wedi ymddiswyddo ac ni fyddwch yn derbyn eich taliad dileu swydd.

Os ydych eisiau gadael yn gynnar oherwydd eich bod wedi dod o hyd i swydd arall, gallech ofyn i'ch cyflogwr newydd a fydd yn gadael i chi gychwyn eich swydd newydd yn hwyrach. Gallai dechrau'n hwyrach fod yn well na cholli eich tâl dileu swydd.

Weithiau mae'n bosibl gadael yn gynnar a chadw eich tâl dileu swydd os nad oes gan eich cyflogwr reswm da dros wneud i chi aros. Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os na fydd eich cyflogwr yn gadael i chi adael yn gynnar a'ch bod yn poeni am golli eich swydd newydd.

Gwyliau yn ystod eich cyfnod rhybudd

Gallwch ofyn am gael gwyliau yn ystod eich cyfnod rhybudd, ond mater i'ch cyflogwr yw penderfynu a ydych yn cael gwneud hynny. Byddwch yn cael eich talu am unrhyw wyliau nad ydych wedi'u cymryd wrth adael.

Os ydych yn mynd ar wyliau yn ystod eich cyfnod rhybudd mae gennych hawl i'ch cyflog arferol. 

Os ydych yn cael gwyliau contractiol, bydd angen i chi ddarllen y wybodaeth am wyliau yn eich contract.

Os yw eich cyflogwr yn dweud y dylech gymryd eich gwyliau yn ystod eich cyfnod rhybudd

Gall eich cyflogwr ddweud wrthych am gymryd unrhyw wyliau sydd gennych dros ben. Mae angen iddo ddweud wrthych pryd i gymryd y gwyliau, ac mae'n rhaid iddo roi'r dyddiadau i chi o leiaf 2 ddiwrnod ymlaen llaw ar gyfer pob diwrnod o wyliau. Er enghraifft, os yw am i chi gymryd 5 diwrnod o wyliau, rhaid iddo ddweud wrthych o leiaf 10 diwrnod ymlaen llaw.

Darllenwch eich contract, gan y gallai hyn newid faint o rybudd y mae angen i'ch cyflogwr ei roi i chi.

Os oes gennych broblem gyda rhybudd neu dâl

Gallwch gymryd camau i ddatrys problemau gyda rhybudd neu dâl rhybudd. Mae'n well dechrau drwy siarad â'ch cyflogwr bob tro.

Os oes angen i chi gymryd camau mwy ffurfiol, gallech wneud hawliad yn y tribiwnlys cyflogaeth yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • nid yw eich cyflogwr yn eich talu am eich cyfnod rhybudd
  • mae eich cyflogwr yn dweud wrthych am adael ar unwaith heb dâl yn lle rhybudd
  • nid yw eich cyflogwr yn talu'r swm cywir i chi

Nid yw'n werth cychwyn camau cyfreithiol oni bai eich bod wedi rhoi cynnig ar bopeth arall a'ch bod wedi colli arian. Ni fyddwch yn gallu ennill arian gan dribiwnlys os nad ydych wedi colli arian.

Mae terfyn amser tynn os ydych am wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth, felly cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth cyn gynted ag y bo modd.

Os yw eich cyflogwr yn penderfynu peidio â dileu eich swydd

Os yw eich cyflogwr yn newid ei feddwl ar ôl dileu eich swydd, chi sy'n penderfynu a ydych chi am aros.

Os ydych yn cytuno i aros, bydd eich cyfnod rhybudd yn cael ei ganslo a gallwch barhau i weithio i'r cyflogwr. Ni fyddwch yn derbyn unrhyw dâl dileu swydd.

Os nad ydych yn cytuno i aros:

  • gallwch adael ar ddiwedd eich cyfnod rhybudd
  • ni fydd eich cyfnod rhybudd yn newid
  • mae'n bosibl na fyddwch yn derbyn eich tâl dileu swydd y cytunwyd arno - mae'n dibynnu ar y swydd sy'n cael ei chynnig i chi

Os yw eich cyflogwr yn cynnig yr un swydd i chi

Os yw'r telerau ac amodau yn union yr un fath, nid yw eich swydd yn cael ei dileu bellach. Ni fyddwch yn derbyn unrhyw dâl dileu swydd os ydych yn gadael.

Os yw eich cyflogwr yn cynnig telerau ac amodau gwahanol i chi

Mae'n bosibl na fyddwch yn derbyn eich taliad dileu swydd os yw eich cyflogwr yn gallu dangos:

  • ei fod wedi cynnig swydd addas i chi
  • eich bod wedi gwrthod y swydd heb reswm da
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.