Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.
Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cymorth gyda gwahaniaethu yn y gweithle

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os nad ydych yn siŵr a yw’ch problem yn achos o wahaniaethu, neu os oes angen cymorth arnoch i weithredu, mae yna sefydliadau all eich helpu.

Cyn cysylltu â sefydliad i gael cymorth, mae’n syniad da gwneud y canlynol:

  • ysgrifennu beth sydd wedi digwydd er mwyn eich helpu i’w ddisgrifio
  • casglu dogfennau yn ymwneud â’r broblem, er enghraifft eich contract neu bolisi’ch cwmni ar gyfer ymdrin â phroblemau yn y gweithle
  • unrhyw negeseuon e-bost neu lythyron a fydd yn eich helpu i egluro beth ddigwyddodd, er enghraifft llythyr gan eich rheolwr

Os ydych yn aelod o undeb llafur

Dylech gysylltu â’ch cynrychiolydd lleol neu edrych ar wefan eich undeb llafur i gael manylion cyswllt. Bydd yr undeb yn eich helpu i benderfynu beth i’w wneud, ac mae’n bosibl y bydd y cynrychiolydd yn gallu mynychu cyfarfodydd gyda’ch cyflogwr er mwyn eich cefnogi.

Cysylltu â Cyngor ar Bopeth

Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol - gallant helpu gyda'ch problem gwahaniaethu ac unrhyw broblemau eraill sydd gennych. Er enghraifft, os cawsoch eich diswyddo'n annheg gallwch gael cyngor am broblemau arian a allai fod gennych os nad ydych yn gweithio.

Chwilio am gymorth cyfreithiol di-dâl

Gallech gael cymorth cyfreithiol di-dâl fel rhan o’ch yswiriant cartref, neu drwy gymorth cyfreithiol neu ganolfan y gyfraith. Edrychwch i weld sut mae cael cymorth cyfreithiol di-dâl.

Cysylltu ag Acas

Os na allwch gael cymorth gan Cyngor ar Bopeth neu os na allwch gael cymorth cyfreithiol di-dâl, cysylltwch ag Acas. Sefydliad diduedd yw hwn sy’n ceisio helpu pobl i ddatrys problemau yn y gweithle. Gall y sefydliad hwn eich helpu os nad gwahaniaethu yw’ch unig broblem, er enghraifft os ydych yn dioddef gwahaniaethu ac yn cael eich talu'n hwyr hefyd.

Llinell gymorth Acas

Ffôn: 0300 123 1100
Trosglwyddydd testun: 18001 0300 123 1100

Cost arferol galwadau ffôn yw 40c y funud os ydych yn defnyddio ffôn symudol a hyd at 10c y funud os ydych yn defnyddio llinell tir. Dylai’r alwad fod yn ddi-dâl o ffôn symudol os oes gennych gontract sy’n cynnwys galwadau i linellau tir – holwch eich cyflenwr os nad ydych yn siŵr.

Os nad ydych yn gyfforddus yn siarad Saesneg, gallwch nodi’ch dewis iaith wrth ffonio.

Cysylltu â llinell gymorth EASS

Hefyd, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) os oes gennych broblem yn ymwneud â gwahaniaethu – gall y gwasanaeth hwn eich helpu i ganfod ffordd ymlaen, ond nid yw’n gallu rhoi cyngor cyfreithiol.

Llinell gymorth EASS

Ffôn: 0808 800 0082
Trosglwyddydd testun: 0808 800 0084
Dydd Llun – Dydd Gwener, 9am tan 7pm
Dydd Sadwrn, 10am tan 2pm

Ni chodir tâl am ffonio’r rhifau hyn.

Hefyd, gallwch gysylltu â llinell gymorth EASS trwy gwblhau ffurflen ar-lein, neu siarad ar-lein â chynghorydd. Trowch at dudalen gyswllt EASS i gael y manylion cyswllt.

Os yw’n well gennych ysgrifennu llythyr, dyma’r cyfeiriad:

Rhadbost
Llinell gymorth EASS
FPN6521

Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau gyda’ch llythyr – bydd EASS yn gofyn am unrhyw wybodaeth sydd ei hangen wrth ymateb.

Gallwch ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i gysylltu ag EASS - edrychwch i weld sut mae defnyddio'r gwasanaeth BSL.

Os ydych yn gynghorydd

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn darparu Cymorth Cynghorydd EHRC, sy’n llinell gymorth ar gyfer cynghorwyr a chyfreithwyr.

Gweld sut mae cysylltu â Chymorth Cynghorydd EHRC.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.