Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.

Cael cyngor mewnfudo

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol os hoffech chi siarad â rhywun yn uniongyrchol am broblem fewnfudo. Mae'n bwysig cael cymorth yn gynnar os nad ydych chi'n siŵr beth i'w wneud.

Cael cymorth am ddim gan Cyngor ar Bopeth

Gallwch chi gael cymorth cyfrinachol am ddim gan eich Cyngor ar Bopeth lleol ynghylch:

  • cymhwystra i gael fisa a cheisiadau am fisa – yn cynnwys cyngor ar lenwi ffurflenni (er mae’n bosib na fyddant yn gallu llenwi’r ffurflen ar eich rhan

  • cysylltu â’r Swyddfa Gartref ynghylch unrhyw oedi

  • cael dogfennau mewnfudo newydd

  • problemau gyda dod i’r DU neu aros yn y DU, e.e. ceisiadau am gliriad i ddod i mewn, caniatâd i ddod i mewn, caniatâd i aros neu drwyddedau preswylio

  • dod yn ddinesydd Prydeinig

Gall eich Cyngor ar Bopeth lleol helpu gyda phroblemau mwy cymhleth hefyd o bosib – yn dibynnu ar a oes arbenigwr ar fewnfudo yno. Gofynnwch wrth gysylltu.

Os yw’ch sefyllfa’n fwy cymhleth

Os yw’ch sefyllfa’n fwy cymhleth, efallai y bydd angen i chi dalu am gyngor arbenigol gan gynghorydd mewnfudo proffesiynol neu gyfreithiwr. Er enghraifft, os ydych chi’n gwneud cais i’ch teulu ymuno â chi yn y DU neu os ydych chi’n gwahanu oddi wrth eich partner.

Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol am argymhelliad – neu gallwch chwilio am gynghorydd mewnfudo neu gyfreithiwr yn eich ardal chi eich hun.

Mae angen i chi wneud yn siŵr bod arbenigwr mewnfudo wedi cofrestru gydag OISC (Swyddfa’r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo) cyn gofyn am ei gyngor.

Pwysig

Rhaid i bob arbenigwr fod wedi’i gofrestru gydag OISC – os nad yw, ni fydd ganddo’r wybodaeth orau i’ch cynghori chi (ond bydd dal angen i chi dalu).

Cael cymorth cyfreithiol (help cyfreithiol am ddim)

Os ydych chi ar incwm isel, gallech gael cymorth cyfreithiol os ydych chi’n:

  • dioddef trais domestig

  • dioddefwr masnach pobl

  • gwneud cais am gymorth lloches

Gwiriwch os ydych chi'n gymwys yn ariannol yn GOV.UK.

Gofalwch fod gan y cynghorydd a ddewiswch gyllid cymorth cyfreithiol. Os ydych chi’n dewis cynghorydd heb gyllid cymorth cyfreithiol, gallech wario miloedd o bunnoedd heb eisiau.

Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol os hoffech chi siarad â rhywun yn uniongyrchol am broblem fewnfudo. Mae’n bwysig cael cymorth yn gynnar os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud.

Adolygwyd y dudalen ar 28 Gorffennaf 2019