Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.

Penderfynu beth i’w wneud ar ôl gwahanu

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi’n gwahanu oddi wrth eich partner, bydd angen i chi benderfynu:

  • ble fydd eich plant yn byw a pha mor aml y byddan nhw’n gweld y rhiant arall

  • ble fyddwch chi’n byw

  • sut mae rhannu unrhyw arian neu eiddo rydych chi’n eu rhannu

  • a fyddwch chi’n gallu fforddio talu’r biliau unwaith y byddwch chi’n byw ar wahân.

Os ydych chi yn y DU fel dibynnydd ar fisa eich partner, bydd angen i chi wirio a allwch chi aros - gwiriwch a allwch chi aros yn y DU ar fisa ar ôl ysgariad.

Peidiwch â theimlo dan bwysau i ddod i benderfyniad nad yw’n iawn i chi. Bydd mwy o siawns i ddod i gytundeb os byddwch chi’n aros tan y byddwch yn barod i siarad.

Bydd angen i chi fod wedi bod yn briod am o leiaf flwyddyn cyn y gallwch chi ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil, felly mae amser i ddod i ddeall eich gilydd fel arfer.

Pwysig

Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n orbryderus neu’n eich bygwth, dylech ofyn am gymorth.

Peidiwch â chytuno i unrhyw beth am eich gwahanu heb siarad â rhywun yn gyntaf. 

Gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Ferched ar 0808 2000 247 ar unrhyw adeg. 

Elusen yw’r Men’s Advice Line sy’n helpu dynion sy’n dioddef cam-drin domestig. Gallwch ffonio eu llinell gymorth ar 0808 801 0327 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud nesaf, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf.

Does dim rhaid i chi fynd i’r llys i benderfynu beth i’w wneud ar ôl i chi wahanu oni bai eich bod methu cytuno â’ch gilydd. Mae’n aml yn rhatach a haws dod i drefniant eich hunain.

Os ydych chi’n cael trafferth penderfynu, dylech roi cynnig ar gyfryngu i weld a allwch chi ddod i gytundeb gyda chymorth cyfryngwr.

Mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i chi ei wneud beth bynnag os ydych chi’n penderfynu mynd i’r llys yn ddiweddarach.

Gwybodaeth am sut gall cyfryngu eich helpu wrth wahanu.

Os ydych chi’n cytuno ar eich trefniadau gwahanu

Dylech nodi’r hyn rydych chi wedi cytuno arno ar bapur a’i lofnodi. Gall fod mewn unrhyw fformat, ond gallech fod am ddweud eich bod yn cytuno i:

  • fyw ar wahân

  • peidio â nychu nac aflonyddu ar eich cynbartner

  • talu cymorth ariannol neu gynhaliaeth i’ch cynbartner

  • talu cynhaliaeth plant tuag at gost gofalu am eich plant

  • gweld y plant ar ddiwrnodau penodol

Ar ôl i chi nodi eich cytundeb ar bapur, mae’n syniad da siarad â chyfreithiwr - gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr.

Gwneud cytundeb gwahanu

Os nad ydych chi wedi dechrau ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil, gallwch ofyn i’ch cyfreithiwr nodi eich trefniant fel ‘cytundeb gwahanu’.

Mae’n ffordd dda o sicrhau eich bod yn glir am delerau eich gwahanu tan i chi ysgaru neu roi diwedd ar eich partneriaeth sifil.

Dydy cytundeb gwahanu ddim yn rhwymol gyfreithiol. Mae hyn yn golygu na fyddwch o bosibl yn gallu mynd â’ch partner i’r llys os nad yw’n cadw at rywbeth y cytunwyd arno.

Fodd bynnag, fel arfer bydd barnwr yn cydnabod ei fod yn gytundeb ffurfiol:

  • os yw wedi’i ddrafftio’n iawn gan gyfreithiwr

  • os yw eich sefyllfa ariannol chi a’ch cynbartner yr un fath â phryd y cytunoch

Ar ôl i chi ddechrau’r broses o ysgaru neu roi diwedd ar eich partneriaeth sifil, gall cyfreithiwr dros eich cytundeb gwahanu yn ‘orchymyn cydsynio’. Mae hyn yn terfynu’ch trefniadau yn gyfreithiol.

Os nad ydych chi’n gallu cytuno gyda’ch cynbartner

Mae’n syniad da siarad gyda chyfreithiwr os nad ydych chi a’ch partner wedi gallu trafod neu gytuno ar y trefniadau ar gyfer gwahanu, neu os yw’ch cytundeb wedi’i dorri.

Mae’n debyg y bydd angen i chi fynd i’r llys er mwyn i farnwr allu penderfynu drosoch chi, ond bydd cyfreithiwr yn gallu’ch cynghori ar beth i’w wneud nesaf.

Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr.

Os oes gennych chi blant

Mae’n syniad da cadw trefniadau am blant yn anffurfiol os oes modd.

Mae hyn oherwydd na fydd llysoedd fel arfer yn penderfynu gyda phwy y bydd plant yn byw neu’n treulio amser gyda nhw os ydyn nhw’n meddwl y gall y rhieni ddod i ddeall ei gilydd eu hunain. Gelwir hyn yn ‘egwyddor dim gorchymyn’.

Fodd bynnag, fel arfer bydd angen i chi fynd i’r llys:

  • os ydych chi’n poeni am ddiogelwch eich plant

  • rydych chi neu’ch plant wedi profi cam-drin domestig

  • rydych chi’n teimlo’n agored i niwed neu’n cael eich rheoli gan eich cynbartner

  • rydych chi wedi rhoi cynnig ar gyfryngu ond yn dal i fethu cytuno. 

Darllenwch fwy am wneud trefniadau plant neu beth i’w wneud os yw eich partner yn mynd â’r plant.

Cynhaliaeth Plant

Mae’r naill ochr a’r llall yn gyfrifol am gost gofalu am eich plant ar ôl i chi wahanu – hyd yn oed os nad ydych chi wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil.

Os mai chi yw’r rhiant sy’n symud allan, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cynhaliaeth i’r rhiant sy’n gofalu am y plant.

Fel arfer, mae’n syniad da trefnu hyn gyda’ch gilydd – gelwir hyn yn ‘drefniant plant gan y teulu’.

Gallwch gael cyngor am ddim gan Child Maintenance Options (CMO) os ydych chi angen cymorth i gytuno. Mae CMO yn wasanaeth am ddim gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Os nad ydych chi’n gallu dod i gytundeb eich hunain, gallwch wneud cais am gynllun sy’n cael ei gynnal gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.  Bydd yn rhaid i chi dalu ffi i wneud cais.

Fel arfer, gallwch ond fynd i’r llys am benderfyniad am gynhaliaeth plant os yw’r gynhaliaeth ar gyfer talu am:

  • ffioedd ysgol

  • anghenion ychwanegol ar gyfer plant anabl

  • plant mewn addysg bellach

  • plant y mae’r rhiant nad yw’n byw gyda nhw yn byw mewn gwlad arall

Darllenwch fwy am gynhaliaeth plant.

Penderfynu beth i’w wneud gyda’ch cartref

O dan amgylchiadau prin iawn, gall eich partner fynnu eich bod yn gadael eich cartref. Ni allant newid y cloeon na’ch gorfodi i adael, felly ceisiwch gymryd amser i ystyried beth rydych chi ei angen ac eisiau ei gael.

Darllenwch beth i'w wneud os yw'ch partner yn ceisio eich gorfodi i symud.

Fel arfer, bydd angen i chi benderfynu:

  • a oes un ohonoch chi am aros yn y cartref tra bod y llall yn symud allan

  • a yw’r ddau ohonoch chi am symud allan a rhoi diwedd ar eich tenantiaeth, neu werthu’ch cartref

  • a oes un ohonoch chi am brynu’r llall allan fel eu bod yn berchen ar eu cartref eu hunain

  • a yw’r ddau ohonoch chi am aros yn y cartref a byw bywydau ar wahân

Bydd yr hyn y byddwch chi’n ei wneud yn dibynnu ar beth allwch chi ei fforddio ac a oes gennych chi blant.

Gall ddibynnu hefyd ar a oes gennych chi hawliau i aros yn y cartref ar ôl i chi wahanu, er enghraifft a ydych chi wedi priodi neu a yw’ch enw ar y gweithredoedd.

Darllenwch fwy am beth sy'n digwydd i'ch cartref wrth wahanu.

Rheoli eich arian

Does dim ffordd hawdd o benderfynu sut i rannu’ch arian, ond os ydych chi a’ch cynbartner yn gallu dod i ddeall eich gilydd eich hunain, bydd yn haws na gofyn i lys eich helpu i benderfynu.

Bydd angen i chi gyfrifo faint o arian sydd gennych chi mewn cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu, cynilion neu fuddsoddiadau.

Bydd angen i chi hefyd gynnwys unrhyw ddyledion rydych chi’n eu rhannu, fel cardiau credyd neu fenthyciadau.

Dyma sut mae rhannu'ch arian a'ch eiddo pan fyddwch chi'n gwahanu.

Rhannu pensiynau

Os ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil, fel arfer bydd gennych hawl i rannu pensiwn eich cynbartner ar ôl ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil.

Gall rhannu pensiwn fod yn gymhleth felly mae’n syniad da siarad â chyfreithiwr.

Mae’n bwysig eich bod yn onest gyda’ch cynbartner am eich sefyllfa ariannol. Siaradwch gyda chynghorydd yn eich Cyngor ar Bopeth agosaf ynglŷn â beth ddylech chi ei wneud os yw’ch cynbartner yn cadw arian oddi wrthych chi.

Os nad ydych chi’n credu y bydd gennych chi ddigon o arian

Os ydych chi wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil, gallwch ofyn am gymorth ariannol gan eich cynbartner cyn gynted ag y byddwch chi’n gwahanu. Gelwir hyn yn ‘gynhaliaeth priod’ ac mae’n daliad rheolaidd i’ch helpu i dalu biliau a chostau byw eraill. Allwch chi ddim cael cynhaliaeth priod os nad oeddech chi wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil.

Dyma sut mae trefnu cynhaliaeth priod

Efallai y byddwch chi’n gallu cael cymorth i dalu eich rhent neu forgais.

Wrth bwy ddylech chi ddweud eich bod wedi gwahanu

Os ydych chi’n talu eich treth gyngor, dylech ddweud wrth eich cyngor lleol - byddwch chi’n talu llai os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun.

Bydd angen i chi hefyd ddweud wrth eich cyngor lleol eich bod wedi gwahanu os ydych chi’n cael Budd-dal Tai neu ostyngiad y dreth gyngor.

Os ydych chi’n cael budd-daliadau, gallai bod yn rhan o gwpl effeithio ar faint y byddwch chi’n ei gael. Dylech ddweud wrth y swyddfa sy’n delio â’ch cais eich bod wedi gwahanu cyn gynted â phosibl – mae gan y rhan fwyaf o fudd-daliadau derfyn amser o 30 diwrnod.

Os ydych chi’n cael credydau treth, dylech ddweud wrth CThEM o fewn 30 diwrnod.

Talu am gyfreithwyr

Fel arfer, bydd angen i chi siarad gyda chyfreithiwr ar ryw adeg wrth wahanu. I’ch helpu i gadw’r biliau cyfreithiol i lawr, dylech:

  • geisio cytuno ar gymaint â phosibl gyda’ch cyn-bartner cyn i chi fynd at gyfreithiwr

  • darllen cymaint â phosibl am wahanu - gallech chi edrych ar-lein neu fynd i’r llyfrgell

  • holi a oes unrhyw gyfreithwyr ger eich swyddfa yn cynnig cyngor am ddim – fel arfer chewch chi ddim mwy na 30 munud, ond gallai’ch helpu yr un fath

  • gofyn i’ch cyfreithiwr a fyddent yn gweithio am ffi benodol – fel hyn, byddwch yn gwybod yn union faint fydd yn rhaid i chi ei dalu

Darllenwch fwy am y cymorth y gallwch chi ei gael gyda chostau cyfreithiol

Cymorth cyfreithiol

Efallai y byddwch chi’n gallu cael cymorth i dalu am gyfryngu ar ôl gwahanu, ond mae’n anodd iawn ei gael ar gyfer costau cyfreithiol – hyd yn oed os ydych chi ar fudd-daliadau.

Fel arfer, gallwch ond cael cymorth cyfreithiol os ydych chi neu’ch plant wedi dioddef cam-drin domestig. Mae cam-drin domestig yn cynnwys ymddygiad rheoli, fel eich atal rhag gallu cael gafael ar eich arian eich hun.

Gwiriwch a allwch chi gael cymorth ariannol ar GOV.UK.

Os ydych chi’n barod i roi diwedd ar eich priodas neu bartneriaeth sifil

Gallwch ddechrau ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil os ydych chi wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil am o leiaf flwyddyn.

Fel arfer, does dim angen i chi fynd i’r llys os ydych chi a’ch cyn-bartner yn gallu cytuno ar:

  • beth sy’n digwydd i’ch plant, arian ac eiddo

  • y rheswm (a elwir hefyd yn ‘ffaith’ neu ‘sail’) dros ysgaru neu ddiddymu’r berthynas

Gallwch ddewis gwahanu cyfreithiol yn hytrach na hynny (sef ‘gwahanu cyfreithiol’) os:

  • nad ydych chi wedi bod yn briod am flwyddyn

  • os nad ydych chi am gael ysgariad gan nad yw’ch crefydd yn cytuno â hynny

  • os nad ydych chi’n siŵr eich bod eisiau ysgaru

Gallwch dal ysgaru neu roi diwedd ar eich partneriaeth sifil ar ôl gwahanu cyfreithiol.

Dyma sut mae gorffen eich priodas.

Adolygwyd y dudalen ar 23 Gorffennaf 2019