Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.
Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cysylltu â’r llinell gymorth defnyddwyr

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth (yr hen Consumer Direct) os ydych chi angen rhagor o gymorth gyda phroblem defnyddwyr.

Ffonio’r llinell gymorth

Llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth: 0808 223 1133
Ffôn testun: 18001 0808 223 1133

Mae llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm. Nid yw’r llinellau ar agor ar wyliau banc.

I gysylltu â chynghorydd sy’n siarad Cymraeg: 0808 223 1144
Ffôn testun i gysylltu â chynghorydd sy’n siarad Cymraeg: 18001 0808 223 1144

Bydd cynghorydd yn ateb eich galwad cyn gynted â phosibl, o fewn rhai munudau fel arfer. Unwaith y byddwch chi’n siarad â chynghorydd, dylai’ch galwad bara 8 i 10 munud fel arfer.

Mae galwadau o ffonau symudol a llinellau tir am ddim.

Sgwrsio gyda ni ar-lein

Gallwch siarad am eich problem defnyddwyr ar-lein hefyd gyda chynghorydd wedi’i hyfforddi. Byddwn yn ceisio eich helpu i ddatrys eich problem neu wneud cynnydd da tuag at hynny.

Fel arfer, gallwch sgwrsio rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Siarad â chynghorydd defnyddwyr.

Er mwyn eich cysylltu chi gyda’r cynghorydd priodol, byddwn yn gofyn i chi roi ychydig o fanylion i ni, gan gynnwys eich cod post.

Ni all ein cynghorwyr sgwrsio helpu gyda phroblemau ynni neu bost, ond mae ffyrdd eraill i gysylltu â ni i gael cymorth gyda’r pethau hyn.

Defnyddio ffurflen ar-lein

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni, yn dibynnu ar y mater rydych chi angen cymorth yn ei gylch:

Sut gall y llinell gymorth defnyddwyr eich helpu chi

Gall y cynghorydd llinell gymorth:

  • roi cyngor ymarferol ac amhleidiol i chi ar sut i ddatrys eich problem defnyddiwr
  • dweud wrthych chi pa gyfraith sy’n berthnasol i’ch sefyllfa
  • trosglwyddo gwybodaeth am gwynion i adran Safonau Masnach (ni allwch wneud hyn eich hun)

Fodd bynnag, ni all y cynghorydd

  • wneud cwyn ar eich rhan
  • cymryd camau cyfreithiol ar eich rhan

Cyn i chi gysylltu â’r llinell gymorth

Cyn i chi gysylltu â’r llinell gymorth, dylech sicrhau bod gennych feiro a phapur wrth law.

I helpu’r cynghorydd roi’r cyngor mwyaf perthnasol i chi, dylech fod yn barod i roi cymaint o’r wybodaeth ganlynol â phosibl iddynt:

  • manylion cryno am eich problem, e.e. pryd wnaethoch chi dalu am yr eitem neu’r gwasanaeth, faint wnaethoch chi ei dalu, sut wnaethoch chi dalu, mewn siop neu ar-lein
  • enw a chyfeiriad y gwerthwr neu fasnachwr
  • yr hyn rydych chi wedi’i wneud hyd yma i geisio datrys y broblem
  • eich cyfeirnod (os ydych chi eisoes wedi cysylltu â’r llinell gymorth ynghylch yr un broblem)

Mae gan ein staff yr hawl i wneud eu gwaith heb gael eu trin yn wael - darganfyddwch sut rydyn ni'n delio ag ymddygiad annerbyniol.

Beth rydym yn ei wneud gyda’ch gwybodaeth

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni i ateb eich ymholiad. Efallai y byddwn ni’n cysylltu â chi i gael eich adborth ar ein gwasanaeth.

Byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth hefyd gyda’r adran Safonau Masnach a sefydliadau eraill rydym yn ymddiried ynddynt ac yn gweithio gyda nhw i helpu eu gwaith diogelu cwsmeriaid. Efallai y byddant nhw’n cysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth a fydd yn eu helpu gyda’u gwaith.

Dywedwch wrthym wrth gysylltu â’r gwasanaeth defnyddwyr os nad ydych chi am i rannu’ch gwybodaeth.

Gwybodaeth am sut rydym yn defnyddio, cadw a rhannu'ch gwybodaeth.

Os ydych chi’n anhapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch

Dylech ddilyn ein gweithdrefn cwynion.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.