Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.
Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Newid eich ymrwymiad hawliwr

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi’n cael anhawster cwblhau’r holl weithgareddau cysylltiedig â gwaith yn eich ymrwymiad hawliwr, efallai y gallwch eu newid.

Cysylltwch â llinell gymorth Credyd Cynhwysol a dywedwch yr hoffech chi gael apwyntiad gyda’ch hyfforddwr gwaith gan eich bod angen newid eich ymrwymiad hawliwr. Eglurwch pam a dywedwch wrthynt am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau.

Os oes gennych chi gyfnodolyn ar-lein ar gyfer Credyd Cynhwysol, dylech hefyd ychwanegu nodyn ato, yn dweud wrth eich hyfforddwr gwaith eich bod angen newid eich ymrwymiad hawliwr.

Llinell gymorth gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Fôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae galwadau i’r rhif hwn am ddim.

Llinell gymorth gwasanaeth byw Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 9344
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4pm

Mae galwadau i’r rhif hwn am ddim.

Mae’n bwysig gweithredu ar unwaith a dal ati i geisio cyflawni eich ymrwymiad hawliwr presennol wrth i chi aros am newidiadau. Gellid torri eich Credyd Cynhwysol (sef ‘cosb’) os nad ydych chi’n cyflawni’ch holl weithgareddau cysylltiedig â gwaith.

Siarad â’ch hyfforddwr gwaith

Byddwch yn onest gyda’ch hyfforddwr gwaith ynghylch pa weithgareddau cysylltiedig â gwaith sy’n realistig i chi. Dylent ystyried eich ceisiadau bob tro.

Eglurwch pam na allwch gwblhau eich gweithgareddau cysylltiedig â gwaith – gan gynnwys unrhyw beth am eich sefyllfa sydd wedi newid. Mewn rhai sefyllfaoedd byddwch yn cael llai o weithgareddau cysylltiedig â gwaith, os o gwbl, yn awtomatig.

Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd y mae’ch hyfforddwr gwaith yn ymateb i’ch cais, gallwch gwyno drwy ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Rydych chi wedi profi neu wedi’ch bygwth â thrais neu gam-drin domestig

Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n orbryderus neu mewn bygythiad, dylech chi gael cymorth.

Gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Fenywod ar 0808 2000 247 ar unrhyw adeg.

Elusen yw Men's Advice Line sy’n helpu dynion sy’n dioddef cam-drin domestig. Gallwch ffonio eu llinell gymorth ar 0808 801 0327 (9am i 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener).

Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud nesaf, cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau o fewn 6 mis os ydych chi wedi profi trais neu gam-drin domestig. Os byddai’n well gennych chi beidio â siarad â’ch hyfforddwr gwaith am hyn gallwch ffonio llinell gymorth y Credyd Cynhwysol.

Ni fydd yn rhaid i chi wneud unrhyw weithgareddau cysylltiedig â gwaith am 13 wythnos, cyhyd nad ydych yn byw gyda’ch partner mwyach. Mae’r 13 wythnos yn dechrau o’r dyddiad i chi brofi neu gael eich bygwth â thrais neu gam-drin domestig. Bydd yn cael ei ymestyn i 26 wythnos os ydych chi’n rhiant sengl ac yn gyfrifol am blentyn dan 16 oed.

O fewn mis i ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau, bydd angen i chi anfon datganiad atynt gan rywun mewn swydd swyddogol, er enghraifft:

  • eich cyflogwr
  • gweithiwr gofal iechyd proffesiynol
  • swyddog heddlu
  • gweithiwr cymdeithasol
  • swyddog tai
  • gweithiwr cymorth
  • swyddog undeb llafur

Os ydych chi’n dal i fyw gyda’ch partner neu os nad ydych chi’n rhoi gwybod am drais neu gam-drin domestig, ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn newid eich gweithgareddau cysylltiedig â gwaith.

Bydd yr Adran gwaith a Phensiynau ond yn newid eich gweithgareddau cysylltiedig â gwaith ar ôl trais neu gam-drin domestig unwaith bob 12 mis.

Rydych chi’n sâl neu’n anabl

Os oes gennych chi salwch tymor byr

Dywedwch wrth eich hyfforddwr gwaith os ydych chi’n sâl - ni fydd yn rhaid i chi chwilio am waith tan eich bod yn well. Gallwch ond gwneud hyn dwywaith y flwyddyn.

Os ydych chi’n sâl am fwy na 7 niwrnod bydd angen i chi gael nodyn meddyg.

Os ydych chi’n sâl am fwy na 14 diwrnod bydd yn cyfrif fel salwch hirdymor.

Os ydych chi’n anabl neu gyda salwch hirdymor

Ni fydd angen i chi weithio os gallwch ddangos bod gennych chi ‘allu cyfyngedig i weithio’. Efallai y bydd angen i chi lenwi holiadur am eich iechyd a mynd am asesiad meddygol.

Dywedwch wrth eich hyfforddwr gwaith am unrhyw broblemau iechyd sydd gennych chi hyd yn oed os nad ydych chi wedi cael eich dosbarthu fel rhywun â ‘gallu cyfyngedig i weithio’. Dylent dal addasu eich ymrwymiad hawliwr os yw’ch cyflwr iechyd yn golygu y gallwch chi ond gwneud mathau penodol o waith neu ymdopi â nifer penodol o oriau.

Gallai fod yn achos o wahaniaethu os yw’ch hyfforddwr gwaith yn gwrthod newid eich ymrwymiad hawliwr yn seiliedig ar eich iechyd. Gallwch wirio a ydynt wedi methu gwneud addasiad rhesymol a gofyn iddynt wneud newidiadau os felly.

Rydych chi’n gofalu am blentyn neu berson ag anableddau difrifol

Dylai’ch gwaith wastad ystyried eich ymrwymiadau gofalu. Gwiriwch eich bod yn y grŵp cysylltiedig â gwaith cywir i ofalu y gofynnir i chi wneud y pethau cywir.

Dylech ddweud wrth eich hyfforddwr gwaith hefyd am unrhyw broblemau dros dro sy’n eich atal rhag gwneud eich gweithgareddau cysylltiedig â gwaith. Er enghraifft, dylech gael amser i ffwrdd os oes rhywbeth yn amharu ar eich trefniadau gofal plant ac nad ydych chi’n gallu aildrefnu ar fyr-rybudd.

Rydych chi’n feichiog neu wedi rhoi genedigaeth yn y 15 wythnos flaenorol

Dylai’ch hyfforddwr gwaith ystyried beichiogrwydd neu roi genedigaeth ym mhob achos. Gwiriwch eich bod yn y grŵp cysylltiedig â gwaith cywir i ofalu y gofynnir i chi wneud y pethau cywir.

Efallai y byddwch chi’n gallu gwneud hawliad am wahaniaethu os yw’ch hyfforddwr gwaith yn gwrthod addasu eich ymrwymiad hawliwr ar sail eich beichiogrwydd.

Rydych chi’n chwilio am gyflog neu fath o swydd penodol

Os yw’ch hyfforddwr swydd yn disgwyl i chi chwilio am waith, bydd am i chi dderbyn unrhyw swydd sy’n talu o leiaf yr isafswm cyflog fel arfer . Mae hyn yn cynnwys gwaith rhan-amser.

Os ydych chi wedi bod mewn gwaith yn ddiweddar gallwch ofyn am gael cyfyngu ar eich chwilio i swyddi penodol am hyd at 3 mis o ddyddiad eich cais am y Credyd Cynhwysol. Er enghraifft, efallai y byddwch ond am chwilio am waith:

  • llawn amser
  • sy’n talu mwy na’r isafswm cyflog – yn agosach i’r hyn rydych chi wedi’i ennill yn ddiweddar
  • mewn maes penodol lle mae gennych chi brofiad

Bydd angen i chi ddangos bod gennych chi siawns rhesymol o ddod o hyd i’r math o swydd rydych chi am ei chael. Er enghraifft, dywedwch wrth eich hyfforddwr gwaith os oes gennych chi brofiad, hyfforddiant, sgiliau neu gymwysterau perthnasol.

Os dywedir wrthych chi am wneud cais am swydd sydd yn groes i’ch credoau

Ni ddylech chi orfod gwneud gwaith sy’n groes i’ch credoau – boed yn rhai crefyddol ai peidio. Er enghraifft, os ydych chi’n heddychwr ni ddylech chi orfod gweithio mewn ffatri arfau.

Eglurwch eich credoau i’ch hyfforddwr gwaith os yw'n gofyn i chi wneud unrhyw beth yn groes i’ch credoau. Os yw'n gwrthod gwneud newidiadau, edrychwch i weld a yw hyn yn achos o wahaniaethu.

Os ydych chi’n hunangyflogedig neu eisoes yn gweithio

Nid oes yn rhaid i chi wneud gweithgareddau cysylltiedig â gwaith ar ôl i chi ddechrau ennill swm penodol - edrychwch i weld a ydych chi yn y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith cywir.

Maen nhw’n gofyn i chi deithio gormod

Nid oes yn rhaid i chi wneud cais am swyddi a fyddai’n cymryd mwy na 90 munud o deithio bob ffordd.

Dywedwch wrth eich hyfforddwr gwaith os yw problemau iechyd neu gyfrifoldebau gofalu yn ei gwneud yn rhesymol i chi gyfyngu ymhellach ar eich amser teithio. Dylai’ch ymrwymiad hawliwr ystyried hyn.

Os yw’ch hyfforddwr gwaith yn meddwl y byddai taith yn cymryd llai na 90 munud i chi, gofalwch ei fod yn ymwybodol o unrhyw broblemau gyda’r daith neu gyfyngiadau ar sut gallwch chi deithio. Efallai ei fod yn defnyddio amcangyfrif cyflym ond bod y daith yn cymryd mwy o amser mewn gwirionedd.

Mae rheswm arall yn eich atal rhag gweithio neu chwilio am waith

Dywedwch wrth eich hyfforddwr gwaith:

  • os oes gennych chi argyfwng teuluol
  • os ydych chi angen mynd i angladd
  • os ydych chi angen amser i ffwrdd gan fod eich partner neu blentyn wedi marw
  • os yw'ch trefniadau gofal plant yn cael eu tarfu ac nad ydych chi’n gallu aildrefnu
  • os ydych chi yn y llys, gan gynnwys fel tyst neu aelod o’r rheithgor
  • os ydych chi'n symud tŷ

Yn dibynnu ar eich sefyllfa efallai y bydd dal angen i chi wneud rhywfaint o weithgareddau cysylltiedig â gwaith, ond dylai'r gofyniad gael ei leihau. Mae beth yn union sydd angen i chi ei wneud yn dibynnu ar yr hyn y byddwch yn cytuno arno gyda’ch hyfforddwr gwaith.

Rhoi tystiolaeth

Gall eich hyfforddwr gwaith ofyn am gael gweld tystiolaeth o’r newid yn eich amgylchiadau neu eich problem gyda gweithgareddau cysylltiedig â gwaith. Er enghraifft:

  • llythyr gan feddyg
  • tystysgrif geni plentyn
  • dogfennau yn dangos eich bod wedi symud tŷ

Os nad ydych chi’n siŵr pa dystiolaeth y bydd angen i chi ei dangos, gofynnwch i’ch hyfforddwr gwaith.

Os na fydd eich hyfforddwr gwaith yn newid eich ymrwymiad hawliwr

Gallwch gwyno wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi’n meddwl bod y penderfyniad yn annheg.

Os ydych chi’n cael eich cosbi er eich bod wedi egluro’ch sefyllfa i’ch hyfforddwr gwaith, gallwch herio'r penderfyniad gydag ailystyriaeth orfodol.

Gallwch hefyd edrych i weld a yw gwrthod newid eich ymrwymiad hawliwr yn gyfystyr â gwahaniaethu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.