Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.
Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cael taliad caledi os ydych wedi cael eich cosbi

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os yw’ch Credyd Cynhwysol wedi’i ostwng oherwydd cosb neu ddirwy am dwyllo, efallai y gallwch chi gael arian mewn argyfwng i dalu costau’r aelwyd, fel bwyd a biliau.

‘Taliad caledi' yw’r enw ar hyn.

Benthyciad yw taliad caledi mewn gwirionedd, felly bydd yn rhaid i chi ei dalu yn ôl ar ôl i’ch cosb ddod i ben. Fel arfer, bydd y Ganolfan Gwaith yn cael yr arian yn ôl drwy gymryd swm o arian o’ch taliad Credyd Cynhwysol bob mis tan ei fod wedi’i dalu.

Cymhwyster

Gallwch ond cael taliad caledi os ydych chi’n bodloni’r holl ofynion canlynol:

  1. Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn (16 os yw’ch taliad yn cael ei ostwng oherwydd twyll).
  2. Mae’n rhaid i chi fod yn cael trafferth talu am eich anghenion sylfaenol neu anghenion sylfaenol plentyn neu berson ifanc rydych chi’n gyfrifol amdanynt. Mae ‘anghenion sylfaenol’ yn cynnwys llety, gwres, bwyd a hylendid. Byddwch ond yn gymwys os mai’r gosb yw’r rheswm nad ydych chi’n gallu diwallu’r anghenion hyn.
  3. Mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud pob ymdrech i roi’r gorau i wario arian ar bethau nad ydynt yn hanfodol. Mae’r Ganolfan Gwaith ond yn disgwyl i chi wario arian ar anghenion sylfaenol, felly efallai y byddant yn disgwyl i chi wario llai ar adloniant neu weithgareddau hamdden.
  4. Mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud popeth y gallwch chi i gael arian o ffynonellau eraill cyn i chi allu gwneud cais. Dylai’r Ganolfan Gwaith fod yn rhesymol am yr hyn y gallwch chi ei wneud dan yr amgylchiadau. Er enghraifft, ni fydd disgwyl i chi werthu eich eiddo, symud tŷ, neu gael benthyciad banc neu gerdyn credyd. Ond efallai y bydd disgwyl i chi ofyn i deulu neu ffrindiau am arian, chwilio am fudd-daliadau eraill (e.e. gan eich cyngor lleol, neu elusennau lleol), neu ofyn am oriau ychwanegol os ydych chi’n gweithio.
  5. Mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud yr holl weithgareddau cysylltiedig â gwaith roeddech chi fod i’w gwneud yn y 7 diwrnod cyn i chi wneud cais am daliad caledi.

Os nad ydych chi’n gymwys am daliad caledi

Os na allwch chi wneud cais am daliad caledi, efallai bod ffyrdd eraill i gael cymorth gyda chostau byw tra'ch bod yn cael eich cosbi.

Sut mae gwneud cais

Cysylltwch â llinell gymorth Credyd Cynhwysol i wneud cais am daliad caledi. Os ydych chi’n gwpwl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol ar y cyd, gall y naill neu’r llall wneud cais.

Mae taliad caledi ond yn para am gyfnod cyfyngedig tan eich diwrnod talu Credyd Cynhwysol arferol nesaf. Bydd yn rhaid i chi wneud cais arall os ydych chi mewn caledi o hyd ar gyfer y mis canlynol.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth byw)
Ffôn: 0800 328 9344
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae galwadau i’r rhifau hyn am ddim.

Rhoi tystiolaeth wrth wneud cais

Mae’n rhaid i chi roi unrhyw dystiolaeth maen nhw’n gofyn amdani i ategu’ch cais. Er enghraifft, bydd yn rhaid i chi egluro:

  • beth rydych chi wedi’i wneud i ddod o hyd i ffynonellau cymorth ariannol eraill
  • pa incwm arall neu arbedion y gallech chi fod eu hangen i’ch helpu i dalu’ch costau
  • beth rydych chi wedi’i wneud i ostwng eich costau ar bethau nad ydyn nhw’n hanfodol, e.e. costau adloniant
  • pa gostau byw rydych chi’n cael trafferth eu talu

Bydd yn helpu’ch cais os gallwch ddangos cyllideb neu ddatganiad ariannol sy’n dangos eich incwm a’ch costau byw misol. Yna, byddant yn gallu gweld yn glir ar beth rydych chi’n gwario’ch arian. Os nad ydych chi’n siŵr sut mae llunio cyllideb, gallai’r cynlluniwr cyllideb gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol eich helpu gyda hyn - gallwch lawrlwytho ac argraffu copi ar y diwedd.

Faint fyddwch chi’n ei gael

Mae’r taliad caledi tua 60% o’r swm y cawsoch eich cosbi yn y mis diwethaf.
Os ydych chi’n cael trafferth talu eich costau o hyd, efallai bod ffyrdd eraill i gael cymorth gyda chostau byw tra'ch bod yn cael eich cosbi.

Apelio yn erbyn y penderfyniad

Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu nad ydych chi’n gymwys am daliad caledi, gallwch ofyn iddynt ailystyried eu penderfyniad. 'Ailystyriaeth orfodol' yw’r enw ar hyn. Os oes gennych chi dystiolaeth newydd neu os yw’ch amgylchiadau wedi newid ers i chi wneud cais am y tro cyntaf, cofiwch gynnwys y wybodaeth hon gyda’ch cais.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.