Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.
Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cadarnhau eich bod wedi derbyn y gosb gywir

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi wedi’ch cosbi, dylech gadarnhau eich bod wedi’ch cosbi ar y lefel briodol ac wedi’ch cosbi am y cyfnod priodol.

Mae cael eich cosbi’n golygu y bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng dros dro.

Gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ailystyried eu penderfyniad os ydych chi’n teimlo nad ydynt wedi rhoi’r gosb gywir i chi. Gelwir hyn yn ‘ailystyried gorfodol’.

Os nad ydych chi’n credu y dylech chi fod wedi’ch cosbi o gwbl, efallai bod dadleuon y gallwch chi eu defnyddio i newid y penderfyniad. Er enghraifft, pe bae gennych chi reswm da dros beidio â gwneud y gweithgarwch a oedd yn gysylltiedig â’ch gwaith.

Y wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi

Dylai manylion eich cosb fod yn eich ‘hysbysiad cosbi’. Bydd hyn ar ffurf llythyr, os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth digidol, sydd wedi’i osod yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein. Dylech gael clywed:

  • pam eich bod wedi derbyn cosb
  • lefel y gosb rydych chi wedi’i chael
  • am faint y bydd y gosb yn para
  • faint o arian fydd yn cael ei gymryd i ffwrdd o’ch taliad Credyd Cynhwysol
  • y dyddiad y gwnaed y penderfyniad am y gosb

Rydych chi angen y wybodaeth hon i gadarnhau eich bod wedi’ch cosbi yn gywir. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’r wybodaeth, cysylltwch â Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol a gofynnwch iddyn nhw am gopi. Wrth i chi weithio’ch ffordd drwy’r archwiliadau hyn, efallai y byddwch am wneud nodiadau rhag ofn eich bod am apelio yn erbyn y gosb ar y diwedd.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth byw)
Ffôn: 0800 328 9344
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae galwadau i’r rhifau hyn am ddim.

Cael cymorth

Gall fod yn gymhleth cadarnhau a ydych chi wedi cael y gosb gywir ai peidio.

Os ydych chi am gael rhywfaint o help gyda hyn, neu am ddeall y manylion yn eich llythyr cosbi, gallwch gysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf.

Cadarnhad 1 - Ydych chi wedi derbyn y lefel briodol o gosb ar gyfer eich grŵp cysylltiedig â gwaith (neu ‘amodoldeb’)?

Mae gwahanol lefelau o gosbau yn dibynnu ar ba grŵp gweithgarwch cysylltiedig â gwaith (neu ‘amodoldeb’) ydych chi. Gallwch weld i ba grŵp rydych chi’n perthyn ar eich ymrwymiad hawliwr neu’r hysbysiad cosbi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Neu gallwch holi yn eich Canolfan Waith leol.

Grŵp dim gofynion cysylltiedig â gwaith

Allwch chi ddim cael eich cosbi os ydych chi yn y 'grŵp dim gofynion cysylltiedig â gwaith'.

Grŵp cyfweliad canolbwyntio ar waith yn unig

Byddwch yn cael cosb lefel isaf os ydych chi yn y 'grŵp cyfweliad canolbwyntio ar waith yn unig'. Byddwch yn cael y gosb hon am fethu â mynd i gyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith yn y Ganolfan Waith heb reswm da.

Grŵp paratoi at waith yn unig

Byddwch yn cael cosb lefel is os ydych chi yn y 'grŵp paratoi at waith yn unig' ac nad ydych yn gwneud tasgau yn y rhannau canlynol o'ch ymrwymiad hawliwr:

  • y cyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith yn y Ganolfan Waith
  • y gofyniad paratoi at waith, fel gwrthod cymryd rhan mewn cynllun hyfforddi
  • gweithgareddau sydd wedi'u rhestru'n benodol o dan y gofyniad chwilio am waith, fel peidio â gwneud cais am swydd benodol
  • cydweithredu â gwiriadau'r Ganolfan Waith ynghylch a ydych chi'n cwblhau'ch gofynion cysylltiedig â gwaith, fel methu â chofrestru neu roi gwybod am newidiadau cysylltiedig â gwaith fel colli cyflog

Grŵp holl ofynion cysylltiedig â gwaith

Os ydych chi yn y 'grŵp holl ofynion cysylltiedig â gwaith', byddwch yn cael cosb lefel isel, cosb lefel ganolig neu gosb lefel uwch.

Byddwch yn cael cosb lefel isel os nad ydych chi'n cwblhau tasgau yn y rhannau canlynol o'ch ymrwymiad hawliwr:

  • y cyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith yn y Ganolfan Waith
  • y gofyniad paratoi at waith, fel gwrthod cymryd rhan mewn cynllun hyfforddi
  • gweithgareddau sydd wedi'u rhestru'n benodol o dan y gofyniad chwilio am waith, fel peidio â gwneud cais am swydd benodol
  • cydweithredu â gwiriadau'r Ganolfan Waith ynghylch a ydych chi'n cwblhau'ch gofynion cysylltiedig â gwaith, fel methu â chofrestru neu roi gwybod am newidiadau cysylltiedig â gwaith fel colli cyflog


Byddwch yn cael cosb lefel ganolig os byddwch chi'n methu â:

  • chymryd pob cam rhesymol i gael gwaith â thâl, mwy o waith â thâl neu waith sy'n talu'n well. Dyma rywbeth y mae'n rhaid i chi ei wneud fel rhan o'r gofyniad chwilio am waith, er enghraifft, chwilio am swyddi ar-lein
  • bodloni'r gofyniad i fod ar gael i weithio. Fel arfer mae'r gofyniad hwn yn golygu bod rhaid i chi allu gwneud gwaith am dâl ar unwaith a bod yn barod i wneud hynny

Mae cosb lefel uwch yn gosb ar gyfer mathau penodol o fethiannau i wneud gwaith. Er enghraifft, gallewch gael cosb lefel uwch am:

  • fethu â chymryd rhan yn y Cynllun Gweithgareddau Gwaith Gorfodol
  • methu â gwneud cais am swydd â thâl
  • methu â derbyn cynnig o swydd â thâl
  • rhoi'r gorau i weithio neu golli cyflog yn wirfoddol neu oherwydd eich methiant

Cadarnhad 2 – Ydych chi wedi’ch cosbi am y cyfnod cywir?

Mae hyd y cyfnod y byddwch chi’n cael eich cosbi yn dibynnu ar lefel eich cosb, eich oedran ac a ydych chi wedi’ch cosbi o’r blaen.

Ni all unrhyw gosb bara mwy na 1095 diwrnod. Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn eich cosbi ddwywaith neu fwy, mae’r cosbau yn dilyn ei gilydd fel arfer. Fodd bynnag, nid ydynt yn gallu para am gyfanswm o fwy na 1095 diwrnod.

Cyfnodau cosbi lefel isaf

Byddwch yn cael eich cosbi o'r dyddiad i chi fethu â chyflawni'r gweithgaredd cysylltiedig â gwaith nes i chi gydymffurfio â'r gweithgaredd cysylltiedig â gwaith eto neu hyd nes nad oes angen i chi gydymffurfio. Efallai na fydd angen i chi gydymffurfio mwyach os bydd eich hawliad Credyd Cynhwysol yn dod i ben neu'ch bod yn symud i grŵp amodoleb cysylltiedig â gwaith arall.

Enghraifft

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn eich cosbi am fethu â mynychu cyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith ar 25 Mehefin. Rydych chi'n dod i'ch cyfweliad nesaf  ar 26 Gorffennaf. Mae 31 diwrnod rhwng 25 Mehefin a'r diwrnod cyn 26 Gorffennaf, felly hyd eich cyfnod cosbi lleiaf yw 31 diwrnod.

Enghraifft

Rydych chi'n methu â mynd i gyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith ar 25 Mehefin. Nid oes rhaid i chi gwrdd â'r gofynion cysylltiedig â gwaith o 1 Gorffennaf ymlaen oherwydd eich bod chi'n feichiog a bod disgwyl i chi roi genedigaeth o fewn un ar ddeg wythnos. Mae 6 diwrnod o 25 Mehefin i'r diwrnod cyn 1 Gorffennaf, felly hyd eich cyfnod cosbi lleiaf yw 6 diwrnod.

Cyfnodau cosbi lefel isel

Ar gyfer cosbau lefel isel, byddwch yn cael eich cosbi o'r dyddiad i chi fethu chyflawni'r gweithgaredd cysylltiedig â gwaith nes i chi gydymffurfio â'r gweithgaredd cysylltiedig â gwaith eto neu hyd nes nad oes rhaid i chi gydymffurfio mwyach, yn ogystal â chyfnod penodol o 7, 14 neu 28 diwrnod ychwanegol. Mae'n bosibl na fydd angen i chi gydymffurfio â'r gweithgaredd cysylltiedig â gwaith mwyach os yw'ch hawliad Credyd Cynhwysol yn dod i ben neu'ch bod yn newid grŵp amodoldeb cysylltiedig â gwaith.

Os ydych chi wedi cael cosb lefel isel cynt

Bydd cyfnod eich cosb yn cynnwys cyfnod penodol o 14 diwenod os ydych chi wedi cael cosb lefel isel o'r blaen a:

  • bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi rhoi cosb lefel isel i chi o'r blaen am fethiant yn y 364 diwrnod cyn eich methiant cyfredol, er bydd methiannau cosbadwy yn y 13 diwrnod cyn y methiant hwn yn cael eu diystyrru
  • bod y gosb flaenorol yn cynnwys cyfnod sefydlog o saith diwrnod ychwanegol

Bydd cyfnod eich cosb yn cynnwys cyfnod sefydlog o 28 diwrnod os ydych chi wedi cael cosb lefel isel o'r blaen a:

  • bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi rhoi cosb lefel isel i chi o'r blaen am fethiant yn y 364 diwrnod cyn eich methiant cyfredol, er bydd methiannau cosbadwy yn y 13 diwrnod cyn y methiant hwn yn cael eu diystyrru
  • bod y gosb flaenorol yn cynnwys cyfnod sefydlog o 14 diwrnod ychwanegol

Mae'r cyfnod sefydlog bob amser yn para saith diwrnod os ydych chi'n 16 neu 17 oed ar ddyddiad y methiant i chi gael ei gosbi amdano, ac os ydych chi wedi cael cosb lefel isel o'r blaen.

Cyfnodau cosbi lefel canolig

Os ydych chi'n 18 oed neu hŷn

Os ydych chi'n 18 oed neu hŷn, mae cosb lefel ganolig yn para 28 diwrnod fel arfer. Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn ar ddyddiad y methiant a arweiniodd at y gosb.

Fodd bynnag, mae cosb lefel ganolig yn para 91 diwrnod os ydych chi eisoes wedi cael cosb lefel ganolig am fethiant yn y 364 diwrnod cyn eich methiant cyfredol, er bydd methiannau cosbadwy yn y 13 diwrnod cyn y methiant hwn yn cael eu diystyrru.

Os ydych chi'n 16 neu 17 oed

Os ydych chi'n 16 neu 17 oed, mae cosb lefel ganolig yn para 7 diwrnod fel arfer. Rhaid i chi fod yn 16 neu 17 oed ar ddyddiad y methiant a arweiniodd at y gosb.

Fodd bynnag, mae cosb lefel ganolig yn para 14 diwrnod os ydych chi eisoes wedi cael cosb lefel ganolig am fethiant yn y 364 diwrnod cyn eich methiant cyfredol, er bydd methiannau cosbadwy yn y 13 diwrnod cyn y methiant hwn yn cael eu diystyrru.

Cyfnodau cosbi lefel uwch

Os ydych chi'n 18 oed neu hŷn

Os ydych chi'n 18 oed neu hŷn, mae cosb lefel uwch yn para 91 diwrnod fel arfer. Rhaid i chi fod yn 18 oed neu hŷn ar ddyddiad y methiant a arweiniodd at y gosb.

Fodd bynnag, mae cosb lefel uwch yn para 182 diwrnod os ydych chi eisoes wedi cael cosb lefel uwch 91 diwrnod am fethiant yn y 364 diwrnod cyn eich methiant cyfredol, er bydd methiannau cosbadwy yn y 13 diwrnod cyn y methiant hwn yn cael eu diystyrru.

Mae cosb lefel uwch yn para 1095 diwrnod os ydych chi eisoes wedi cael cosb 182 neu 1095 diwrnod am fethiant yn y 364 diwrnod cyn eich methiant cyfredol, er bydd methiannau cosbadwy yn y 13 diwrnod cyn y methiant hwn yn cael eu diystyrru.

Os ydych chi'n 16 neu 17 oed

Os ydych chi'n 16 neu 17 oed, mae cosb lefel uwch yn para 14 diwrnod fel arfer. Rhaid i chi fod yn 16 neu 17 oed ar ddyddiad y methiant a arweiniodd at y gosb.

Fodd bynnag, mae cosb lefel uwch yn para 28 diwrnod os ydych chi eisoes wedi cael cosb lefel uwch 14 neu 28 diwrnod am fethiant yn y 364 diwrnod cyn eich methiant cyfredol, er bydd methiannau cosbadwy yn y 13 diwrnod cyn y methiant hwn yn cael eu diystyrru.

Os ydych chi'n rhoi'r gorau i weithio neu'n derbyn cyflog is cyn hawlio Credyd Cynhwysol


Weithiau rydych chi'n gallu cael cosb lefel uwch os i chi wneud un o'r canlynol cyn i chi hawlio Credyd Cynhwysol:

  • gwrthod cynnig o swydd o'ch gwirfodd heb reswm da
  • rhoi gorau i weithio o'ch gwirfodd heb reswm da neu oherwydd camymddwyn
  • derbyn cyflog is o'ch gwirfodd heb reswm da

Os oeddech chi'n gwneud gwaith am dâl cyn hawlio Credyd Cynhwysol a oedd ond yn mynd i bara am gyfnod cyfyngedig a bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi rhoi cosb lefel uwch i chi oherwydd i chi roi'r gorau i'r gwaith hwn neu dderbyn cyflog is, mae cyfnod cosbi arbennig yn berthnasol. Ni all y cyfnod cosbi bara'n hirach na'r dyddiad roedd eich cyflogaeth yn mynd i ddod i ben. Os oeddech chi yn y sefyllfa hon, dilynwch y camau isod i weld pa mor hir ddylai'ch cyfnod cosbi bara.

Cam 1

Sawl diwrnod sydd rhwng y diwrnod ar ôl y dyddiad i chi roi'r gorau i weithio neu dderbyn cyflog is a'r dyddiad cyn roedd disgwyl i'ch gwaith ddod i ben?

Cam 2

 Sawl diwrnod sydd rhwng y diwrnod ar ôl y dyddiad i chi roi'r gorau i weithio neu dderbyn cyflog is a'r diwrnod cyn y dyddiad i chi gyflwyno'ch hawliad Credyd Cynhwysol?

Cam 3

Tynnwch nifer y diwrnodau i chi gyfrifo yng ngham 2 o nifer y diwrnodau i chi gyfrifo yng ngham un.

Cam 4

Mae'r gosb lefel uwch yn para am y lleiaf o'r ddau gyfnod isod:

  • y cyfnod i chi gyfrifo yng ngham tri
  • hyd arferol cosb lefel uwch

Enghraifft

Cam 1: Roedd disgwyl i'ch gwaith tymor byr ddod i ben ar 6 Gorffennaff, ond fe wnaethoch orffen o'ch gwirfodd ar 6 Mehefin. mae 29 diwrnod rhwng y ddau ddyddiad hyn.

Cam 2: Fe hawlioch chi Gredyd Cynhwysol ar 20 Mehefin. Mae 13 diwrnod rhwng y dyddiad i chi roi'r gorau i'ch swydd a gwneud eich hawliad.

Cam 3: 29 - 13 = 16

Cam 4: Y byrraf o'r cyfnodau o blith 16 (Cam 3) a 91 (hyd cosb lefel uwch fel arfer) yw 16. Felly bydd eich cosb yn para 16 diwrnod.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.