Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.
Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Herio penderfyniad Credyd Cynhwysol - ailystyriaeth orfodol

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad ynghylch eich hawliad Credyd Cynhwysol, gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ei newid. Bydd angen i chi ofyn am ‘ailystyriaeth orfodol’ - mae hyn yn golygu y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych ar y penderfyniad eto.

Mae angen i chi gysylltu â nhw o fewn mis i ddyddiad y penderfyniad.

Gofyn am ailystyriaeth orfodol

Wrth ofyn am ailystyriaeth orfodol bydd angen i chi gynnwys:

  • dyddiad y penderfyniad
  • y rhesymau penodol pam eich bod yn anghytuno
  • eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif Yswiriant Gwladol

Mae yna bedair ffordd y gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol. Gallwch chi:

  • ysgrifennu neges yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein, os oes gennych un
  • llenwi ffurflen gais ailystyriaeth orfodol CRMR1 ar GOV.UK - os ydych chi’n ei hargraffu, anfonwch hi i’r cyfeiriad ar frig eich llythyr penderfyniad
  • ysgrifennu llythyr at yr Adran Gwaith a Phensiynau - anfonwch ef i’r cyfeiriad ar y llythyr penderfyniad
  • ffonio’r rhif ar y llythyr penderfyniad os ydych chi’n agos at y dyddiad cau - dylech ysgrifennu at yr Adran Gwaith a Phensiynau ar ôl i chi ffonio i ddweud pam rydych chi am gael ailystyriaeth orfodol

Os ydych chi'n ysgrifennu llythyr

Edrychwch ar eich llythyr penderfyniad i weld i ba gyfeiriad y mae angen i chi anfon eich llythyr. Bydd hwn yn wahanol yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw. Os na allwch chi ddod o hyd i’ch llythyr penderfyniad, dylech gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau i gael y cyfeiriad. Dylech:

  • ysgrifennu neges yn eich dyddiadur ar-lein
  • ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol os nad oes gennych gyfrif ar-lein

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth byw)
Ffôn: 0800 328 9344
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau i’r rhifau ffôn hyn am ddim. Gorau oll os gallwch chi ffonio o'r rhif i chi ei roi i'r Adran Gwaith a Phensiynau wrth agor eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Bydd llai o aros a byddwch yn cael eich trosglwyddo i'r un person i chi siarad ag ef yn ystod eich galwadau blaenorol.

Gofynnwch i Swyddfa’r Post am brawf postio am ddim - efallai y bydd angen i chi ddangos pryd wnaethoch chi anfon eich llythyr.

Os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau 1 mis

Gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol o hyd, cyhyd â bod hynny o fewn 13 mis i’r penderfyniad.

Bydd angen i chi roi rheswm da pam na allech chi ofyn o fewn y terfyn amser o fis - er enghraifft oherwydd eich bod chi’n ddifrifol wael neu wedi gwahanu oddi wrth eich partner.

Mae angen i chi esbonio i’r Adran Gwaith a Phensiynau:

  • pam eich bod wedi methu’r dyddiad cau
  • pam fod y penderfyniad yn anghywir
  • pam ei bod hi’n bwysig eu bod nhw’n newid y penderfyniad

Gallwch gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau trwy’ch cyfrif ar-lein os oes gennych un. Os nad oes gennych gyfrif ar-lein, gallwch ffonio llinell gymorth y Credyd Cynhwysol. Cofiwch ysgrifennu at yr Adran Gwaith a Phensiynau yn syth wedyn i esbonio pam rydych am gael yr ailystyriaeth orfodol.

Llinell gymorth gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau i’r rhifau ffôn hyn am ddim.

Llinell gymorth gwasanaeth byw’r Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 9344
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau i’r rhifau ffôn hyn am ddim.

Os nad ydych yn siŵr pa linell gymorth i’w ffonio, bydd angen i chi wirio a ydych mewn ardal gwasanaeth llawn neu fyw.

Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau wrthod eich cais am ailystyriaeth orfodol os yw’n hwyr.

Gallwch ddarllen mwy am ofyn am ailystyriaeth orfodol os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau.

Os ydych chi’n dal i anghytuno â phenderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau

Gallwch fynd â’ch her i dribiwnlys annibynnol os ydych chi’n dal i anghytuno â’r Adran Gwaith a Phensiynau neu os na fyddant yn gadael i chi wneud cais hwyr am ailystyriaeth orfodol.

Bydd y tribiwnlys yn edrych ar eich dadleuon ac yn gwneud penderfyniad. Maen nhw’n cael eu goruchwylio gan farnwr ac maen nhw ar wahân i’r adran Gwaith a Phensiynau.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.