Cymorth gyda dyled ac ôl-ddyledion rhent ar Gredyd Cynhwysol
Efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol os ydych chi’n cael trafferth gydag arian a’ch bod ar Gredyd Cynhwysol neu eich bod wedi gwneud cais amdano’n ddiweddar.
Cael arian yn gynnar os ydych chi newydd wneud cais
Fel arfer byddwch yn cael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf 5 wythnos ar ôl gwneud cais.
Gallwch ofyn am gael eich taliad cyntaf yn gynt os ydych chi’n poeni na fydd gennych chi ddigon o arian i fyw – ‘taliad ymlaen llaw’ yw’r enw ar hyn.
Benthyciad yw’r taliad ymlaen llaw – mae’r ad-daliadau’n cael eu cymryd o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn awtomatig tan y byddwch chi wedi eu talu’n ôl. Dyma sut mae cael taliad ymlaen llaw.
Os ydych chi’n ad-dalu dyled
Os ydych chi’n talu credydwyr yn ôl neu gwmni rheoli dyledion, cysylltwch â nhw i egluro’ch sefyllfa.
Dywedwch wrthyn nhw eich bod wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, ond na fyddwch yn cael eich taliad cyntaf am dipyn – dywedwch pryd os gallwch chi. Gofynnwch iddynt a fyddent yn fodlon derbyn taliad hwyr.
Mae’n syniad da gofyn iddynt rewi’r llog ar eich dyledion tan i chi gael eich talu.
Os ydych chi'n ad-dalu dyled, gall llunio cyllideb fod o gymorth. Defnyddiwch ein teclyn cyllidebu i'ch helpu.
Edrychwch i weld a allwch chi gael cymorth gyda'ch dyledion neu cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf am gyngor.
Newid sut rydych chi’n cael eich talu
Gallwch ofyn am i’ch Credyd Cynhwysol gael ei dalu yn wahanol i’ch helpu i reoli eich arian - ‘trefniadau talu amgen’ yw’r enw ar hyn. Efallai y byddwch chi’n gallu:
- cael eich costau tai wedi’u talu yn uniongyrchol i’ch landlord yn hytrach na bod yn rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol
- taliad Credyd Cynhwysol bob 2 wythnos yn hytrach na phob mis
- taliadau Credyd Cynhwysol ar wahân i’ch partner
Pryd allwch chi gael cytundeb talu amgen
Efallai y gallwch gael cytundeb talu amgen os ydych chi:
- mewn dyled neu ôl-ddyledion rhent
- ag anabledd – gan gynnwys cyflwr iechyd meddwl
- yn ddigartref neu mewn perygl o golli eich cartref
- wedi profi trais domestig
- ag anhawster dysgu, fel problemau yn darllen neu’n ysgrifennu
- mewn llety dros dro neu lety â chymorth
- yn 16 neu’n 17 oed neu’n gadael gofal
- yn gaeth i gyffuriau, alcohol neu gamblo
Os ydych chi’n cael anhawster ymdopi am resymau eraill, efallai y byddwch yn dal i gael eich ystyried - cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth.
Gofyn am drefniant talu amgen
Os ydych chi’n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol neu os ydych chi ar fin gwneud cais, dylech ofyn am y trefniant rydych chi am ei gael yn eich cyfweliad.
Llinell gymorth gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Mae galwadau i’r rhif hwn am ddim.
Llinell gymorth gwasanaeth byw Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 9344
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Mae galwadau i’r rhif hwn am ddim.
Os ydych chi ar ei hôl hi gyda’ch rhent
Gofynnwch am gyngor ar ddelio â'ch ôl-ddyledion rhent cyn gynted â phosibl – os oes gennych chi lawer o arian yn ddyledus, gallai’ch landlord geisio’ch troi chi allan.
Os ydych chi 2 fis neu fwy ar ei hôl hi gyda’ch rhent, gall eich landlord ofyn am i rywfaint o’ch Credyd Cynhwysol gael ei dalu yn uniongyrchol iddynt. Bydd hyn yn eich helpu i dalu’ch dyled. Bydd angen i chi ddal ati i wneud eich taliadau rhent arferol hefyd.
Os yw’r toriadau hyn yn eich taliad yn golygu na allwch chi fforddio eitemau dyddiol fel bwyd neu filiau, ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol. Efallai y byddant yn gallu rhoi llai o arian i’ch landlord ar gyfer ôl-ddyledion rhent.
Dylech ddweud wrth y llinell gymorth pa filiau sydd gennych chi a faint maen nhw’n ei gostio – cofiwch gynnwys biliau bwyd a rhent hefyd.
Llinell gymorth gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Mae galwadau i’r rhif hwn am ddim.
Llinell gymorth gwasanaeth byw Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 9344
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Mae galwadau i’r rhif hwn am ddim.
Cael mwy o gymorth gyda’ch rhent
Efallai y gallwch chi gael arian ychwanegol gan eich cyngor i helpu – gelwir hyn yn ‘daliad tai yn ôl disgresiwn’. Bydd angen i chi gael y rhan costau tai o’r Credyd Cynhwysol.
Mae’n syniad da gweld a allwch chi gael Taliad Tai yn ôl Disgresiwn os ydych chi’n rhentu yn breifat. Mae ffordd wahanol o weld a allwch chi gael Taliad Tai yn ôl Disgresiwn gyda thai cymdeithasol.