Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.
Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Rhoi gwybod am enillion hunangyflogaeth

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae angen i chi roi gwybod am eich enillion bob mis i’r Adran Gwaith a Phensiynau – ni fyddant yn eich atgoffa.

Bydd yn rhaid i chi roi gwybod am eich enillion am bob mis y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfrifo’ch taliadau Credyd Cynhwysol - gelwir hyn yn ‘gyfnod asesu’. Fel arfer bydd eich cyfnod asesu yn dechrau ar yr un dyddiad bob mis - gan ddechrau 1 mis calendr ar ôl y dyddiad y byddwch yn cyflwyno’ch cais ar-lein neu dros y ffôn.

Gallwch roi gwybod am eich enillion am y mis o 7 diwrnod cyn a hyd at 14 diwrnod ar ôl diwedd eich cyfnod asesu.

Enghraifft

Mae Ruth yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar 8 Tachwedd. Mae ei chyfnod asesu yn dechrau ar yr 8fed o bob mis.

Mae ei chyfnod asesu cyntaf rhwng 8 Tachwedd a 7 Rhagfyr. Mae’n rhaid iddi hysbysu’r Adran Gwaith a Phensiynau o’i henillion ar gyfer y cyfnod hwn rhwng 1 Rhagfyr a 21 Rhagfyr.

Os nad ydych chi’n gallu rhoi gwybod am eich enillion ar amser

Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gallu seilio’ch taliad ar amcangyfrif o’ch enillion. Byddwch angen rheswm da pam nad oeddech chi’n gallu rhoi gwybod am eich enillion ar amser. Er enghraifft, os cawsoch eich derbyn i’r ysbyty ar fyr-rybudd ac nad oedd gan unrhyw un arall fynediad i’ch cyfrifon.

Os nad oes gennych chi reswm da, fel arfer bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn atal eich hawliad Credyd Cynhwysol tan i chi roi gwybod am eich enillion.

Cysylltwch â’r Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosibl i egluro pam eich bod yn hwyr yn rhoi gwybod am eich enillion.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth llawn)
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau i’r rhifau hyn am ddim. Gorau oll os gallwch chi ffonio o'r rhif i chi ei roi i'r Adran Gwaith a Phensiynau wrth agor eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Bydd llai o aros a byddwch yn cael eich trosglwyddo i'r un person i chi siarad ag ef yn ystod eich galwadau blaenorol.

Cyfrifo’ch enillion

Adiwch yr holl incwm y mae’ch busnes wedi'i dderbyn yn ystod y cyfnod asesu - fe’u gelwir yn ‘dderbyniadau’.

Yna, tynnwch y symiau rydych chi wedi’u gwario ar eich busnes – gelwir y rhain yn ‘lwfansau personol a threuliau a ganiateir’. Bydd hyn yn rhoi cyfanswm eich enillion terfynol i chi.

Lwfansau personol

Bydd angen i chi dynnu symiau ar gyfer y canlynol oddi ar eich enillion:

  • treth incwm - os ydych chi wedi talu unrhyw faint y mis hwnnw
  • Yswiriant Gwladol - os ydych chi wedi talu unrhyw faint y mis hwnnw
  • y cyfraniadau pensiwn rydych chi’n eu gwneud

Treuliau a ganiateir

Dylech dynnu’r symiau rydych chi wedi’u gwario ar dreuliau rhesymol ar gyfer eich busnes. Gallai’r rhain gynnwys:

  • stoc neu gyfarpar
  • rhent ar gyfer safleoedd busnes, swyddfa neu ofod i gadw pethau
  • yswiriant – fel yswiriant atebolrwydd neu adeiladau
  • ad-dalu llog ar fenthyciad - hyd at £41 y mis
  • TAW

Costau cerbyd

Gallwch ddidynnu treuliau ar gyfer costau cerbyd sydd ond yn cael ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes. Mae’r swm y gallwch ei ddidynnu yn dibynnu ar y math o gerbyd rydych chi’n ei ddefnyddio.

Os nad car yw’r cerbyd, gallwch ddewis cynnwys naill ai:

  • union dreuliau prynu a defnyddio’r cerbyd – gan gynnwys petrol, cynnal a chadw, atgyweiriadau, yswiriant a MOT
  • didyniadau cyfradd safonol

Os oes gennych chi gar at ddefnydd busnes gallwch ond defnyddio didyniadau cyfradd safonol fel treuliau – ni allwch ddefnyddio treuliau ar gyfer prynu’r car.

Mae didyniadau cyfradd safonol yn 24c y filltir ar gyfer beiciau modur. Maent yn 45c y filltir ar gyfer y 833 milltir gyntaf a 25c y filltir wedi hynny ar gyfer cerbydau eraill.

Os ydych chi’n defnyddio’ch cartref at ddibenion busnes

Mae’n rhaid i chi ddidynnu treuliau ar gyfer defnyddio'ch cartref gan ddefnyddio didyniadau cyfradd safonol. Mae swm y didyniad yn dibynnu ar nifer yr oriau a dreuliwyd yn gweithio gartref yn ystod y cyfnod asesu.

Oriau a dreuliwyd yn gweithio gartref yn ystod y cyfnod asesu Didyniad cyfradd safonol
Rhwng 25 a 49 awr  £10
Rhwng 50 a 99 awr  £18
Mwy na 100 awr £26

Mae rheolau eraill os yw’r eiddo’n cael ei ddefnyddio’n bennaf at ddibenion busnes, ond rhywfaint o ddefnydd personol – er enghraifft, os oes rhywun yn byw yn yr eiddo.

Gallwch gael mwy o fanylion am y rheolau ar dreuliau ar gyfer eiddo o adran H4240 ymlaen y cyngor ar gyfer penderfynwyr 'Pennod H4' .

Rhoi gwybod am eich enillion

Gallwch roi gwybod am eich enillion drwy’ch cofnod ar-lein.

Os ydych chi wedi gwneud gwaith am dâl i gyflogwr, dylech roi gwybod am yr incwm hwn hefyd.

Os ydych chi angen cymorth neu gefnogaeth i roi gwybod am eich enillion, ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth llawn)
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888 
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau i’r rhifau hyn am ddim. Gorau oll os gallwch chi ffonio o'r rhif i chi ei roi i'r Adran Gwaith a Phensiynau wrth agor eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Bydd llai o aros a byddwch yn cael eich trosglwyddo i'r un person i chi siarad ag ef yn ystod eich galwadau blaenorol.

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwirio’ch enillion ac a yw’r llawr isafswm incwm yn gymwys i chi. Yna, byddant yn cyfrifo faint o Gredyd Cynhwysol y dylech chi ei dderbyn ar gyfer y cyfnod asesu. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ceisio’ch talu o fewn 7 diwrnod i ddiwrnod olaf y cyfnod asesu.

Edrychwch i weld a yw'r llawr isafswm incwm yn gymwys i chi.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.