Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.
Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Sut mae'r llawr isafswm incwm yn gweithio os ydych chi'n hunangyflogedig

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn newid bob mis yn dibynnu ar eich enillion ac amgylchiadau eraill. Mae faint y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar a ydych chi mewn cwpl neu a oes gennych chi blant.

Ni fyddwch chi’n gallu gwybod yn union faint o Gredyd Cynhwysol y gallech ei gael bob mis. Os ydych chi am gael syniad bras, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau entitledto.

Pan mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfrifo eich taliad Credyd Cynhwysol bob mis, byddant yn cymharu eich enillion go iawn gyda faint y maent yn disgwyl i chi ei ennill bob mis - gelwir y swm disgwyliedig hwn yn ‘llawr isafswm incwm’. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn ystyried y swm hwn wrth gyfrifo'ch taliad Credyd Cynhwysol.

Nid yw’r llawr isafswm incwm yn gymwys i bawb. Os nad yw’n gymwys i chi, bydd eich taliadau yn cael eu seilio ar y swm y byddwch chi’n ei ennill mewn gwirionedd drwy hunangyflogaeth.

Gweld a yw’r llawr isafswm incwm yn gymwys

Bydd y llawr isafswm incwm ond yn gymwys i chi os ydych chi yn y ‘grŵp holl ofynion cysylltiedig â gwaith’ - mae hyn yn golygu bod disgwyl i chi weithio neu chwilio am waith. Dylai’ch hyfforddwr gwaith ddweud wrthych ym mha grŵp ydych chi.

Ni fydd y llawr isafswm incwm yn gymwys os:

  • ydych chi’n gofalu am blentyn dan 3 oed
  • ydych chi’n feichiog neu wedi rhoi genedigaeth yn y 15 wythnos diwethaf
  • ydych chi’n gofalu am berson ag anabledd difrifol
  • ydych chi wedi’ch asesu i fod â gallu cyfyngedig i weithio neu allu cyfyngedig i wneud gweithgareddau cysylltiedig â gwaith
  • ydych chi mewn addysg lawn amser

Ni fydd y llawr isafswm incwm yn gymwys os ydych chi wedi bod yn hunangyflogedig am lai na 12 mis neu os ydych chi’n rhy sâl i weithio ar hyn o bryd.

Os ydych chi wedi bod yn hunangyflogedig am lai na 12 mis

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn galw’r 12 mis cyntaf o’ch hunangyflogaeth yn ‘gyfnod dechreuol’. Ar ôl gorffen y cyfnod dechreuol, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dechrau defnyddio’r llawr isafswm incwm i gyfrifo’ch taliadau.

Bydd angen i chi geisio datblygu eich busnes cymaint â phosibl yn ystod y cyfnod dechreuol – mae gan GOV.UK gyngor ar sut i ddatblygu busnes newydd.

Os ydych chi’n rhy sâl i weithio dros dro

Ni ddylid cymhwyso’r llawr isafswm incwm os ydych chi’n rhy sâl i weithio. Os ydych chi’n rhy sâl i weithio a bod hynny’n effeithio ar eich gallu i wneud elw, ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau a gofyn iddynt eich trin fel nad ydych chi mewn ‘hunangyflogaeth â thâl’ tra’ch bod yn sâl.

Mae hunangyflogaeth enillol yn golygu ‘gwaith rheolaidd wedi’i drefnu a'i ddatblygu lle mae disgwyl i chi wneud elw.’ Os nad ydych chi mewn hunangyflogaeth â thâl, ni all yr Adran Gwaith a Phensiynau gymhwyso’r llawr isafswm incwm i'ch enillion a dylai’ch taliad Credyd Cynhwysol fod yn uwch.

Os ydych chi i fwrdd o’r gwaith yn sâl am 7 diwrnod neu fwy, bydd yn rhaid i chi gael tystysgrif feddygol, neu ‘nodyn ffitrwydd’, gan eich meddyg. Cofiwch ei hanfon at eich hyfforddwr gwaith yn eich Canolfan Waith leol. Cymrwch lun neu gwnewch gopi o’ch tystysgrif feddygol cyn i chi ei hanfon.

Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth llawn))
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim i’r rhifau hyn. Gorau oll os gallwch chi ffonio o'r rhif i chi ei roi i'r Adran Gwaith a Phensiynau wrth agor eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Bydd llai o aros a byddwch yn cael eich trosglwyddo i'r un person i chi siarad ag ef yn ystod eich galwadau blaenorol.

Enghraifft

Mae gan Greta fusnes yn gwerthu dillad yn y farchnad. Mae’r llawr isafswm incwm yn gymwys i’w henillion.

Mae’n gorfod cymryd amser i ffwrdd am lawdriniaeth. Nid yw’n cau ei busnes oherwydd ei bod yn bwriadu dychwelyd i’r gwaith.

Tra bod Greta yn yr ysbyty mae ei helw yn mynd i lawr gan nad yw’n gwerthu ei stoc.

Mae’n anfon ei nodiadau ffitrwydd at yr Adran Gwaith a Phensiynau ac yn gofyn iddynt beidio â’i thrin fel bod mewn hunangyflogaeth â thâl tra nad yw’n gallu gweithio. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cytuno na all weithio ac nid ydynt yn cymhwyso’r llawr isafswm incwm am y cyfnod hwnnw.

Ar ôl mynd yn ôl i’r gwaith, mae’n hysbysu’r Adran Gwaith a Phensiynau ac maent yn dechrau cymhwyso’r llawr isafswm incwm ar gyfer ei henillion eto.

Os nad yw’r llawr isafswm incwm yn gymwys i chi, bydd eich taliadau yn cael eu seilio ar yr hyn rydych chi’n ei ennill mewn gwirionedd drwy hunangyflogaeth.

Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cymhwyso’r llawr isafswm cyflog pan na ddylent wneud hynny, efallai y byddwch chi’n gallu herio eu penderfyniad.

Sut mae’r llawr isafswm incwm yn effeithio ar eich taliad

Y llawr isafswm incwm yw faint mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn disgwyl i chi ei ennill bob mis – nid faint rydych chi’n ei ennill mewn gwirionedd. Mae’r swm yn wahanol ar gyfer pob person, gan nad oes disgwyl i bawb weithio’r un faint o oriau.

Sut mae’r llawr isafswm incwm yn cael ei gyfrifo

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn lluosi’r isafswm cyflog cenedlaethol gyda nifer yr oriau rydych chi wedi cytuno gweithio yn eich cyfarfod cyntaf gyda’ch hyfforddwr gwaith. Mae hyn yn eich cytundeb ysgrifenedig, sef eich ‘ymrwymiad hawliwr’.

Enghraifft

Mae Lorna yn 31 oed ac yn gweithio fel glanhawr hunangyflogedig. Mae’n rhiant sengl i blentyn 7 oed.

Fel rhan o’i hymrwymiad hawliwr disgwylir iddi weithio 25 awr yr wythnos. Yr isafswm cyflog ar gyfer ei grŵp oedran yw £7.83 yr awr.

Ei llawr isafswm incwm yw:

£7.83 x 25 awr = £195.75 yr wythnos

£195.75 x 52 wythnos = £10,179 y flwyddyn

Mae hyn yn cael ei drosi i ffigur misol drwy rannu £10,179 gyda 12.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn tynnu swm ar gyfer Yswiriant Gwladol - £27.26. Nid ydynt yn didynnu dim ar gyfer treth oherwydd bod ei hincwm yn is na’r trothwy treth.

Ei llawr isafswm incwm misol yw £848.25 - £27.26 = £820.99.

Os ydych chi’n ennill mwy na’r llawr isafswm incwm

Bydd eich taliad yn cael ei gyfrifo yn ôl eich enillion gwirioneddol. Byddwch yn well eich byd na phe baech wedi ennill llai na’r llawr isafswm incwm.

Y mwyaf y byddwch chi’n ei ennill dros y llawr isafswm incwm, y lleiaf fydd y taliad Credyd Cynhwysol. Y rheol sylfaenol yw am bob £1 ychwanegol y byddwch chi’n ei ennill, bydd eich Credyd Cynhwysol yn lleihau 63c.

Os ydych chi’n ennill llai na’r llawr isafswm incwm

Bydd eich taliad yn cael ei gyfrifo fel pe baech wedi ennill y llawr isafswm incwm.

Mae hyn yn golygu er bod eich enillion yn isel, ni fydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei godi. Efallai y bydd yn rhaid i chi ddod o hyd i waith arall i gynyddu’ch incwm.

Enghraifft

Mae Nadia yn 22 oed, yn sengl ac yn gweithio fel peintiwr hunangyflogedig. Disgwylir iddi weithio 35 awr yr wythnos. Defnyddir hyn i gyfrifo incwm misol disgwyliedig Nadia, gan ddefnyddio’r isafswm cyflog ar gyfer ei grŵp oedran  hi sef £7.38:

35 awr x £7.38 = £258.30 yr wythnos

£258.30 x 52 wythnos = £13,431.60 yr wythnos

£13,431.60 ÷ 12 mis = £1,119.30 y mis

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn didynnu £92.95 ar gyfer treth ac Yswiriant Gwladol.

Byddai hyn yn mynd ag incwm misol disgwyliedig Nadia, ar ôl didyniadau, i £1,026.35 y mis – dyma ei llawr lleiafswm incwm.

Yn ystod mis Ionawr, enillodd Nadia £200.

Cyfrifir ei thaliad Credyd Cynhwysol drwy ddefnyddio ei llawr isafswm incwm o £1,026.35 y mis.

Mae hyn yn golygu bod ei thaliad Credyd Cynhwysol yn is na’r hyn y mae ei angen i dalu ei chostau.

Os yw’ch cleient wedi gwneud colled

Dylai’ch cleient gofnodi eu hincwm fel sero, ond bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dal i gymhwyso’r llawr isafswm incwm os yw’n gymwys iddynt.

Pan fydd eich cleient yn rhoi gwybod am ei enillion misol, dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau drosglwyddo ei golled yn awtomatig i’r cyfnod asesu nesaf. Mae hyn yn golygu y gallai taliadau Credyd Cynhwysol eich cleient fod yn fwy ar gyfer y mis canlynol.

Enghraifft

Gyrrwr tacsi yw John.

Ym mis Ionawr mae’n ennill £500 o’i fusnes ac yn talu £1000 am offer newydd.

Mae ei enillion hunangyflogedig yn sero ac mae ganddo golled o £500.

Gellir didynnu’r golled o £500 o’i elw ym mis Chwefror, yn ystod y cyfnod asesu nesaf.

Ym mis Chwefror, mae’n ennill £1000 o’i fusnes. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn didynnu’r golled o £500 o’r cyfnod asesu blaenorol. Mae hyn yn gostwng ei incwm ar gyfer mis Chwefror i £500.


Os ydych chi mewn cwpwl

Bob mis, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych ar eich enillion wrth benderfynu a ddylid cymhwyso’r llawr isafswm incwm i gyfrifo’ch taliad.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cymhwyso’r llawr isafswm incwm os yw’r rhain yn gymwys:

  • mae enillion y bobl hunangyflogedig yn is na’u llawr isafswm incwm unigol
  • mae enillion cyfunol y cwpl yn is na llawr isafswm incwm y cwpl

Ar ôl cymhwyso'r llawr isafswm incwm, mae’n rhaid i'r Adran Gwaith a Phensiynau gymryd camau ychwanegol i gyfrifo eich ‘enillion’ a'ch taliad. Mae hwn yn gyfrifiad cymhleth.

Enghraifft - sut mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfrifo taliad cwpwl

Mae Guy yn lanhawr ffenestri hunangyflogedig. Mae’n briod â Laura sy’n gweithio’n llawn amser i gyflogwr. Disgwylir i’r ddau weithio 35 awr yr wythnos.

Llawr isafswm incwm unigol Guy yw £1091.07 y mis.

Llawr isafswm incwm ar y cyd y cwpwl yw £1091.07 x 2 = £2192.14 y mis.

Dim ond £500 y mis yw enillion Guy.

Mae gan Laura enillion o £1200 y mis.

Mae enillion unigol ac enillion ar y cyd Guy a Laura yn is na’r llawr isafswm incwm felly mae'r llawr isafswm incwm yn cael ei gymhwyso wrth gyfrifo eu taliadau.

Mae gan Guy enillion gwirioneddol o £500, ond mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn trin ei enillion fel £1091.07 gan mai dyna’r llawr isafswm incwm.

Mae’r rhain yn cael eu hychwanegu at enillion Laura o £1200:

£1200 + £1091.07 = £2291.07.

Mae eu henillion ar y cyd £108.93 yn uwch na llawr isafswm incwm y cwpwl o £2181.14.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cymryd £108.93 i ffwrdd o lawr isafswm incwm unigol Guy.

£1091.07 - £108.93 = £982.14.

Bydd Guy yn cael ei drin fel bod ganddo enillion o £982.14 ar gyfer y cyfnod asesu hwn.

Os yw’ch cleient mewn cwpwl

Am ragor o wybodaeth am sut mae'r llawr isafswm incwm yn cael ei gymhwyso ar gyfer cyplau, gweler rhifyn 2018/2019 CPAG, Pennod 7 ‘Universal Credit income’, tudalen 114.

Cofnodi’ch enillion misol

Bydd yn rhaid i chi hysbysu’r Adran Gwaith a Phensiynau o’ch enillion bob mis.

Gwybodaeth am ba enillion i'w cofnodi a sut mae gwneud hynny.

Rheoli’ch incwm a'ch treuliau o fis i fis

Os yw’ch enillion yn newid bob mis, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn newid hefyd. Gall hyn ei gwneud yn anodd cyllidebu. Dylech geisio sicrhau bod eich incwm a’ch gwariant yn debyg bob mis.

Gallwch ofyn i CThEM a allwch chi dalu treth incwm ac Yswiriant Gwladol bob mis yn hytrach na blwyddyn – gelwir hyn yn ‘gynllun taliad cyllideb’.

Mae rhagor o wybodaeth am ffyrdd o wneud eich incwm a threuliau hunangyflogedig yn fwy cyson ar wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.