Gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol
Os ydych chi wedi hawlio Credyd Cynhwysol o’r blaen, efallai na fydd rhaid i chi fynd trwy’r broses ymgeisio lawn eto.
Os cafodd eich hawliad blaenorol ei wrthod, gallwch chi ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau newid ei phenderfyniad.
Mae sut rydych chi’n gwneud cais newydd yn dibynnu ar ba fath o Gredyd Cynhwysol a gawsoch chi o’r blaen – gwasanaeth byw neu wasanaeth llawn. Os oedd gennych chi gyfrif ar-lein, Credyd Cynhwysol gwasanaeth llawn oedd gennych chi. Os nad ydych chi’n siŵr pa fath a gawsoch chi, gwiriwch unrhyw ddogfennau sydd gennych chi neu ffoniwch y llinell gymorth Credyd Cynhwysol:
Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm
Mae galwadau i’r rhifau hyn yn ddi-dâl. Y peth gorau i’w wneud yw ffonio o’r rhif ffôn a roddoch chi i’r Adran Gwaith a Phensiynau pan greoch chi eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Ni fydd rhaid i chi aros mor hir a byddwch chi’n cael eich trosglwyddo i’r un person ag y buoch chi’n siarad ag ef o’r blaen.
Os oeddech chi ar Gredyd Cynhwysol gwasanaeth llawn
Os oes mwy na 6 mis ers eich taliad Credyd Cynhwysol diwethaf, bydd angen i chi wneud hawliad newydd.
Os oes 6 mis neu lai ers eich taliad Credyd Cynhwysol diwethaf, mewngofnodwch i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar GOV.UK i wneud hawliad newydd. Bydd yn cymryd llai o amser na’ch cais cyntaf am Gredyd Cynhwysol, a byddwch chi’n cael eich taliadau ar yr un dyddiadau ag o’r blaen.
Pan fyddwch chi’n gwneud hawliad newydd, fel arfer bydd llythyrau, dogfennau a negeseuon yn cael eu dileu o’ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.
Y peth gorau i’w wneud yw cadw cofnod o’r hyn sydd yn y cyfrif ar-lein cyn i chi wneud hawliad newydd – er enghraifft, gallwch chi:
- gymryd sgrinluniau
- lawrlwytho dogfennau
- copïo negeseuon a’u rhoi nhw mewn dogfen ar wahân
Ailgychwynnwch eich hawliad cyn gynted ag y gallwch chi i sicrhau na fyddwch chi’n colli unrhyw daliadau. Ceisiwch ailgychwyn eich hawliad o fewn 7 diwrnod os yw eich swydd wedi dod i ben – bydd hyn yn cynyddu taliad cyntaf eich hawliad newydd.
Os na allwch chi fynd i mewn i’ch cyfrif, neu os na ddefnyddioch chi gyfrif ar-lein, ffoniwch y llinell gymorth i ailgychwyn eich hawliad.
Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm
Mae galwadau i’r rhifau hyn yn ddi-dâl. Y peth gorau i’w wneud yw ffonio o’r rhif ffôn a roddoch chi i’r Adran Gwaith a Phensiynau pan greoch chi eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Ni fydd rhaid i chi aros mor hir a byddwch chi’n cael eich trosglwyddo i’r un person ag y buoch chi’n siarad ag ef o’r blaen.
Os oeddech chi’n cael Credyd Cynhwysol gwasanaeth byw
Bydd angen i chi wneud hawliad newydd am Gredyd Cynhwysol.
Gwiriwch sut mae newid yn effeithio ar eich Credyd Cynhwysol os ydych chi’n gwneud cais newydd os oeddech chi’n gwneud hawliad ar y cyd a’ch bod chi bellach wedi gwahanu oddi wrth eich partner.
Os oedd gennych chi gosb pan ddaeth eich hawliad i ben
Ni fydd y gosb yn effeithio ar eich taliadau os daeth i ben pan nad oeddech chi’n hawlio Credyd Cynhwysol.
Bydd eich taliadau yn cael eu gostwng os byddwch chi’n cychwyn cael Credyd Cynhwysol eto cyn y dyddiad yr oedd eich cosb i fod i ddod i ben. Bydd y gosb yn dod i ben ar yr un dyddiad ag yr oedd wedi’i bennu i ddod i ben yn wreiddiol, a bydd yn gostwng eich taliadau yr un faint.
Dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau fod wedi dweud wrthych chi pryd y byddai eich cosb yn dod i ben – gwiriwch eich bod chi wedi cael y gosb iawn os nad ydych chi’n siŵr pa mor hir y dylai fod.
Enghraifft
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi cosb 91 diwrnod i chi ar 1 Mawrth. Mae’r gosb i fod i ddod i ben ar 31 Mai.
Rydych chi’n rhoi’r gorau i hawlio Credyd Cynhwysol ar 21 Mawrth gan eich bod chi’n cael swydd. Dim ond am ddeufis y mae’r swydd yn para, ac mae’n dod i ben ar 20 Mai. Ar 21 Mai, rydych chi’n dechrau hawlio Credyd Cynhwysol eto.
Mae eich cosb flaenorol yn dal i fynd, a bydd yn dal i ddod i ben ar 31 Mai. Mae hyn yn golygu bod y gosb yn gostwng eich taliad Credyd Cynhwysol ar gyfer mis Mai.
Os byddwch chi’n cael cosb ar ôl rhoi’r gorau i hawlio
Weithiau, efallai y byddwch chi’n gwneud rhywbeth i gael cosb, ond yn rhoi’r gorau i hawlio Credyd Cynhwysol cyn iddi effeithio arnoch chi.
Pan fyddwch chi’n gwneud hawliad newydd, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn asesu pa mor hir y byddai’r gosb honno wedi para. Bydd y gosb yn cychwyn y diwrnod cyn i’ch hawliad blaenorol ddod i ben. Bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng os bydd eich hawliad newydd yn cychwyn cyn i’r gosb ddod i ben.
Os nad ydych chi’n siŵr a fyddwch chi’n cael eich effeithio, gwiriwch am beth y gallwch chi gael eich cosbi.
Mae hi’n dal i fod yn werth i chi ailgychwyn eich hawliad Credyd Cynhwysol hyd yn oed os ydych chi’n poeni y gallech chi gael cosb. Efallai y bydd eich taliadau yn cael eu gostwng, ond gallech chi gael rhywbeth o hyd, yn dibynnu ar eich incwm. Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu herio’r penderfyniad.
Enghraifft
Nid ydych chi’n gwneud cais am swydd y mae eich anogwr gwaith wedi gofyn i chi wneud cais amdano. Gallech chi gael eich cosbi am hyn. Rydych chi’n rhoi’r gorau i’ch hawliad Credyd Cynhwysol ar 9 Ebrill, cyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau benderfynu eich cosbi chi.
Ar 20 Gorffennaf, rydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol eto. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych ar eich hawliad blaenorol ac yn penderfynu y byddai’r gosb wedi para 91 diwrnod. Bydd y gosb yn cychwyn ar 8 Ebrill, y dyddiad y daeth eich hawliad blaenorol i ben. Mae hyn yn golygu y bydd yn dod i ben ar 8 Gorffennaf.
Gan eich bod chi’n cychwyn eich hawliad newydd ar 20 Gorffennaf, ni fydd y gosb yn effeithio arnoch chi.
Pe baech wedi cychwyn eich hawliad newydd ar 1 Gorffennaf, byddai’r gosb wedi gostwng eich taliad rhwng 1 Gorffennaf ac 8 Gorffennaf.