Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.
Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cael Credyd Cynhwysol os ydych chi’n sâl neu’n anabl

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Efallai y gallwch chi gael Credyd Cynhwysol heb orfod gweithio neu chwilio am waith. Gallai hyn fod oherwydd salwch, anaf neu broblemau iechyd meddwl. Yn dibynnu ar sut mae eich cyflwr yn effeithio arnoch chi, gallai’r Adran Gwaith a Phensiynau ddweud:

  • na fydd rhaid i chi weithio na gwneud unrhyw beth i baratoi ar gyfer gwaith – gelwir hyn yn 'allu cyfyngedig ar gyfer gweithgarwch yn ymwneud â gwaith' (LCWRA)
  • na fydd rhaid i chi weithio, ond efallai y bydd rhaid i chi wneud rhai tasgau rheolaidd i baratoi ar gyfer gwaith – gelwir hyn yn 'allu cyfyngedig ar gyfer gwaith' (LCW)

Gallai paratoi ar gyfer gwaith gynnwys pethau fel mynychu cyfarfodydd rheolaidd yn y Ganolfan Waith, ysgrifennu CV neu dderbyn hyfforddiant.

Os ydych chi’n gwneud hawliad newydd, defnyddiwch y ffurflen gais ar-lein i esbonio sut mae eich cyflwr yn ei gwneud hi’n anodd i chi ddod o hyd i waith. Os ydych chi’n derbyn Credyd Cynhwysol yn barod, dywedwch wrth eich 'anogwr gwaith' – hwn yw’r person rydych chi’n cael eich cyfweliadau Credyd Cynhwysol gydag ef yn y Ganolfan Waith.

Mae’n bwysig dangos bod gennych chi LCW neu LCWRA cyn gynted â phosibl. Dylech chi ychwanegu nodyn ffitrwydd at eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein ar ddechrau eich hawliad neu pan fyddwch chi’n mynd yn sâl.

Dysgwch fwy am sut i gael nodyn ffitrwydd a sut i ychwanegu un at eich cyfrif.

Ar ôl i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau, efallai y byddwch chi’n cael LCW neu LCWRA yn awtomatig, neu efallai y bydd rhaid i chi lenwi ffurflen a mynd i asesiad meddygol weithiau.

Cael cadarnhad bod eich dogfennau wedi cyrraedd

Rhowch eich rhif ffôn symudol ar ochr dde uchaf eich nodyn ffitrwydd pan fyddwch chi’n ei anfon i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Os byddwch chi’n gwneud hynny, byddan nhw’n anfon neges destun atoch chi i gadarnhau ei fod wedi cyrraedd.

Os ydych chi’n symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill

Ni allwch hawlio Credyd Cynhwysol os ydych chi’n cael, neu wedi rhoi’r gorau i gael budd-dal gyda phremiwm anabledd difrifol (SDP) yn ddiweddar.

Os ydych chi wedi bod yn cael premiwm anabledd difrifol, gallwch wneud cais am y budd-daliadau y mae Credyd Cynhwysol yn eu disodli - gwiriwch pa fudd-daliadau y mae Credyd Cynhwysol yn eu disodli.

Os dylech fod wedi bod yn cael premiwm anabledd difrifol ond nad yw wedi'i gynnwys yn eich budd-daliadau, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol.

Gwiriwch a ydych chi wedi bod yn cael premiwm anabledd difrifol

Efallai y gallwch chi gael premiwm anabledd difrifol gyda:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai

Gwiriwch eich llythyr dyfarniad budd-dal i weld a ydych chi'n cael premiwm anabledd difrifol - fel arfer mae'n dweud eich bod chi'n ei gael “oherwydd eich bod chi'n anabl iawn”.

Ni allwch hawlio Credyd Cynhwysol os ydych chi'n cael budd-dal gyda Phremiwm anabledd difrifol.

Ni allwch hefyd hawlio Credyd Cynhwysol os gwnaethoch roi'r gorau i gael budd-dal gyda phremiwm anabledd difrifol yn ystod y mis diwethaf a gallwch gael premiwm anabledd difrifol o hyd. Gwiriwch a allwch gael premiwm anabledd difrifol ar GOV.UK.

Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol os ydych chi'n cael budd-dal anabledd o wlad yn yr UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein.

Gwirio a oes gennych chi allu cyfyngedig yn awtomatig

Mewn rhai sefyllfaoedd, byddwch chi’n cael eich trin fel bod gennych chi LCW neu LCWRA yn awtomatig unwaith y byddwch chi wedi dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau. Efallai y bydd eich anogwr gwaith yn gofyn i chi am rywfaint o dystiolaeth, fel apwyntiad ysbyty neu lythyr gan eich meddyg.

Rydych chi’n feichiog ac mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd i chi weithio

Bydd gennych chi LCWRA os gallai gweithio a pharatoi ar gyfer gwaith beri risg i’ch iechyd neu iechyd eich baban.

Rydych chi’n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn barod

Bydd gennych chi LCWRA yn awtomatig os ydych chi yn y grŵp cymorth ESA.

Os oes gennych chi LCW neu LCWRA ar gyfer ESA yn barod, nid oes angen i chi lenwi ffurflen arall na chael asesiad meddygol ar gyfer Credyd Cynhwysol. Bydd LCW neu LCWRA yn dal i fod gennych ar Gredyd Cynhwysol cyn belled nad oes unrhyw amser rhwng eich hawliad ESA a’ch hawliad Credyd Cynhwysol.

Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dal i ddweud bod angen asesiad arall arnoch chi, ond nid yw hynny’n wir. Gallwch chi herio eich penderfyniad Credyd Cynhwysol os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud bod angen asesiad arall arnoch chi.

Rydych chi dros oedran credyd pensiwn ac yn cael budd-daliadau eraill

Bydd gennych chi LCWRA os ydych chi dros oedran credyd pensiwn ac yn cael unrhyw un o’r canlynol:

  • Lwfans Gweini
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) gyda’r 'uwch elfen bywyd bob dydd'
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) gyda’r 'cyfradd uchaf yr elfen gofal'

Bydd gennych chi LCW os ydych chi’n cael naill ai:

  • PIP, ond nid yr uwch elfen bywyd bob dydd; neu
  • DLA, ond nid cyfradd uchaf yr elfen gofal

Rydych chi yn yr ysbyty neu mewn cwarantin

Dywedwch wrth eich anogwr gwaith ar unwaith os byddwch chi’n mynd i’r ysbyty neu ganolfan adsefydlu cyffuriau neu alcohol am o leiaf 24 awr. Bydd gennych chi LCW yn ystod eich amser yn yr ysbyty. Bydd gennych chi LCW ar ôl gadael hefyd, os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cytuno eich bod chi angen amser i wella.

Bydd hefyd gennych chi LCW os ydych chi wedi derbyn hysbysiad swyddogol i beidio â gweithio gan fod gennych chi glefyd heintus.

Mae gennych chi salwch difrifol 

Mae rhai triniaethau a chyflyrau lle bydd gennych chi LCW neu LCWRA yn awtomatig. Bydd dal angen i chi ddweud eich diagnosis wrth eich anogwr gwaith ac esbonio sut mae eich salwch neu eich triniaeth yn eich atal rhag gweithio neu baratoi ar gyfer gwaith.

Mae’n debygol bod gennych chi LCWRA:

  • os ydych chi’n derbyn triniaeth cemotherapi neu radiotherapi, neu’n debygol o ddechrau ar y driniaeth yn y 6 mis nesaf, neu’n gwella ar ôl y driniaeth
  • os ydych chi wedi’ch diagnosio â salwch terfynol ac efallai na fyddwch chi’n byw am fwy na 6 mis – yn yr achos hwn, bydd gennych chi wastad LCWRA 

Mae’n debygol bod gennych chi LCW os ydych chi’n cael:

  • dialysis wythnosol
  • cyfnewid plasma
  • bwydo mewnwythiennol

Bydd eich LCW yn parhau os ydych chi wedi cwblhau un o’r triniaethau hyn a bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cytuno eich bod chi angen amser i wella.

Dangos na ddylai fod rhaid i chi weithio

Os nad oes gennych chi LCW neu LCWRA yn awtomatig, byddwch chi’n derbyn ffurflen i’w llenwi o’r enw UC50. Efallai y bydd angen i chi gael asesiad meddygol hefyd. Yn seiliedig ar eich ffurflen a’ch asesiad, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu a oes gennych chi LCW neu LCWRA.

Dylai’r penderfyniad fod yn seiliedig ar yr hyn y gallwch chi ei wneud ar ddiwrnod arferol, nid yr hyn y gallwch chi ei wneud ar ddiwrnodau da neu wael. Os yw eich cyflwr yn amrywio o ddydd i ddydd, mae’n werth cadw dyddiadur i ddangos i’r Adran Gwaith a Phensiynau sut rydych chi’n cael eich effeithio.

Os oes gennych chi unrhyw gymhorthion, er enghraifft, os ydych chi’n defnyddio ffon gerdded, byddwch chi’n cael eich asesu fel petaech yn eu defnyddio.

Llenwi eich ffurflen UC50

Byddwch chi’n derbyn copi o’r ffurflen UC50 ar ôl i chi ddweud wrth eich anogwr gwaith am eich cyflwr. Gallwch chi hefyd lawrlwytho’r ffurflen UC50 o GOV.UK os ydych chi angen copi arall.

Bydd angen i chi ddychwelyd y ffurflen o fewn 4 wythnos – bydd yr union ddyddiad ar y llythyr a ddaeth gyda’r ffurflen. Fel arall, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu a ydych chi’n ffit i weithio. Ni fyddan nhw’n gadael i chi wneud cais am LCW neu LCWRA eto oni bai bod eich cyflwr yn newid.

Y ffurflen UC50 yw eich cyfle chi i ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau sut mae eich salwch neu eich anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio. Ceisiwch esbonio pam na ddylai fod angen i chi chwilio am waith fel rhan o’ch hawliad Credyd Cynhwysol.

Dylech chi ddefnyddio’r ffurflen hefyd i nodi unrhyw beth y byddai ei angen arnoch chi mewn asesiad meddygol. Er enghraifft, os ydych chi angen dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain neu Makaton, meddalwedd llais-i-destun neu lawlyfr i bobl fyddar/ddall, nodwch hynny ar y ffurflen.

Gallwch chi siarad â chynghorydd os ydych chi angen help gyda’r ffurflen. Gallan nhw eich helpu chi i’w llenwi ac esbonio popeth i chi yn bersonol.

Gallwch chi gael help hefyd gan eich asiantaeth cymorth anabledd leol neu eich elusen iechyd meddwl leol.

Anfon tystiolaeth feddygol

Gallwch chi anfon tystiolaeth feddygol o’ch salwch neu eich anabledd gyda’ch ffurflen UC50. Gall tystiolaeth feddygol roi gwell syniad i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut mae eich cyflwr yn effeithio ar eich gallu i weithio.

Y peth gorau i’w wneud yw anfon copïau yn hytrach na dogfennau gwreiddiol, gan efallai y bydd angen i chi ddangos yr un dystiolaeth eto yn ddiweddarach. Dylech chi styffylu eich tystiolaeth i’r ffurflen fel na fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ei cholli. Gofalwch eich bod chi’n cynnwys eich enw a’ch rhif Yswiriant Gwladol ar bob dalen o bapur.

Os yw eich cyflwr wedi’i ddiagnosio

Dylech chi anfon tystiolaeth sy’n cefnogi’r hyn rydych chi’n ei ddweud ar y ffurflen. Efallai y bydd y dystiolaeth gennych chi wrth law yn barod – er enghraifft:

  • allbrint o’r feddyginiaeth rydych chi’n ei chymryd
  • canlyniadau pelydr-X
  • sganiau
  • taflen rhyddhau o’r ysbyty
  • cynllun gofal therapydd Galwedigaethol

Gallwch chi ofyn i’ch meddyg teulu am gopïau o nodiadau meddygol diweddar neu lythyrau gan unrhyw arbenigwyr y mae wedi eich atgyfeirio iddyn nhw. Gallech chi ddarparu llythyr gan eich partner neu eich gofalwr hefyd.

Os oes gennych chi broblemau gyda’ch iechyd meddwl (fel iselder), dylech chi feddwl am unrhyw ddogfennau neu lythyrau sydd gennych chi gan bobl fel:

  • eich nyrs seiciatrig gymunedol (CPN)
  • cwnselwyr
  • therapydd gwybyddol
  • gweithwyr cymdeithasol

Os nad yw eich cyflwr wedi’i ddiagnosio

Efallai nad ydych chi wedi cael eich diagnosio os oes gennych chi symptomau nad oes modd eu hesbonio fel problemau stumog, blinder neu bendro.

Mae’r ffurflen yn dweud "peidiwch â gofyn am wybodaeth newydd", ond mae’n syniad da mynd at eich meddyg os nad oes gennych chi unrhyw beth i’w anfon. Gofynnwch i’r meddyg a all roi llythyr i chi yn esbonio eich cyflwr a sut mae’n effeithio ar eich gallu i weithio.

Efallai y bydd rhai meddygon yn codi ffi am lythyr neu adroddiad newydd. Os na allwch chi fforddio hyn, mae’n werth gofyn a allan nhw roi copïau o nodiadau meddygol diweddar neu lythyrau gan unrhyw arbenigwyr maen nhw wedi eich atgyfeirio iddyn nhw. Gallech chi ddarparu llythyr gan eich partner neu eich gofalwr hefyd.

Dychwelyd y ffurflen

Bydd y ffurflen yn dod gydag amlen â chyfeiriad arni – defnyddiwch yr amlen hon i ddychwelyd y ffurflen i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Peidiwch â mynd â hi i’r Ganolfan Waith gan y gallai hyn achosi oedi.

Pan fyddwch chi’n dychwelyd y ffurflen, gofynnwch i Swyddfa’r Post am brawf postio. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim, a bydd yn eich helpu chi i brofi pryd yr anfonoch chi’r ffurflen.

Mae’n syniad da cadw copi o’ch ffurflen. Yna, gallwch chi fynd â hi gyda chi i’ch asesiad a’i defnyddio i sicrhau na fyddwch chi’n anghofio rhywbeth rydych chi eisiau sôn amdano yn eich asesiad.

Dychwelyd y ffurflen yn hwyr

Mae angen i chi ddychwelyd y ffurflen o fewn 4 wythnos. Os ydych chi’n hwyr, dylech chi barhau i lenwi’r ffurflen a’i hanfon cyn gynted ag y gallwch chi. Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ei derbyn os oes gennych chi reswm da dros ddychwelyd y ffurflen yn hwyr.

Mae bocs ar dudalen 3 lle gallwch chi esbonio pam rydych chi’n dychwelyd y ffurflen yn hwyr. Cofiwch gynnwys cymaint o fanylion ag y gallwch chi am pam mae’r ffurflen yn hwyr, er enghraifft:

  • os na chawsoch chi’r llythyr atgoffa – os bydd hyn yn digwydd, gwiriwch fod y cyfeiriad cywir ar eich cyfer gan eich anogwr gwaith
  • os ydych chi wedi bod yn yr ysbyty
  • os oeddech chi’n rhy sâl
  • os cawsoch chi argyfwng yn eich cartref
  • os ydych chi wedi cael profedigaeth
  • os oeddech chi allan o’r wlad

Pryd y byddwch chi angen asesiad meddygol

Ar ôl i chi ddychwelyd eich ffurflen, efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn i chi gael asesiad meddygol o’r enw 'asesiad o allu i weithio'.

Coronafirws - os ydych chi’n aros am asesiad meddygol

Mae'r llywodraeth wedi gohirio pob asesiad meddygol wyneb yn wyneb tan o leiaf 19 Mehefin 2020.

Byddwch yn parhau i gael Credyd Cynhwysol nes bod gennych asesiad meddygol. Ni fydd y swm a gewch yn newid.

Os ydych eisoes wedi cael dyddiad ar gyfer asesiad meddygol

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ceisio eich asesu trwy:

  • edrych ar eich ffurflen gais a'ch tystiolaeth feddygol
  • siarad â chi dros y ffôn

Bydd eich asesiad gyda gweithiwr meddygol proffesiynol fel meddyg, nyrs neu ffisiotherapydd. Byddan nhw’n gofyn cwestiynau i chi ac efallai y byddan nhw’n gwneud archwiliad corfforol hefyd. Byddan nhw’n anfon adroddiad i’r Adran Gwaith a Phensiynau, a fydd yn penderfynu a oes gennych chi LCW neu LCWRA.

Gallwch chi ddod â rhywun gyda chi i’r asesiad, fel perthynas neu ofalwr.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn trefnu’r asesiad ac yn anfon llythyr atoch chi yn dweud pryd a ble y bydd yn cael ei gynnal. Gall fod hyd at 3 mis ar ôl i chi ddychwelyd eich ffurflen UC50. Dylech chi gael o leiaf 7 diwrnod o rybudd.

Dywedwch wrth y Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd ar unwaith os na allwch chi fynd i’ch asesiad. Bydd eu manylion cyswllt ar y llythyr a anfonwyd atoch chi. Gallan nhw aildrefnu’r asesiad os oes gennych chi reswm da a’ch bod wedi dweud wrthyn nhw o leiaf 1 diwrnod ymlaen llaw. Os na fyddwch chi’n dweud wrthyn nhw, ni fyddwch chi’n cael eich ystyried fel rhywun sydd ag LCW neu LCWRA.

Gallwch chi ofyn i’r aseswyr am asesiad cartref os ydych chi’n rhy sâl i fynd i’r asesiad.

Gallwch chi ofyn am addasiadau hefyd os byddech chi angen unrhyw help yn yr asesiad, er enghraifft:

  • mynd i fyny ac i lawr grisiau
  • codi allan o gadair mewn ystafell aros
  • symud o un ystafell i’r llall

Mae’n werth dweud wrth yr asesydd am unrhyw addasiadau sydd eu hangen arnoch chi os ydych chi wedi sôn amdanyn nhw yn barod pan wnaethoch chi ddychwelyd eich ffurflen.

Yn yr asesiad

Byddwch chi’n gallu dweud wrth yr asesydd am eich problemau meddygol yn eich geiriau eich hun. Dywedwch wrtho am unrhyw feddyginiaethau, cwnsela, ffisiotherapi neu driniaeth arall rydych chi’n eu cael.

Yn ogystal â dweud wrth yr asesydd am unrhyw beth sy’n peri trafferth i chi, dywedwch wrthyn nhw os oes rhywbeth yn mynd yn anoddach mwya’n byd rydych chi’n ei wneud. Mae angen iddyn nhw ystyried pa mor aml rydych chi’n gallu ailadrodd gweithgareddau, nid dim ond a allwch chi eu gwneud nhw unwaith.

Gallwch chi gael eich asesu cyn gynted ag y byddwch chi’n cyrraedd. Er enghraifft, gall yr aseswyr eich gwylio chi pan fyddwch chi yn yr ystafell aros. Ond ni allan nhw seilio eu hadroddiad ar sut rydych chi ar ddiwrnod yr asesiad yn unig. Rhaid iddyn nhw ystyried sut mae eich cyflwr yn effeithio arnoch chi yn gyffredinol, ar ddiwrnodau da a gwael.

Cyrraedd eich asesiad

Gallwch chi gael ad-daliad am dreuliau teithio, ond ni allwch chi gael taliad ymlaen llaw. Bydd angen i chi ofyn am ffurflen dreuliau wrth dderbynfa’r ganolfan asesu. Cadwch eich tocynnau a’ch derbynebau o’ch taith gan y bydd angen i chi wybod faint y byddwch chi wedi’i wario.

Ffoniwch y Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd ymlaen llaw os byddwch chi angen talu am:

  • dacsi – byddan nhw’n disgwyl i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oni bai eich bod chi’n gofyn ymlaen llaw
  • rhywun sy’n dod gyda chi i’r asesiad

Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd

Ffôn: 0800 288 8777

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 8pm

Dydd Sadwrn, 9am tan 5pm

Bydd y treuliau teithio yn cael eu talu i mewn i’r cyfrif rydych chi’n ei ddefnyddio ar gyfer eich taliadau Credyd Cynhwysol.

Cael penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ysgrifennu atoch chi ar ôl eich asesiad. Mae’n gallu cymryd wythnosau neu fisoedd iddyn nhw wneud penderfyniad. Os nad ydych chi wedi clywed unrhyw beth ar ôl 8 wythnos, gofynnwch i’ch anogwr gwaith pam nad ydych chi wedi cael llythyr penderfyniad eto.

Ni fydd gennych chi LCW neu LCWRA wrth aros am eich asesiad. Os byddwch chi’n rhoi nodyn meddyg i’ch anogwr gwaith, dylen nhw ystyried eich cyflwr wrth benderfynu pa weithgareddau cysylltiedig â gwaith mae angen i chi eu gwneud.

Os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud nad oes gennych chi allu cyfyngedig

Gallwch chi ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ailystyried ei phenderfyniad os ydych chi’n credu ei fod yn anghywir.

Dylech chi ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ailystyried ei phenderfyniad os yw eich cyflwr wedi gwaethygu hefyd. Bydd angen i chi anfon tystiolaeth i ddangos bod eich cyflwr wedi newid.

Os bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud bod gennych chi allu cyfyngedig

Mae bod ag LCWRA yn golygu na fydd rhaid i chi weithio na gwneud unrhyw beth i baratoi ar gyfer gwaith. Mae bod ag LCW yn golygu na fydd rhaid i chi weithio, ond efallai y bydd angen i chi wneud rhai gweithgareddau cysylltiedig â gwaith. Dysgwch fwy am ba weithgareddau cysylltiedig â gwaith y bydd angen i chi eu gwneud ar Gredyd Cynhwysol.

Os oes gennych chi LCWRA, byddwch chi’n cael arian ychwanegol gyda’ch hawliad ac ni fyddwch chi’n cael eich effeithio gan y cap budd-daliadau. Fel arfer, mae’r cap budd-daliadau yn gosod uchafswm y gallwch chi ei gael o’ch holl fudd-daliadau gyda’i gilydd.

Byddwch chi hefyd yn cael arian ychwanegol os ydych chi wedi bod ag LCW ers cyn mis Ebrill 2017.

Gwiriwch faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch chi’n ei gael i ddysgu mwy am sut mae LCW ac LCWRA yn effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol.

Fel arfer, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ailasesu eich LCW neu eich LCWRA bob 1, 2 neu 3 blynedd. Efallai y byddan nhw’n eich ailasesu chi os byddwch chi’n dechrau gweithio hefyd.

Os oes gennych chi LCWRA, efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu na fydd angen iddyn nhw eich ailasesu chi yn y dyfodol – byddan nhw’n dweud wrthych chi yn y llythyr penderfyniad y byddan nhw’n ei anfon atoch chi ar ôl eich asesiad. Dim ond os yw hi’n annhebygol y bydd eich cyflwr yn gwella llawer yn y dyfodol y byddan nhw’n gwneud hyn, ac mae hyn yn golygu y bydd wastad gennych chi LCWRA.