Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.
Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cael rhagdaliad Credyd Cynhwysol

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Gallwch chi ofyn am ragdaliad Credyd Cynhwysol i’ch helpu chi i gael deupen llinyn ynghyd wrth ddisgwyl eich taliad cyntaf. Gallwch chi hefyd ofyn am ragdaliad os yw eich amgylchiadau wedi newid a’ch bod chi’n disgwyl i’ch taliadau Credyd Cynhwysol gynyddu.

Heb ragdaliad, ni fyddwch chi’n derbyn unrhyw arian tan o leiaf 5 wythnos ar ôl i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Dylech chi ofyn am ragdaliad os nad ydych chi’n credu y bydd gennych chi ddigon o arian i fyw arno rhwng pan fyddwch chi’n gwneud cais a phan fyddwch chi’n derbyn eich taliad cyntaf.

Benthyciad yw’r rhagdaliad – bydd rhaid i chi ei ad-dalu, ond ni fydd angen i chi dalu unrhyw log.

Cael rhagdaliad

Gallwch chi ofyn am ragdaliad trwy:

  • ofyn i’ch anogwr gwaith yn eich cyfweliad Credyd Cynhwysol cyntaf
  • gwneud cais trwy eich cyfrif ar-lein
  • ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Coronafirws - cael taliad ymlaen llaw

Ar hyn o bryd, gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol heb gael cyfweliad Credyd Cynhwysol.

Ni allwch chi ofyn am ragdaliad ar-lein na thrwy ffonio’r llinell gymorth oni bai eich bod chi wedi cael eich cyfweliad Credyd Cynhwysol cyntaf – dysgwch sut i drefnu eich cyfweliad Credyd Cynhwysol.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud wrthych chi os gallwch chi gael rhagdaliad – fel arfer, byddwch chi’n cael ateb yr un diwrnod.

Pan fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi cytuno i ragdaliad, dylech chi gael yr arian o fewn 3 diwrnod gwaith. Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi angen yr arian yn gynt – gallant eich talu chi yr un diwrnod os na fyddai gennych chi unrhyw arian arall i fyw arno.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn talu’r rhagdaliad i mewn i’r un cyfrif banc ag yr ydych chi’n ei ddefnyddio ar gyfer eich hawliad Credyd Cynhwysol.

Gallwch chi ofyn am hyd at fis o’ch hawl Credyd Cynhwysol. Nid oes rhaid i chi ofyn am eich hawl lawn – gallwch chi ofyn am lai. Os byddwch chi’n penderfynu eich bod angen mwy, gallwch chi ofyn am ail daliad, ond bydd rhaid i chi esbonio pam rydych chi ei angen. Ni all y taliad cyntaf a’r ail daliad gyda’i gilydd ddod i fwy na’r swm y mae gennych hawl iddo bob mis.

Enghraifft

Mae gan Campbell hawl i £500 y mis. Mae’n gofyn i’w anogwr gwaith am ragdaliad o £200 – gall ofyn am ail daliad yn ddiweddarach, ond ni fydd yn cael mwy na £300.

Siaradwch â’ch anogwr gwaith am faint y gallwch chi ofyn amdano. Byddwch chi’n talu eich rhagdaliad yn ôl trwy ddidyniadau misol o’ch Credyd Cynhwysol. Gofynnwch i’ch anogwr gwaith faint fydd y didyniadau.

Os byddwch chi’n benthyca taliad mis cyfan, gofalwch eich bod chi’n neilltuo rhywfaint ohono i dalu’ch rhent. Mae rhent wedi’i gynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol – fel arfer, nid yw’n cael ei dalu yn syth i’ch landlord.

Os ydych chi wedi cael eich cyfweliad yn barod

Gallwch chi ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol i ofyn am ragdaliad neu wneud cais trwy eich cyfrif ar-lein. Gallwch chi ofyn am hyd at fis namyn 3 diwrnod gwaith ar ôl i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Y peth gorau i’w wneud yw gofyn cyn gynted â phosibl. Ar ôl i chi hawlio Credyd Cynhwysol, bydd hi’n cymryd o leiaf 5 wythnos i chi gael eich taliad cyntaf (weithiau mwy). Felly, bydd angen i chi feddwl am faint o arian y byddwch chi ei angen cyn eich taliad cyntaf.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau i’r rhifau hyn yn ddi-dâl. Y peth gorau i’w wneud yw ffonio o’r rhif ffôn a roddoch chi i’r Adran Gwaith a Phensiynau pan greoch chi eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Ni fydd rhaid i chi aros mor hir a byddwch chi’n cael eich trosglwyddo i’r un person ag y buoch chi’n siarad ag ef o’r blaen.

Enghraifft

Mae Alice yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ddydd Llun 1 Hydref 2018.

Un mis ar ôl hyn fyddai dydd Iau 1 Tachwedd 2018.

Tri diwrnod gwaith cyn hynny fyddai dydd Llun 29 Hydref 2018.

Felly, mae gan Alice tan ddydd Llun 29 Hydref 2018 i ofyn am ragdaliad. Y peth gorau i’w wneud fyddai gofyn cyn gynted â phosibl er mwyn iddi gael ei harian yn gynt.

Ad-dalu’r rhagdaliad

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cymryd ad-daliadau yn awtomatig o’ch Credyd Cynhwysol hyd nes y byddwch chi wedi ad-dalu’r rhagdaliad. Byddan nhw’n dweud wrthych chi faint fydd yr ad-daliadau a faint y bydd hi’n cymryd i chi ad-dalu’r rhagdaliad.

Gallwch chi dreulio hyd at 12 mis yn ad-dalu’r rhagdaliad. Ni ddylai’r Adran Gwaith a Phensiynau ofyn i chi ei ad-dalu yn gynt os na allwch chi fforddio gwneud hynny – dywedwch wrth eich anogwr gwaith os bydd yr ad-daliadau’n achosi caledi i chi. Gallwch chi ofyn am gael ei ad-dalu’n gynt os ydych chi’n dymuno gwneud hynny.

Os gwrthodir rhagdaliad i chi

Gallwch chi ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ailystyried y penderfyniad os na fyddan nhw’n rhoi rhagdaliad i chi. Bydd yn helpu os gallwch chi roi tystiolaeth newydd neu ddangos bod eich amgylchiadau wedi newid ers eich cais cyntaf.

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd, gwiriwch pa help ychwanegol y gallwch chi ei gael.

Gallwch chi ddarllen mwy o gyngor ar gael help gyda’ch costau byw.

Os ydych chi mewn dyled neu os oes gennych chi ôl-ddyledion rhent

Mae yna rai camau y gallwch chi eu cymryd i’ch helpu chi i leihau eich dyled os ydych chi newydd wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Gallwch chi hefyd ddarllen ein cyngor ar ymdrin â dyled.

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu costau

Efallai y gallwch chi gael help gan eich cyngor lleol neu fenthyciad di-log gan y llywodraeth. Dysgwch sut i gael help ychwanegol.

Os oes gennych chi blentyn o dan 14 oed neu blentyn anabl, dylai eich cyngor lleol eich helpu chi. Gallen nhw dalu costau byw hanfodol neu ddod o hyd i rywle arall i chi fyw os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu costau tai. Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu am fwyd, dysgwch sut i gael help gan fanc bwyd.

Gallwch chi gael help gan gynghorydd os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu costau wrth ddisgwyl eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.