Beth yw Credyd Cynhwysol
Mae Credyd Cynhwysol wedi disodli’r budd-daliadau hyn i’r rhan fwyaf o bobl:
- Budd-dal Tai
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm (ESA)
- Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
- Credyd Treth Plant
- Credyd Treth Gwaith
- Cymhorthdal Incwm
Mae’n bosibl y gallwch gael Credyd Cynhwysol os nad ydych yn gweithio neu os ydych ar incwm isel – edrychwch i weld a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.
Mae’r Credyd Cynhwysol yn gweithio’n wahanol i fudd-daliadau eraill – felly mae’n bwysig eich bod yn gwybod y gwahaniaethau.
Y gwahaniaethau mwyaf yw:
- gallwch gael Credyd Cynhwysol os ydych chi’n ddi-waith ond hefyd os ydych chi’n gweithio
- fel arfer byddwch yn cael un taliad bob mis, yn hytrach na bob wythnos neu bob pythefnos
- yn hytrach na chael budd-dal tai ar wahân, fel arfer bydd eich rhent yn cael ei dalu yn syth i chi fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol misol
Sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio
Fel arfer, byddwch yn cael un taliad misol i dalu’ch costau byw. Os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol fel cwpwl, byddwch chi a’ch partner yn cael un taliad rhwng y ddau ohonoch chi. Mae’r taliad yn cynnwys ‘lwfans safonol’ a thaliadau ychwanegol a allai fod yn gymwys i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Efallai y gallwch gael taliadau ychwanegol os ydych chi’n:
- gofalu am un neu fwy o blant
- gweithio a thalu am ofal plant
- angen cymorth gyda chostau tai
- anabl neu fod gennych chi gyflwr iechyd
- gofalu am berson anabl neu fod gennych chi blentyn anabl
Edrychwch i weld faint allwch chi ei gael ar GOV.UK.
Os ydych chi’n cael cymorth gyda rhent
Os yw’ch taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys cymorth gyda rhent, fel arfer byddwch angen talu’ch landlord bob mis o’ch taliad Credyd Cynhwysol, hyd yn oed os ydych chi’n byw mewn llety cymdeithasol. Gallwch ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau dalu'ch rhent yn syth i'ch landlord os ydych chi mewn dyled, fod gennych chi rôl-ddyledion rhent neu’n cael trafferth gydag arian.
Os ydych chi’n gweithio
Gallwch weithio a derbyn Credyd Cynhwysol o hyd - bydd eich Credyd Cynhwysol yn gostwng yn raddol wrth i chi ennill mwy. Bydd eich Credyd Cynhwysol yn mynd i fyny os yw’ch swydd yn dod i ben neu os ydych chi’n ennill llai.
Os ydych chi'n hunangyflogedig, gallai'ch taliad gael ei effeithio hefyd gan faint mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn disgwyl i chi ei ennill bob mis - enw'r swm disgwyledig hwn yw'ch 'llawr lleiafswm incwm'. Dysgwch sut mae'r llawr lleiafswm incwm yn gweithio a gweld os yw'n berthnasol i chi.
Hawlio budd-daliadau eraill os ydych chi’n cael Credyd Cynhwysol
Dylech wneud cais am Ostyngiad Treth Gyngor – os byddwch yn ei gael, ni fydd yn lleihau faint o Credyd Cynhwysol a gewch.
Os ydych yn anabl, dylech wirio a ydych yn gymwys i gael Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP). Os ydych yn gyfrifol am blentyn anabl, dylech wirio a allwch wneud cais am Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ar gyfer eich plentyn. Ni fydd cael PIP neu DLA yn lleihau faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.
Gallwch hefyd hawlio budd-daliadau eraill os oes gennych chi ddigon o gyfraniadau yswiriant gwladol. Er enghraifft:
- os ydych chi'n ddi-waith, edrychwch i weld a allwch chi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar gyfraniadau, neu'r Lwfans Ceisio Gwaith 'newydd'
- os na allwch chi weithio oherwydd salwch neu anabledd, edrychwch i weld a allwch chi hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar gyfraniadau, neu'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 'newydd'.
Os ydych chi’n cael y naill neu'r llall o'r budd-daliadau hyn, bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau, ond mae yna resymau pam ei bod yn dal yn werth ei hawlio. Er enghraifft, telir Credyd Cynhwysol unwaith y mis, ond telir Lwfans Ceisio Gwaith ac Lwfans Cyflogaeth a Chymorth bob 2 wythnos. Efallai y bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i chi reoli’ch arian.
Gwneud cais am y Lwfans Ceisio Gwaith 'newydd'
Mae’n rhad ac am ddim i wneud cais ar-lein ar GOV.UK. Tynnwch lun neu sgrinlun o’r neges sy’n dweud bod eich cais wedi’i anfon – efallai y bydd angen hwn arnoch yn nes ymlaen i brofi pryd y gwanaethoch yr hawliad cyntaf.
Os na allwch chi wneud cais ar-lein, ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith:
Llinellau hawlio'r Ganolfan Byd Gwaith
Rhif ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888
Rhif ffôn: 0800 055 6688
Ffôn testun: 0800 023 4888
Relay UK - os nad ydych chi'n gallu clywed na siarad ar y ffôn, gallwch deipio’r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 055 6688
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu eich ffôn. Ni does tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan eu gwefan.
Fideo Relay - os ydych chi’n denfyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Ddydd Llun i Gwener, 8am tan 5pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Gwneud cais am y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 'newydd'
Gallwch wneud cais ar-lein am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ‘newydd’ ar GOV.UK, oni bai eich bod yn gwneud cais ar ran rhywun arall.
Bydd angen i chi wneud hyn hyd yn oed os ydych ar Gredyd Cynhwysol. Ni allwch wneud cais am Lwyfans Cyflogaeth a Chymorth trwy eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein mwyach.
Os ydych yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar ran rhywun arall neu os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol i wneud cais:
Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Rhif Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Rhif Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK – os nad ydych chi'n gallu clywed na siarad ar y ffôn, gallwch deipio’r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 055 6688
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu eich ffôn. Ni does tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan eu gwefan.
Fideo Relay - os ydych chi’n denfyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Ddydd Llun i Gwener, 8am tan 6pm
Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.
Os oes angen help arnoch gyda’ch cais Credyd Cynhwysol, gallwch siarad â chynghorydd. Gallant eich helpu i weithio allan a yw’n werth hawlio budd-daliadau eraill ar yr un pryd â Chredyd Cynhwysol.