Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.
Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Fel arfer, byddwch chi’n cael un taliad Credyd Cynhwysol bob mis. Bydd hwn yn cael ei dalu yn uniongyrchol i mewn i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.

Os nad oes gennych chi gyfrif banc

Os nad oes gennych chi gyfrif banc, bydd angen i chi agor un. Gallwch chi ddarllen mwy o wybodaeth am gael cyfrif banc.

Os ydych chi wedi ceisio agor cyfrif ond bod eich cais wedi cael ei wrthod, bydd angen i chi ddefnyddio’r Gwasanaeth Eithrio Taliadau. Bydd angen i chi esbonio pam na allwch chi agor cyfrif banc. Os ydych chi angen mwy o gyngor ar agor cyfrif banc, gallwch chi siarad â chynghorydd.

Sut mae taliadau’n gweithio i barau

Os byddwch chi’n gwneud hawliad ar y cyd fel pâr, byddwch chi’n cael un taliad rhwng y ddau ohonoch chi.

Dylech chi ddweud wrth y Ganolfan Waith os ydych chi eisiau i’r taliadau fynd i un ohonoch chi neu gael eu rhannu rhyngoch chi. Nid oes rhaid i’r Ganolfan Waith gytuno i wneud hyn.

Os yw’r taliadau’n cael eu rhannu, bydd y swm y bydd y ddau ohonoch chi’n ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gallwch chi ofyn i daliadau gael eu rhannu:

  • os yw hynny er eich lles pennaf, er enghraifft, os yw un ohonoch chi’n ei chael hi’n anodd rheoli arian a bod hynny’n peri problemau ariannol 
  • os yw hynny er lles pennaf plentyn rydych chi’n gyfrifol amdano
  • os ydych chi’n cael swm yn eich Credyd Cynhwysol gan eich bod chi’n gofalu am berson ag anabledd difrifol a’i fod yn help iddyn nhw gael eu talu fel hyn 

Os ydych chi’n hunangyflogedig

Bydd eich taliad misol yn cael ei effeithio gan:

Pryd y byddwch chi’n cael eich talu

Ar ôl i chi wneud cais, fel arfer bydd 5 wythnos yn pasio cyn i chi gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.

Gallwch chi ofyn am ragdaliad Credyd Cynhwysol os nad ydych chi’n credu y bydd gennych chi ddigon o arian i fyw arno wrth aros am eich taliad cyntaf.

Ar ôl i chi gael eich taliad cyntaf, byddwch chi’n cael eich talu yn fisol ar yr un dyddiad â’r taliad cyntaf.

Os ydych chi’n hunangyflogedig, bydd rhaid i chi adrodd eich enillion bob mis cyn y gallwch chi gael eich taliad. Dysgwch sut i adrodd eich enillion i’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Efallai y bydd angen i chi gyllidebu fel bod eich arian yn para o un mis i’r llall.

Gallwch chi ddefnyddio ein cyfrifydd cyllidebu i helpu.

Talu eich rhent neu eich morgais

Bydd rhywfaint o’ch Credyd Cynhwysol ar gyfer eich costau tai – fel arfer, disgwylir i chi dalu’r swm hwn yn uniongyrchol i’ch landlord eich hun. Gelwir y rhan hon o’ch taliad Credyd Cynhwysol yn ‘elfen dai’.

Os oes gennych chi forgais, ni fyddwch chi’n cael elfen dai ar gyfer ad-daliadau morgais. Efallai y byddwch chi’n gallu gwneud cais am fenthyciad Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI). Gall hyn helpu i dalu’r llog ar eich morgais neu eich benthyciad cartref – gwiriwch a allwch chi wneud cais am SMI.

Os ydych chi’n derbyn Budd-dal Tai yn barod pan fyddwch chi’n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch chi’n parhau i dderbyn Budd-dal Tai am bythefnos ar ôl i chi gyflwyno eich hawliad. Ni fydd angen i chi ad-dalu’r swm hwn.

Os ydych chi’n credu y bydd eich taliad rhent neu forgais yn hwyr gan eich bod chi’n disgwyl eich taliad Credyd Cynhwysol, dylech chi siarad â’ch landlord neu eich benthyciwr morgais. Efallai y byddan nhw’n cytuno i aros am eich taliad os byddwch chi’n esbonio’r sefyllfa iddyn nhw.

Os ydych chi mewn dyled neu ar ei hôl hi gyda’ch taliadau rhent, gallwch chi ofyn am “drefniant talu amgen”. Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n cael eich talu yn wahanol i’r arfer. Gallwch chi ddarllen mwy am beth i’w wneud os ydych chi mewn dyled neu’n ei chael hi’n anodd talu eich costau tai.

Banciau bwyd a help gyda threuliau argyfwng eraill

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd ar Gredyd Cynhwysol, gallwch chi gael help gyda phethau fel bwyd neu eitemau rydych chi eu hangen ar gyfer eich tŷ – er enghraifft, gwely neu bopty.

Dysgwch sut i wneud cais i fanciau bwyd yn eich ardal.

Ôl-ddyddio eich Credyd Cynhwysol

Gallwch chi wneud cais i gael taliad Credyd Cynhwysol i gwmpasu hyd at fis cyn i chi gyflwyno eich hawliad – gelwir hyn yn 'ôl-ddyddio'. Bydd angen i chi roi rheswm da dros beidio â hawlio yn gynharach – os ydych chi mewn pâr, bydd angen rheswm da ar y ddau ohonoch chi. Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd:

  • salwch – bydd rhaid i chi ddangos tystiolaeth feddygol o hyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau
  • anabledd
  • nad oeddech chi wedi cael gwybod bod eich Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) neu eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn dod i ben
  • bod y system hawlio ar-lein i lawr, a’ch bod chi wedi hawlio cyn gynted ag yr oedd yn gweithio eto
  • eich bod chi wedi gwneud hawliad newydd fel person sengl ar ôl gwahanu oddi wrth eich partner – gwiriwch beth i’w wneud os ydych chi yn y sefyllfa hon
  • eich bod chi wedi gwneud hawliad ar y cyd a ddaeth i ben gan nad oedd eich partner wedi derbyn yr ymrwymiad hawlydd – dylech chi fynd ati nawr i hawlio fel person sengl

Efallai nad oeddech chi wedi hawlio mewn pryd gan fod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud y peth anghywir wrthoch chi. Os bydd hyn yn digwydd, gallwch chi gwyno a gofyn am iawndal.

Ffoniwch y llinell gymorth Credyd Cynhwysol os ydych chi eisiau ôl-ddyddio eich hawliad.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK – os nad ydych chi'n gallu clywed na siarad ar y ffôn, gallwch deipio’r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu eich ffôn. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan eu gwefan. 

Fideo Relay - os ydych chi’n denfyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) 

Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube. 

Ddydd Llun i Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Camau nesaf

Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.