Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.

Trosglwyddo eiddo er budd plant

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Pan ddaw perthynas i ben, gall llys orchymyn trosglwyddo neu setlo cartref teulu i blentyn neu i’w riant neu warcheidwad - er budd y plentyn.

Os ydych chi’n dod â’ch perthynas i ben yn gyfreithiol – er enghraifft, drwy ysgaru – mae’r broses ar gyfer rhannu eich cartref yn wahanol.

Byddwch angen cymorth cyfreithiwr os ydych chi am wneud cais am orchymyn eiddo.

Pwy all wneud cais

Gallwch wneud cais am orchymyn os ydych chi’n rhiant neu’n warcheidwad plentyn dan 18 oed, neu os ydych chi’n cael eich enwi fel person y mae’r plentyn yn byw gyda chi mewn gorchymyn trefniadau plant.

Gall plentyn gynnwys plentyn o’r briodas neu bartneriaeth sifil a llysblant. Nid yw’n cynnwys plentyn maeth sydd wedi’i osod gyda chi gan yr awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol.

Mathau o orchmynion y gall y llys eu gwneud

Gall y llys wneud y gorchmynion canlynol er budd plentyn:

  • gorchymyn ‘setlo eiddo’ – er enghraifft, lle mae cartref y teulu yn cael ei gadw a’i ddefnyddio gan un cymar priod neu bartner sifil tan fo’r plentyn yn 18 oed. Bryd hynny, gellid gwerthu’r cartref a rhannu’r elw, gallai fod yn eiddo i’r plentyn, neu gellid ei roi yn ôl i’r perchennog gwreiddiol

  • ‘gorchymyn trosglwyddo eiddo’ – mae’r eiddo’n cael ei drosglwyddo i riant neu warcheidwad, neu i’r plentyn. Gall y llys fod yn amharod i drosglwyddo’r cartref i un priod neu bartner sifil yn llwyr gan mai bwriad gorchymyn yw bod yr eiddo er budd y plentyn yn hytrach nag er budd y naill bartner neu’r llall.

Sut mae’r llys yn gwneud ei benderfyniad

Mae Deddf Plant 1989 yn nodi sawl peth sy’n rhaid i’r llys edrych arnynt wrth wneud ei benderfyniad. Mae’n rhaid i’r llys ystyried holl amgylchiadau’r achos ynghyd ag:

  • incwm, gallu ennill, eiddo ac adnoddau ariannol y rhieni nawr ac yn y dyfodol agos

  • anghenion ariannol, rhwymedigaethau a chyfrifoldebau’r rhieni nawr ac yn y dyfodol agos

  • anghenion ariannol y plentyn

  • unrhyw incwm neu adnoddau ariannol eraill sydd gan y plentyn o bosibl

  • a oes gan y plentyn unrhyw anableddau

  • y ffordd yr oedd, neu y disgwyliwyd, i’r plentyn gael ei addysgu neu ei hyfforddi.

Gwybodaeth arall ddefnyddiol

Adolygwyd y dudalen ar 15 Rhagfyr 2020