Please note, this is a STATIC archive of website www.citizensadvice.org.uk from 15 Sep 2022, cach3.com does not collect or store any user information, there is no "phishing" involved.

Os yw’ch cyn-bartner yn ceisio gwneud i chi adael

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi’n byw gyda’ch cyn-bartner a bod y berthynas yn dod i ben, fel arfer bydd gennych yr hawl i aros gartref os ydych chi:

  • wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil

  • wedi’ch enwi ar y gweithredoedd eiddo neu gytundeb tenantiaeth

Dylech benderfynu beth i’w wneud gyda’r cartref roeddech chi’n ei rannu gyda’ch cynbartner.

Os nad ydych chi wedi priodi, mewn partneriaeth sifil neu’n cael eich enwi ar weithredoedd neu denantiaeth, efallai bod pethau y gallwch chi eu gwneud i aros yn eich cartref am dipyn.

Pwysig

Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n ofidus neu eich bod chi’n teimlo dan fygythiad, dylech ofyn am gymorth.

Peidiwch â cheisio cytuno ar beth i’w wneud am eich cartref heb siarad gyda rhywun yn gyntaf.

Gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Ferched ar 0808 2000 247 ar unrhyw adeg.

Elusen yw’r Men's Advice Line sy’n helpu dynion sy’n dioddef cam-drin domestig. Gallwch ffonio eu llinell gymorth ar 0808 801 0327 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud nesaf, cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.

Os nad oes gennych chi rywle arall i fynd

Efallai y bydd eich awdurdod lleol yn gallu rhoi cartref mewn argyfwng i chi tan i chi ddod o hyd i le mwy parhaol, neu eich helpu i fynd yn ôl i’ch tŷ os ydych chi angen.

Ewch i wefan Shelter i weld a allwch chi gael cartref mewn argyfwng.

Os ydych chi wedi gadael pethau yn y tŷ sydd eu hangen arnoch chi, gofynnwch i rywun y gallwch chi ymddiried ynddyn nhw eich helpu – ffoniwch yr heddlu ar 101 os ydych chi angen mwy o help.

Os ydych chi angen help i wneud cais am gartref mewn argyfwng neu os nad ydych chi’n gwybod lle i droi, cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf – gall cynghorydd eich helpu i geisio dod o hyd i rywle i aros.

Os ydych chi wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil

Os ydych chi eisoes wedi ceisio datrys pethau gyda’ch cyn-bartner ac yn cael anhawster penderfynu pwy sy’n mynd i fyw yn yr eiddo, gallwch gael help i ddod i gytundeb. Gall arbenigwr a elwir yn ‘gyfryngwr’ eich helpu chi a’ch partner i ddod o hyd i ddatrysiad heb fynd i’r llys.

Os nad yw cyfryngu yn gweithio, gallwch fynd â'ch partner i'r llys.

Efallai y cewch aros yn eich cartref wrth i’r gwahanu gael ei setlo’n derfynol gan lys, hyd yn oed os nad yw eich enw ar y gweithredoedd neu’r cytundeb tenantiaeth. Mae hyn oherwydd bod gennych chi ‘hawliau cartref’ - rhywbeth a elwir o bryd i’w gilydd yn ‘hawliau cartref priodasol’.

Os ydych chi’n rhentu, efallai y cewch eich hawliau cartref os ydych chi’n mynd â'ch partner i'r llys.

Os mai’ch cyn-bartner sy’n berchen ar eich cartref ac nad yw eich enw ar y gweithredoedd fel arfer, gallwch gofrestru eich hawliau cartref eich hun - am ragor o wybodaeth am hyn ewch i GOV.UK.

Os nad ydych chi wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil

Dylech wneud cais am ‘orchymyn meddiannaeth’ os ydych chi am aros. Os ydych chi eisoes wedi gadael, gallwch wneud cais am orchymyn meddiannaeth i gael mynd yn ôl.

Fel arfer, bydd gorchymyn meddiannaeth yn para 6 mis, ond gallwch chi wneud cais iddo gael ei adnewyddu. Gallwch wneud cais am ddim.

Gwneud cais am orchymyn meddiannaeth

Bydd angen i chi fynd i’r llys i gael y gorchymyn. Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Tystion os ydych chi’n poeni am hyn – gallant roi cyngor neu gymorth i chi cyn y gwrandawiad.

Y peth cyntaf fydd angen i chi ei wneud yw llenwi'r ffurflen gais ar GOV.UK.

Mae’r ffurflen yn gofyn i chi am:

  • eich enw a’ch manylion cyswllt

  • enw a manylion cyswllt eich cyn-bartner, os ydynt gennych chi

  • manylion eich morgais, os oes gennych chi un

  • rhesymau am wneud cais

Bydd angen i chi ysgrifennu ‘datganiad tyst’ hefyd a’i gynnwys gyda’r ffurflen. Mae hwn yn gyfle i chi egluro pam eich bod angen gorchymyn meddiannaeth - er enghraifft, oherwydd na allwch chi symud i unrhyw le arall ar hyn o bryd.

Ysgrifennwch ‘Credaf fod y ffeithiau a nodir yn y datganiad hwn yn wir’ ar waelod y dudalen, ac yna llofnodwch a rhoi’r dyddiad ar y datganiad.

Anfonwch 3 copi o’ch cais i’ch llys meddiannaeth tai agosaf. Byddant yn trefnu bod copi yn cael ei anfon at eich cyn-bartner ac yn gofyn iddynt ysgrifennu eu datganiad tyst eu hunain.

Os nad ydych chi am i’ch cyn-bartner wybod ble rydych chi’n aros, gallwch adael cyfeiriad yn wag ar y ffurflen. Yn hytrach, ysgrifennwch eich cyfeiriad ar y ffurflen hon a’i chynnwys gyda’ch cais.

Bydd y llys yn cysylltu â chi gyda dyddiad ar gyfer y gwrandawiad llys. Os ydych chi’n poeni am fod yn y llys gyda’ch cyn-bartner, gallwch ofyn i’r gwrandawiad gael ei gynnal mewn ystafelloedd ar wahân.

Cyflymu’r broses

Os ydych chi am atal eich cyn-bartner rhag dod yn ôl wrth i chi aros am orchymyn meddiannaeth, gofynnwch i’r llys ‘wrando ar eich cais heb roi rhybudd i’r ymatebydd’. Bocs ticio yn adran 3 y ffurflen yw hwn ac weithiau fe’i gelwir yn ‘orchymyn brys’.

Bydd angen i chi eglur yn eich datganiad tyst bod eich cyn-bartner yn debygol o:

  • osgoi gorchymyn meddiannaeth yn fwriadol

  • eich niweidio chi neu’ch plant yn gorfforol

  • eich atal rhag gwneud cais os ydych chi’n aros mwy

Mynd i’r gwrandawiad

Fel arfer, bydd eich gwrandawiad yn cael ei gynnal yn eich llys teulu agosaf. Yn y rhan fwyaf o achosion, yr unig bobl ar wahân i staff y llys fyddwch chi, eich cyn-bartner a’ch cyfreithwyr.

Ar ddiwedd y gwrandawiad, bydd y llys naill ai’n penderfynu:

  • bod yn rhaid i’ch cyn-bartner roi addewid i wneud neu beidio gwneud rhywbeth - er enghraifft gadael i chi aros yn y cartref

  • eu bod angen rhagor o wybodaeth – efallai y byddwch chi’n cael gorchymyn tymor byr i’ch amddiffyn tan i chi ddarparu’r wybodaeth hon

  • rhoi gorchymyn meddiannaeth

Byddwch yn cael copi o unrhyw orchymyn y bydd y llys yn ei roi drwy’r post – bydd yn dweud beth all eich cyn-bartner ei wneud a ddim ei wneud.

Mae’n rhaid cyflwyno’r gorchymyn meddiannaeth i’ch cyn-bartner i’w wneud yn swyddogol – mae hyn yn golygu bod angen iddynt gael copi o’r gorchymyn yn bersonol. Bydd eich cyfreithiwr yn gwneud hyn os ydych chi’n defnyddio un.

Os nad ydych chi’n defnyddio cyfreithiwr, gofynnwch i’r llys gyflwyno’r gorchymyn i chi.

Unwaith y bydd gan eich cyn-bartner eu copi, gellir gorfodi’r rheolau y mae’n rhaid iddynt eu dilyn oherwydd y gorchymyn. Os ydych chi’n meddwl bod eich cyn-bartner yn gwneud unrhyw beth sy’n mynd yn groes i’r gorchymyn, ffoniwch yr heddlu.

Beth i’w wneud nesaf

Pan fyddwch chi’n barod, bydd angen i chi benderfynu beth i’w wneud am y cartref os ydych chi am aros yno ar eich pen eich hun – er enghraifft, newid eich cytundeb tenantiaeth.

Beth i'w wneud gyda'ch cartref pan fyddwch chi'n gwahanu.